Neidio i'r prif gynnwy

Robin ymroddgar yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ennill gwobr Gogledd Cymru

Cafodd Joyce Tudor, a ddechreuodd wirfoddoli ar Ward Morris bron i chwe blynedd yn ôl, ei henwebu am Wobr Seren Betsi gan ei chydweithwyr am ei hymroddiad i gefnogi'r tîm ar ward gofal yr henoed.

Mae Joyce yn cynnig ystod o gefnogaeth ar y ward, yn cynnwys helpu i gynnal sesiynau gweithgareddau a chrefft i gleifion, a chynorthwyo gyda phartïon te prynhawn. Mae hefyd yn cynnig cwmnïaeth a sgwrs i gleifion ar y ward, yn cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia y mae eu lles yn gwella diolch i'w rhyngweithiad.

Yn ogystal â chynnig help llaw ar y ward, mae Joyce hefyd yn codi arian i Ward Morris ac Uned Canser Seren Wib yr ysbyty.

Mae Gwobr Seren Betsi misol yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr GIG Gogledd Cymru.

Dywedodd Joyce: "Mae wedi bod yn brofiad hyfryd derbyn y wobr hon, roedd wir yn annisgwyl iawn.

"Rwy'n mwynhau dod i mewn a helpu unigolion, mae'n rhoi llawer o bleser i mi i ddod a helpu'r ward."

Dywedodd Sharon Jones, Rheolwr Ward: "Mae Joyce yn aelod gwerthfawr a hanfodol o Dîm Ward Morris. Mae'n dod ag ymrwymiad, gofal, ymroddiad, a gwên gynnes a chyfeillgar i'r ward. 

"Mae cleifion yn edrych ymlaen at weld Joyce, ac mae’n gwneud ymdrech hyfryd i siarad â'r holl gleifion, gan eistedd yn siarad a hel atgofion.

"Ni allaf ddychmygu Ward Morris heb Joyce. Mae'n cael ei gwerthfawrogi cymaint ag unrhyw aelod arall o'r tîm, ac mae'n ffrind hyfryd ac annwyl i nifer o'r staff ar y ward."

Yn ogystal â darparu cefnogaeth amhrisiadwy i'w chydweithwyr ar Ward Morris, mae Joyce hefyd yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth cymheiriaid i Robiniaid eraill sy'n dechrau yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Bu i Katie Collins, Cydlynydd Gwirfoddolwyr, enwebu’r Robin gwych am y wobr, gan ddisgrifio Joyce fel aelod gwerthfawr a hanfodol o Dîm Ward Morris.

Dywedodd Katie: "Rwy'n credu fod Joyce yn ysbrydoliaeth. Mae'n unigolyn cynnes, tyner, ac rwyf wir eisiau i ni ddathlu ei gwaith.

"Mae wedi bod yn gwirfoddoli am oddeutu chwe blynedd yn awr, yn dod i mewn yn gynnar ac yn aros yn hwyr ddwywaith yr wythnos.

"Mae Joyce yn treulio oddeutu 400 awr y flwyddyn gyda ni, ac mae'n wirfoddolwr gwych sy'n llwyr haeddu'r wobr hon.

Bu i Sue Hill, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid Dros Dro y Bwrdd Iechyd gyflwyno'r wobr i Joyce, a oedd wedi cael ei hysbrydoli cymaint gan ei hymdrechion ei bod hefyd wedi cofrestru fel gwirfoddolwr yn yr ysbyty.

Dywedodd Sue: "Mae Joyce yn enghraifft wych o'r effaith bositif y gall ein gwirfoddolwyr ei chael ar ein cleifion a'n staff.

"Mae ei chydweithwyr ar Ward Morris yn ei pharchu ac yn ei hoffi, ac mae wedi gwneud gwaith amhrisiadwy, gan ddarparu cynhesrwydd a chwmnïaeth i'r cleifion yno.

"Roeddwn i wir wedi cael fy ysbrydoli gan y gwaith y mae yn ei wneud- cymaint nes fy mod wedi cyflwyno cais i fod yn wirfoddolwr yn Ysbyty Maelor Wrecsam fy hun."