Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu nyrs Ysbyty Gwynedd ar ôl trin 30,000 o gleifion

Mae nyrs yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd wedi'i chanmol gan ei chydweithwyr ar ôl trin dros 30,000 o gleifion.

Dechreuodd Rhiannon Pritchard ei gyrfa yn yr Adran Achosion Brys fel nyrs staff ym mis Gorffennaf 1999 ac, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth yn Ymarferydd Nyrsio Achosion Brys (ENP).

Roedd gan Rhiannon rôl hollbwysig o ran sefydlu'r gwasanaeth ENP yn ardal mân achosion yr adran sydd wedi gwella'r gwasanaeth a gynigir i gleifion.

Mae ENPs yn nyrsys sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig sydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymwysterau i asesu, gwneud diagnosis ac i benderfynu ar y cwrs triniaeth priodol i gleifion.

“Rydw i wrth fy modd gyda'm gwaith ac rydw i'n cael boddhad mawr o gynnig y pecyn gofal cyfan, o asesu hyd at ryddhau cleifion.

“Mae fy rôl yn cynnwys asesu ein cleifion sy'n dod i ardal Mân Achosion yr Adran Achosion Brys er mwyn gwneud diagnosis.

“Gallai gynnwys trefnu profion neu belydr-x angenrheidiol a byddaf yn dehongli'r canlyniadau. Yna, gallaf ragnodi'r driniaeth berthnasol sy'n cynnwys castiau plastr, sblintiau, pwythau, gorchuddion a rhwymynnau.

“Mae'r gwasanaeth yn rhan hynod bwysig o'n hadran a bydd cleifion nad ydynt yn achos brys yn dod atom ni am driniaeth os nad oes angen sylw meddyg arnynt a gall y meddyg ofalu am ein cleifion sydd â'r salwch mwyaf difrifol," meddai Rhiannon.

Mae Lyn Roberts, Metron yr Adran Achosion Brys, wedi canmol Rhiannon am drin nifer anhygoel o gleifion, yn cynnwys 30,000 o bobl, dros y blynyddoedd.

Dywedodd: “Hoffwn i ddiolch i Rhiannon am ei hymroddiad parhaus i'r rôl - mae hi'n nyrs wirioneddol wych ac mae hi wedi gofalu am filoedd o bobl yn ein cymuned.

“Roedd hi gyda mi o'r cychwyn pan wnaethom ni sefydlu gwasanaeth ENP a helpodd i ddatblygu ein hardal Mân Achosion.

“Mae hi'n aelod gwerthfawr iawn o staff ac rydym ni'n lwcus iawn i'w chael hi'n rhan o'r tîm."