Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi'r dechrau gorau i fywyd i fabanod yn ystod Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd

Mae dechrau Awst yn nodi dechrau Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd ac mae dwy fam yn awr yn lledaenu'r gair o ba mor bwysig yw bwydo ar y fron i'r fam a'r babi.

Nod Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd, sy'n cael ei chynnal o 1 i 7 Awst, yw addysgu mamau, yn ogystal â darpar famau, ar y nifer o fanteision iechyd bwydo ar y fron ac i annog merched i'w ddewis fel y dull a ffafrir ar gyfer bwydo eu babi. 

Mae meithrin a hybu perthynas rhiant-baban wrth wraidd Cynllun Strategol Bwydo Babanod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a lansiwyd yn ddiweddar, sy'n annog rhieni i deimlo'n rymus ac i alluogi bwydo ar y fron.

Gall cyswllt croen wrth groen ar unwaith ar ôl genedigaeth gefnogi bondio cynnar rhwng rhieni a phlant ac mae'n agwedd bwysig o'r cynllun.

Cafodd Alice Horwood, mam newydd o Bwllheli, Loli Mair sy'n wyth mis oed drwy lawdriniaeth caesarean brys yn Ysbyty Gwynedd a chafodd gefnogaeth gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd i ddechrau bwydo ar y fron.

Dywedodd: "Rwy'n cofio cael llawer o amser croen wrth groen gyda fy mabi ar ôl iddi gael ei geni. Nid oeddwn yn gallu gwneud llawer ar ôl y llawfeddygaeth, a helpodd myfyriwr bydwreigiaeth fy mabi i gydio ar y fron ac i fwydo ar y fron.

"Roedd yn anodd iawn i ddechrau gan ei fod yn brifo. Nid oedd fy merch yn cydio'n iawn ar un ochr ond pan ymwelodd yr ymwelydd iechyd, fe helpodd mi i wella'r cydio ar yr ochr hwnnw ac roedd yn llawer gwell.

"Roeddwn wedi penderfynu bwydo ar y fron yn gynnar yn fy meichiogrwydd, dyna'r unig opsiwn y meddyliais amdano ac ar ôl y llawdriniaeth caesarean roedd hyd yn oed yn bwysicach imi fwydo ar y fron.

"Rwyf wedi bod yn lwcus iawn, roedd gennyf ffrindiau a oedd yn gefnogol iawn a chysylltais hefyd â phobl sydd wedi bod yn fentoriaid bwydo ar y fron a roddodd gyngor i mi.

"Mae bwydo ar y fron wedi gweithio'n dda i mi ac rwy'n falch fy mod wedi dyfalbarhau er ei fod yn anodd yn yr wythnosau cyntaf.

"Rydych yn dod i arfer â'ch gilydd ac yn gwybod beth sy'n gweithio i chi a'ch babi."

Dywedodd Rebecca Masters, Meddyg Ymgynghorol mewn Iechyd Cyhoeddus yn yr Wyddgrug, sydd â dau o blant, Juno sy'n bum mlwydd oed a Rory sy'n flwydd oed ei bod eisiau bwydo ar y fron erioed.

Dywedodd: "Roedd fy ffrindiau i gyd wedi bwydo ar y fron ac roeddent yn gadarnhaol iawn am eu profiad, felly roedd yn teimlo fel dewis hawdd i'w wneud.

"Roeddwn eisiau rhoi'r gorau i fy mhlant, ac roeddwn yn gwybod bod bwydo ar y fron yn rhan o hynny.

"Nid oeddwn yn siŵr am ba mor hir y byddwn yn bwydo ar y fron i ddechrau. Ni roddais unrhyw bwysau ar fy hun i weithio tuag at amserlen benodol.

Wedi i mi wneud ychydig o fisoedd penderfynais waeth i mi gyrraedd chwe mis. Yna pan ddaeth chwe mis fe anelais at 12. Fe wnes fwydo fy merch nes iddi ddiddyfnu  ei hun yn 12 mis oed. Nid yw fy mab yn dangos unrhyw arwyddion ei fod am stopio yn 13 mis oed.

"Fy nghyngor i deuluoedd eraill fyddai i fwrw ymlaen â bwydo ar y fron 100 y cant. Mae werth y teimlad anghyfforddus yn y diwrnodau cynnar ac mae'n sicr yn haws na sterileiddio poteli.

"Mae wedi rhoi dechrau gwych i'w iechyd, ac mae wedi golygu fy mod wedi colli'r pwysau y rhoddais ymlaen gyda phob beichiogrwydd.

Bwydo ar y fron yw'r ffordd mwyaf naturiol i famau fwydo eu babanod, mae'n bwysig iawn bod mamau'n teimlo bod croeso iddynt fwydo ar y fron a'u bod yn teimlo'n gyfforddus i fwydo ar y fron wrth iddynt grwydro ar draws Gogledd Cymru. Mae Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron BIPBC yn amlygu'r adeiladau sy'n cefnogi merched i fwydo ar y fron. 

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus: "Mae creu amgylchedd cefnogol a chroesawgar yn bwysig i famau o Ogledd Cymru sy'n bwydo ar y fron.

"Byddwn yn croesawu mwy o adeiladau cefnogol i ymuno ac i gydnabod ein Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron, a fydd yn ein helpu ni fel cymdeithas i ddatblygu diwylliant o gefnogaeth gadarnhaol i ferched."

Nodiadau:

I weld y Cynllun Strategol Bwydo Babanod BIPBC, ewch ar:

Fersiwn Cymraeg: https://bit.ly/2W0yFPJ

Fersiwn Saesneg: https://bit.ly/2u8SKr1

Mae'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron wedi'i sefydlu i ddynodi adeiladau i gefnogi anghenion mamau sy'n bwydo ar y fron a'u babanod. Mae'r cynllun yn agored i fusnesau lleol gofrestru

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/page/85317

Mae Grwpiau Cefnogaeth Bwydo ar y Fron i famau hefyd ar gael ar draws Gogledd Cymru i roi cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ddefnyddiol:

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/page/85247