Neidio i'r prif gynnwy

Yr Asiantaeth Ddarllen yn dathlu cynllun iechyd meddwl a lles yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst

Dathlodd yr Asiantaeth Ddarllen ei chynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst heddiw (dydd Gwener 9 Awst), mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bellach, gall gweithwyr iechyd proffesiynol Cymru roi presgripsiwn am lyfrau llyfrgell am ddim i helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae'r arbenigwyr y tu ôl i'r cynllun yn galw'r dull yn 'bibliotherapi'.

Mae'r cynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl wedi'i ddatblygu gan yr Asiantaeth Ddarllen a llyfrgelloedd cyhoeddus, sefydliadau iechyd blaenllaw gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Mind, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Cymdeithas Seicolegol Prydain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, yn ogystal ag unigolion sydd â phrofiad personol o anghenion iechyd meddwl a'u perthnasau a'u gofalwyr.

Mae'r cynllun bellach ar gael yng Nghymru yn dilyn ei lwyddiant yn Lloegr, lle mae 931,000 o bobl wedi benthyca dros ddwy filiwn o lyfrau Darllen yn Well o lyfrgelloedd cyhoeddus.

Meddai Debbie Hicks, Cyfarwyddwr Creadigol yr Asiantaeth Ddarllen: "Bydd un ymhob pedwar ohonon ni'n wynebu problem iechyd meddwl rywbryd yn ein bywydau. Profwyd bod darllen yn gallu helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl a'u lles eu hunain. Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio gyda Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru i ddod â'r rhaglen hon sy'n newid bywydau i Gymru, gyda llawer o'r llyfrau ar gael yn y Gymraeg am y tro cyntaf."

Mae copïau o'r llyfrau bellach ar gael i'r cyhoedd i'w benthyg am ddim gan lyfrgelloedd cyhoeddus pob un o'r 22 awdurdod yng Nghymru. Gall y llyfrau gael eu hargymell gan weithiwr iechyd proffesiynol a'u benthyg am ddim gan lyfrgell leol, neu gall defnyddwyr hunanatgyfeirio a benthyg y llyfrau fel y bydden nhw'n benthyg unrhyw lyfr llyfrgell arall.

Meddai Teresa Ann Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydw i'n falch iawn y bydd cynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn cael ei ddathlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, ac rydyn ni'n llwyr gefnogi'r cynllun ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda gwasanaethau llyfrgell i hyrwyddo'r cynllun yn frwd gyda'n cleifion, eu gofalwyr a staff ac rydyn ni'n gwerthfawrogi'r amrywiaeth o wasanaethau iechyd a lles sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd ledled Cymru."

Meddai Bethan M. Hughes o Gymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: "Gall llyfrgelloedd gynnig lle diogel i bobl yn eu cymunedau lleol i fynd a darllen amrywiaeth o lyfrau pwysig, ac mae'r cynllun Darllen yn Well yn enghraifft wych o hyn. Cryfder yr ymgyrch yma yw bod cymaint o bartneriaid credadwy yn gefn iddi, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydyn ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r casgliad yma'n fwy na rhestr o lyfrau – mae'n cynrychioli'r grym a'r effaith y gall darllen ei chael ar newid bywydau."

Mae'r casgliad yn darparu cymorth a gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae hefyd yn cynnwys straeon personol ysbrydoledig gan bobl sy'n byw gyda rhywun sydd ag anghenion iechyd meddwl neu sy'n gofalu amdanyn nhw. Maen nhw'n cynnwys Reasons to Stay Alive gan yr awdur arobryn Matt Haig, sy'n ymchwilio i'w brofiad personol o ddod yn agos at ladd ei hun pan oedd yn 24 oed, a The Recovery Letters, sef casgliad o lythyrau teimladwy a ysgrifennwyd gan bobl sydd wedi gwella o iselder neu sydd wrthi'n gwella ohono.

Gan fod cyflyrau iechyd meddwl yn cynrychioli'r achos unigol mwyaf o anabledd yng ngwledydd Prydain, mae'r Asiantaeth Ddarllen o'r farn ei bod yn hanfodol bod y cymorth yma ar gael i bawb, ac felly mae'n gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i gyfieithu'r llyfrau i'r Gymraeg.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: "Rydyn ni'n falch o gael gweithio gyda'r Asiantaeth Ddarllen ar y cynllun yma, ac mae cael llyfrau o'r math yma yn Gymraeg yn hanfodol. Mae'n brosiect mawr, un sy'n gofyn am lawer iawn o ymrwymiad gan lawer o bobl er mwyn iddo lwyddo, gan gynnwys cyfieithwyr, golygyddion, dylunwyr a chyhoeddwyr.

Rydyn ni wrth ein boddau bod y pedwar llyfr cyntaf ar gael mewn llyfrgelloedd a siopau llyfrau ledled Cymru i gynnig help a chymorth i ddarllenwyr. Y gobaith yw y bydd y llyfrau yma'n ysbrydoli gwaith gwreiddiol yn y Gymraeg, yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad i'r rhai sy'n dymuno eu defnyddio fel darllen hunan-gymorth i ddeall amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl."

Meddai Ainsley Bladon, Arweinydd Strategaeth Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru: "Mae'r cynllun Darllen yn Well, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle gwych – i barhau â gwaddol cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru, i rymuso unigolion i reoli eu lles eu hunain gan ddefnyddio dulliau iechyd y cyhoedd, ac, yn unigryw, i gynnig ystod lawn o deitlau Cymraeg yn ein llyfrgelloedd, gan gynrychioli'r prosiect cyfieithu mwyaf erioed yng Nghymru."

Nod y cynllun yw sicrhau bod cymorth a gwybodaeth am iechyd meddwl o safon ar gael i'r cyhoedd yn rhwydd. Mae'r cynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl wedi'i lansio gan yr Asiantaeth Ddarllen a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl, ewch i: https://reading-well.org.uk/cymru