Neidio i'r prif gynnwy

Pencampwr LGBT+ Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar restr fer prif wobr genedlaethol.

Mae Jack Jackson, Arweinydd Tîm ar gyfer Lles Meddyliol a Chwnsela ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar restr fer ar gyfer Gwobr Esiampl 2019 gwefan LGBT+, PinkNews .

Bydd yn mynychu seremoni fawreddog gwobrau PinkNews ym mis Hydref yn Llundain, a fydd yn dathlu'r gorau a'r disgleiriaf yng nghydraddoldeb LGBT+.

Mae'r Wobr Esiampl yn wobr newydd sy'n ceisio dathlu unigolyn sydd wedi arwain drwy esiampl i rymuso'r gymuned LGBT+.

Nid dyma'r tro cyntaf y mae ymdrechion Jack wedi cael eu cydnabod. Yn 2018 cafodd ei enwi'n Esiampl Trawsrywiol y Flwyddyn gan Stonewall UK mewn cydnabyddiaeth o'i waith gwirfoddol ar achosion LGBT+ ac ymdrechion i ehangu dealltwriaeth o faterion trawsrywiol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Jack a'i bartner ers dros 20 mlynedd, Trudy, wedi sefydlu grŵp cefnogi annibynnol yn ddiweddar sy'n helpu rhieni a gofalwyr pobl ifanc yng Ngogledd Cymru sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhyw.

Mae hefyd wedi datblygu cynllun bydi ar gyfer myfyrwyr trawsrywiol ym Mhrifysgol Bangor, ac mae ar hyn o bryd yn datblygu "darlithoedd amser cinio" ar gyfer staff Prifysgol i godi ymwybyddiaeth am anghenion myfyrwyr trawsrywiol, lesbiaid, hoyw neu fyfyrwyr deurywiol.  Mae Jack hefyd yn rhanddeiliaid ar y Grŵp Cymru Gyfan Partneriaeth Hunaniaeth Rhyw.

Mae Jack hefyd wedi'i gydnabod am ysbrydoli cydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd i siarad yn agored am iechyd meddwl a materion sy’n gysylltiedig â bod yn drawsrywiol. 

Chwaraeodd rôl allweddol wrth sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei gydnabod fel un o brif gyflogwyr y DU gan Stonewall, elusen LGBT+ am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. 

Mae ar hyn o bryd yn datblygu hyfforddiant ymwybyddiaeth ac adnoddau ar gyfer staff nyrsio o amgylch anghenion cleifion LGBT+.

Dywedodd Mike Townson, Uwch Reolwr Cydraddoldeb yn BIPBC a enwebodd Jack am y wobr:

"Mae gan Jack rôl allweddol wrth helpu i ehangu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am faterion trawsrywiol ar draws y GIG yng Nghymru. Mae'n unigolyn hyfryd, ac yn llysgennad gwych ar gyfer BIPBC ac rwyf wir yn gobeithio y bydd hyn yn cael ei gydnabod yn y gwobrau."

Mae Jack yn credu bod ei allu i ddylanwadau eraill a'u hysbrydoli yn deillio o fod yn fo ei hun yn y gwaith ac yn ei fywyd personol, ar ôl llawer o flynyddoedd o fod ofn rhagfarn a pheidio cael ei dderbyn.

Dywedodd: "Rwy'n ddyn trawsrywiol ac rwy’n gwybod am fy hunaniaeth rhyw ers llawer o flynyddoedd. Ond am amser hir nid oeddwn yn teimlo fy mod yn gallu bod yn fi fy hun yn fy ngwaith nac yn fy mywyd personol, drwy fod ofn rhagfarn a pheidio cael fy nerbyn.

“Mae bod yn fi fy hun wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl - mae byw fy mywyd fel Jack wedi fy ngalluogi, nid yn unig, i garu fi fy hun ond hefyd i eraill fy ngharu. Trwy fod yn fi fy hun yn y gwaith, mae gen i gysylltiad dyfnach â fi fy hun a dealltwriaeth well. Mae wedi cael effaith bositif iawn ar fy lles yn feddyliol ac yn gorfforol. Ac mae wedi fy ngalluogi i gael ymdeimlad cryfach a dyfnach o lawer o ran fy hunanwerth a'm hyder.

"Rwyf wedi ymfalchïo mewn helpu i ddylanwadu ar ymwybyddiaeth am faterion trawsrywiol ar draws y Bwrdd Iechyd a'r gymuned ehangach yng Ngogledd Cymru."