Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwythau am ddim i blant yn Ysbyty Maelor Wrecsam i annog bwyta'n iach

Mae menter treialu i roi ffrwythau am ddim i blant pan fyddent yn cyrraedd yr adran cleifion allanol i blant wedi cael ei lansio gan Ysbyty Maelor Wrecsam.  

Mae hyd at 500 o bobl ifanc yn mynd drwy ddrysau’r adran bob wythnos a dywedodd Andrea Basu, Dietegydd Iechyd Cyhoeddus, eu bod eisiau annog arferion bwyta’n iach ymysg plant sy’n dod i’r ysbyty. 

Mae’r fenter ffrwythau am ddim yn rhan o gynllun lles ehangach Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Wrecsam i annog newidiadau cadarnhaol yn y gymuned sy’n cefnogi pobl i gael mynediad at ddiet iach.

Dywedodd Andrea: “Rydym eisiau i’n plant a’n pobl ifanc gael dechrau iach mewn bywyd ac mae datblygu arferion bwyta da yn rhan o hynny.

“Rydym yn falch bod y rhieni a’r plant wedi ymateb mor gadarnhaol iddo. Sefydliad sy’n hybu Iechyd ydym ac felly mae’n wych gweld bod rhan fwyaf o’r plant sy’n dod trwy ein drysau yn awr yn gadael wedi bwyta ffrwyth.”

Cyflenwir y ffrwythau gan adran arlwyo’r ysbyty ar hyn o bryd ond mae’r ysbyty yn chwilio am gyllid gan ffynonellau allanol i symud y cynllun hwn yn ei flaen gan iddo fod mor llwyddiannus.