Neidio i'r prif gynnwy

Dros 500 o bobl yn cael eu gweld yn ystod mis cyntaf yr uned gofal brys dynodedig newydd i helpu pobl i osgoi derbyniadau i'r ysbyty

Uned Gofal Brys yr Un Diwrnod i wella amseroedd triniaeth a chynyddu capasiti yn Ysbyty Glan Clwyd

Mae staff yn yr Uned Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC), a agorodd ar 3 Gorffennaf, wedi helpu dros 390 o bobl a aeth at eu Meddygon Teulu neu Adran Achosion Brys yr ysbyty i osgoi derbyniad i'r ysbyty.

Llwyddodd gwaith tîm rhwng nyrsys, meddygon a staff radiograffeg i helpu 70 y cant o'r ymwelwyr i fynd yn ôl adref ar yr un diwrnod yn dilyn triniaeth, gan eu galluogi i wella gartref gan gynyddu’r capasiti yn yr Adran Achosion Brys hefyd.

Mae'r uned yn ceisio asesu, rhoi diagnosis a thrin cleifion cymwys cyn eu rhyddhau'n ddiogel adref i wella neu i aros am fwy o brofion neu driniaethau.

Yn flaenorol, byddai'r cleifion hynny wedi gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty wrth aros am fwy o ofal.

Ond diolch i'r gwaith tîm a monitro’r cleifion yn ddiogel, mae pobl sydd â phoen yn y frest neu'r abdomen, crawniadau neu gur pen difrifol yn osgoi arosiadau diangen yn yr ysbyty.

Uned Gofal Brys yr Un Diwrnod i wella amseroedd triniaeth a chynyddu capasiti yn Ysbyty Glan Clwyd Dywedodd Andy Long, Rheolwr Cyffredinol ar gyfer Gofal Brys: "Rydym yn hapus iawn gyda sut mae'r Uned Gofal Brys yr Un Diwrnod wedi perfformio dros ei phedwar wythnos cyntaf.

"Gwyddom mewn sawl achos, nad yw aros yn yr ysbyty wrth aros am fath benodol o driniaeth neu brofion diagnostig bob amser y peth gorau i'ch lles cyffredinol.

"Drwy fynd yn ôl adref i gyfforddusrwydd eu cartrefi eu hunain wrth aros am sgan, prawf neu driniaeth benodol, gwyddom fod pobl yn gallu gwella'n well gartref, gan dreulio amser gyda ffrindiau a'u hanwyliaid. 

"Er nad oedd pawb a welsom yn gallu mynd yn ôl adref yr un diwrnod, gwyddom fod cyfran sylweddol o'r bobl a welsom wedi osgoi arhosiad yn yr ysbyty. 

Mae'r uned yn cael ei rhedeg gan dîm o uwch staff nyrsio, meddygol a llawfeddygol sy'n gallu darparu mynediad cyflym at brofion a thriniaethau.

Bydd cleifion cymwys sy'n ymweld â'r Adran Achosion Brys neu sy'n cael eu cyfeirio gan eu Meddyg Teulu yn cael eu hailgyfeirio am driniaeth yn yr Uned SDEC.

Bydd cyfeiriadau'n seiliedig ar feini prawf clinigol y cytunir arnynt i sicrhau bod y cleifion cywir yn cael eu cyfeirio am ofal yr un diwrnod a bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn ddiogel ar lefel glinigol.

Dros y misoedd nesaf, bydd y tîm yn adolygu'r Uned SDEC i weld a ellir trin cyflyrau eraill yn yr uned.  Bydd staff yr ysbyty hefyd yn gweithio â chydweithwyr yn y gymuned i edrych ar ffyrdd ychwanegol o gyfeirio cleifion at wasanaethau cymuned.