Neidio i'r prif gynnwy

Ein Gwasanaeth

Mae ein nyrsys cydlynu yn cwblhau asesiadau iechyd cychwynnol gan bediatregydd pan fydd plentyn yn dod i ofal am y tro cyntaf. Byddant yn adolygu asesiadau iechyd nes bydd y plentyn yn troi'n 18 oed neu'n gadael gofal.

Caiff yr asesiadau iechyd cychwynnol eu cwblhau o fewn yr wythnosau cyntaf wedi i’r plentyn dderbyn gofal. Ar ben hynny, bydd yr adolygiadau asesu iechyd yn cael eu cwblhau bob 6 mis nes bydd y plentyn yn 5 oed, ac yna bob 12 mis nes bod yr unigolyn ifanc yn troi'n 18 oed neu'n gadael gofal.

Mae ein nyrsys yn cynnig gwybodaeth a chymorth am ystod o wahanol faterion, megis; stopio ysmygu bwyta’n iach/pwysau iach, perthnasau iach, cyngor am iechyd rhywcodi ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol.

Mae modd iddyn nhw eich cyfeirio at wasanaethau eraill, gyda’ch caniatâd chi, er enghraifft;

Mae ein nyrsys yn gweithio ar y cyd ag ystod o weithwyr proffesiynol a gwasanaethau eraill megis, timau diogelu, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gwirfoddol i sicrhau bod pob agwedd ar anghenion y plentyn sy'n derbyn gofal yn cael ei fodloni.

Sut ydw i’n cyrraedd y gwasanaeth?

Mae’r tîm ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ar gael yn bennaf o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm, (ac eithrio gwyliau banc), ac maent ar gael yn ystod y gwyliau ysgol.

Lleoliadau a manylion cyswllt:

Gwynedd - 03000 851646
Ynys Môn - 03000 853172
Conwy - 03000 855487
Sir Ddinbych - 03000 856199
Sir y Fflint - 03000 859170
Wrecsam - 03000 849850

Os yw eich galwad yn ymwneud â phlentyn neu unigolyn ifanc sy’n sâl, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu, y GIG neu 111 Cymru.

Os yw eich galwad yn ymwneud â phlentyn neu unigolyn ifanc sydd mewn perygl, cysylltwch â’r awdurdod lleol.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau