Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)

Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn wasanaeth arbenigol sy’n canolbwyntio ar helpu plant a phobl ifanc sy'n cael trafferth gydag emosiynau, ymddygiadau ac anawsterau seicolegol eraill. Gall y mathau o faterion a gyflwynir inni gynnwys: pryder, ofn a phanig, hwyliau isel, tristwch ac iselder ysbryd, teimlo'n unig, galar ar ôl profedigaeth neu golled, dicter, materion yn ymwneud â gwahanu, bwlio, anawsterau teuluol, bwyta llai na'r arfer neu orfwyta, meddwl am hunanladdiad neu hunan-niweidio - rhai yn unig o'r materion a'r symptomau a allai arwain at geisio cymorth gennym.

Mae CAMHS yn cynnig cefnogaeth gynhwysfawr i deuluoedd a'u plant o'u genedigaeth hyd at 18 mlwydd oed. Mae CAMHS yn cael ei staffio gan dimau amlddisgyblaethol sy'n cynnwys Ymarferwyr CAMHS, Nyrsys, Seiciatryddion Plant, Seicolegwyr Clinigol, a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Cynigir cymorth trwy weithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc a theuluoedd a/neu waith anuniongyrchol law gyda, ac ochr yn ochr, â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac asiantaethau eraill. Mae’r broses yn cynnwys cydweithio, cyfeirio, gwaith grŵp, ymgynghori proffesiynol, hyfforddiant a/neu drefniadau gyda phartneriaethau amlasiantaethol.

Yn yr un modd ag oedolion, mae plant a phobl ifanc hefyd yn dioddef o straen, pryder neu iselder ysbryd ac mae'n bwysig ceisio cael cymorth yn gynnar os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw anawsterau. Mae’r symptomau’n cynnwys:

  • Tristwch, neu hwyliau isel nad yw'n mynd i ffwrdd
  • Bod yn bigog neu'n flin trwy'r amser
  • Dim diddordeb mewn pethau roedden nhw'n arfer eu mwynhau
  • Teimlo'n flinedig ac wedi ymlâdd lawer o'r amser
  • Teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw mwyach.
     

Mae rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl a lles ar gael yn https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/

Mae 5 tîm CAMHS arbenigol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

Dwyrain

Canol

Gorllewin

Tîm CAMHS Wrecsam

 

Canolfan Iechyd Plant

Ysbyty Maelor

Wrecsam

LL13 7TD

 

01978 725242

 

Tîm CAMHS Sir y Fflint

 

Tŷ Catherine Gladstone

Mancot

Sir y Fflint

CH5 2EP

 

03000 859152

 

Tîm CAMHS Sir Ddinbych

 

Ysbyty Brenhinol Alexandra

Marine Drive

Y Rhyl

Sir Ddinbych

LL18 3AS

03000 856023

 

Tîm CAMHS Conwy

 

Ystafell Mostyn

Ysbyty Llandudno

Ffordd yr Ysbyty

Llandudno

LL30 1LB

 

03000 851949

Tîm CAMHS Gwynedd ac Ynys Môn

Talarfon

Ffordd Caergybi

Bangor

LL57 2EE

 

 

03000 850037

         

Gweithredir ffonau: Dydd Llun i Ddydd Gwener 09:00-17:00

  • Gellir gwneud cais gan feddyg teulu neu berson proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, ee ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, ymwelwyr iechyd, canolfannau plant. Rhaid i'r plentyn neu'r person ifanc fod rhwng 0 a 18 oed a chyda cyfeiriad parhaol fel arfer yng Ngogledd Cymru.
     
  • Cofnodir cais ar “Ffurflen Gais Mynediad Arbenigol CAMHS” a lenwir gan yr atgyfeiriwr (referrer) neu'r tîm gweinyddol sy'n derbyn y cais.

 

  • Ni all CAMHS dderbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan rieni / gofalwyr na phobl ifanc.

 

  • Os ydych chi'n 0-18 oed ac yn poeni am eich iechyd meddwl, ceisiwch siarad ag aelod o'r teulu neu ofalwr, neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddynt yn yr ysgol, coleg neu rywle arall rydych chi'n mynd. Os nad ydych chi'n teimlo eich bod chi'n gallu siarad gydag unrhyw un rydych chi'n ei adnabod, ond eich bod yn gallu gwneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu, dywedwch wrtho ef / wrthi hi sut rydych chi'n teimlo.

 

  • Os ydych yn rhiant neu'n ofalwr gyda phryderon am iechyd meddwl eich plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â'u meddyg teulu, Ysgol, Gwasanaethau Cymdeithasol, Ymwelydd Iechyd, Nyrs Ysgol, Paediatregydd Cymunedol neu'r Ganolfan Blant i drafod eich pryderon, a pha gymorth sydd ar gael. Gall unrhyw un o'r bobl hyn atgyfeirio i CAMHS os oes angen.

Mae Gwasanaeth Arbenigol Pwynt Mynediad Sengl CAMHS (CAMHS SPOA) yn adolygu'r holl geisiadau cyfeirio ac yn cynnig ymgynghoriad a chyngor dros y ffôn ar gyfer gweithwyr proffesiynol os oes pryder am les emosiynol neu iechyd meddwl plentyn neu berson ifanc. Mae egwyddorion y timau Pwyntiau Mynediad Sengl yn CAMHS yn cael eu cefnogi gan yr un canllawiau ledled Gogledd Cymru, ond gall y protocol a ddilynir gan Bwyntiau Mynediad Sengl unigol fod yn wahanol mewn timau lleol gan fod dulliau gwella gwasanaeth yn cael eu trio, a gall amrywiadau lleol arwain at weithio mewn ffyrdd gwahanol.

Bydd y wybodaeth a dderbynnir ar y ffurflen atgyfeirio a gyflwynir yn sail i unrhyw benderfyniad os oes angen ymateb ar frys.

Mae clinigwyr Pwyntiau Mynediad Sengl CAMHS ar gael rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd angen gwneud atgyfeiriad newydd. Mae ceisiadau'n cael eu gwirio gan weithiwr proffesiynol arbenigol CAMHS i bennu a oes brys. Bydd gwybodaeth am unrhyw ofal arbenigol blaenorol gan CAMHS yn cael ei ystyried.

Os ydych chi / os oes aelod o'ch teulu eisoes yn gweld rhywun yn nhîm CAMHS, byddwn yn cysylltu â chi i adolygu'ch apwyntiadau yng ngoleuni Covid-19. Gyda'n gilydd byddwn yn cytuno ar ffordd o weithredu  - apwyntiadau'n parhau dros y ffôn, defnyddio cyfarfodydd rhithiol fel Skype, defnyddio e-bost i gadw mewn cysylltiad, neu gynnal yr apwyntiadau wyneb yn wyneb. Efallai y bydd yn well gennych chi a'ch teulu weld sut mae pethau'n mynd am y tro, a dychwelyd atom yn nes ymlaen os oes angen. Os penderfynir trefnu ymweliadau wyneb yn wyneb byddant yn wahanol i’r arfer, yn unol â chyngor y llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE).

Mae'r llyfrau gwaith canlynol yn darparu cyngor cefnogol defnyddiol, yn enwedig yn ystod pandemig Covid-19. Mae pecyn ar gyfer plant a fersiwn ar wahân ar gyfer rhieni / gofalwyr. Maent hefyd yn cynnwys rhestr o wefannau a llinell gymorth a allai gynnig rhywfaint o help a chefnogaeth.

Pecyn Pobl Ifanc

Pecyn Adnoddau Rhieni