Llinell Apwyntiad
Gwynedd a Môn 03000 850074
Sir y Fflint a Wrecsam 03000 847662
Conwy a Sir Ddinbych 03000 856000
Gellir cysylltu â Phrofi a Phostio (am becyn am ddim a fydd yn profi am HIV, Syffilis Hepatitis B ac C) drwy eu gwefan https://www.ircymru.online
Gall eich meddyg teulu gynnig cymorth yn y modd arferol.
Mae ein clinigau iechyd rhyw yn cynnig ystod o wasanaethau cyfrinachol ac am ddim gan gynnwys profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI), profion HIV, dulliau atal cenhedlu gan gynnwys y bilsen bore wedyn (atal cenhedlu brys), condomau am ddim, prawf beichiogrwydd, sgrinio ar gyfer firysau sy'n cael eu cario yn y gwaed (hepatitis B a C) a brechiad am hepatitis B a HPV, cyn ac ar ôl amlygiad proffylacsis (PrEP a PEP / PEPSE) a hybu iechyd rhyw.
Nid ydym yn darparu’r IUS ar gyfer gwaedu misol trwm na HRT ar hyn o bryd.
Mae gennym glinigau mewn ysbytai ac yn y gymuned ar draws Gogledd Cymru. Am fwy o fanylion am y clinigau a'u horiau agor, dewiswch yr ardal yr hoffech gael eich gweld: