Neidio i'r prif gynnwy

Triniaeth ar gyfer iselder

Mae triniaeth ar gyfer iselder fel arfer yn golygu cyfuniad o hunangymorth, therapïau siarad (megis cwnsela neu therapi ymddygiad gwybyddol) a meddyginiaeth.

Mae pawb yn wahanol, felly efallai na fydd triniaethau a all weithio i rai pobl yn gweithio i eraill. Bydd eich meddyg yn eich helpu chi i archwilio beth sydd orau i chi. Fe allech gael cynnig cyfeiriad at y tîm iechyd meddwl amenedigol all ddarparu monitro ychwanegol a chymorth yn ystod ac ar ôl eich beichiogrwydd.

Eich penderfyniad chi fydd y driniaeth y byddwch yn ei chael. Gall eich gweithiwr iechyd proffesiynol eich helpu drwy siarad â chi am yr hyn yr hoffech ei wneud ac egluro’r peryglon a’r manteision o bob opsiwn.

Gall iselder wneud i chi fod eisiau cuddio rhag y byd ac fe allech deimlo fel nad ydych eisiau gwneud dim byd, ond mae hi’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn gofalu amdanoch eich hunan. Dechreuwch gyda gweithgareddau bychain, gwnewch bethau yn eich amser eich hun ac, yn fwyaf pwysig, gofynnwch am gymorth os bydd angen.

Dyma rai syniadau a allai helpu: 

  • Siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo am eich teimladau, megis eich partner, aelod o’r teulu neu ffrind.
  • Ceisio peidio teimlo’n euog, bod â chywilydd neu embaras. Nid eich bai chi yw’r teimladau hyn.
  • Rhoi cynnig ar rai o’n hawgrymiadau gorau ar gyfer edryôl eich lles emosiynol.
  • Ymarfer cymaint ag y gallwch gan y bydd cadw’n actif yn rhyddhau endorffinau teimlo’n dda.
  • Bwyta’n dda, hyd yn oed os nad oes gennych lawer o archwaeth.
  • Osgoi alcohol ac ysmygu. Gall hyn niweidio eich babi a gwneud i chi deimlo’n waeth.
  • Darllen am cynllunio ar gyfer newidiadau emosiynol ar ôl genedigaeth.
  • Rhoi cynnig ar ymarferion meddwlgarwch a thechnegau ymlacio eraill, mae llawer o apiau i ddewis ohonynt am ddim.  
  • Rydym yn cynnig gweithdai hypno-eni y gallech eu canfod yn ddefnyddiol. Siaradwch â’ch bydwraig am fwy o wybodaeth am y gweithdai hyn.