Neidio i'r prif gynnwy

Helpa Fi I Stopio i fy Mabi

Mynnwch help i roi'r gorau i ysmygu gan Helpa Fi i Stopio i fy Mabi

Mae Helpa Fi i Stopio i fy Mabi yn cynnig cymorth arbenigol i ferched beichiog ac ysmygwyr eraill yn y cartref. Gall darpar famau a phobl eraill yn eu cartref gael cymorth am ddim gan eu cynghorydd rhoi’r gorau i ysmygu personol bob wythnos, yn ogystal â meddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu am ddim gwerth hyd at £250.

Cynhelir ein sesiynau dros y ffôn neu wyneb yn wyneb mewn lleoliad cymunedol cyfagos. Maent wedi'u creu yn benodol i'ch anghenion ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i chi.

Gallwch gael cymorth arbenigol gan Helpa Fi i Stopio dros y ffôn, wyneb yn wyneb mewn lleoliad cymunedol cyfagos, neu gan eich fferyllfa leol.

 

Rhowch y dechrau gorau i'ch babi

Rhoi'r gorau i ysmygu yw un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i wella'ch iechyd a diogelu iechyd eich babi.

Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn lleihau'r risg o gymhlethdodau, gan gynnwys camesgoriad, pwysau geni isel, genedigaeth gynamserol a marw-enedigaeth. Bydd rhoi'r gorau i ysmygu hefyd o fudd i iechyd eich babi yn ddiweddarach mewn bywyd. Byddwch hefyd yn iachach trwy gydol eich beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth eich babi.

Nid yw byth yn rhy hwyr i roi'r gorau iddi. Mae rhoi'r gorau iddi ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd yn lleihau'r risg o niwed i'ch babi. Fodd bynnag, mae cynllunio i roi'r gorau iddi mor gynnar ag y gallwch yn golygu y gallwch chi roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'ch babi.
 

 

Rydych chi bedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi gyda chymorth am ddim gan y GIG

Mae ein holl gefnogaeth yn rhad ac am ddim, ac yn anfeirniadol. Rydym yma i'ch helpu i roi'r gorau iddi - a gallwn roi awgrymiadau i chi i'ch helpu i osgoi sefyllfaoedd anodd, rheoli'ch chwantau, a rhoi'r gorau iddi am byth.

I gael rhagor o wybodaeth am Helpa Fi i Stopio i fy Mabi, siaradwch â'ch bydwraig gymunedol.