Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Meddwl Mamau

Iechyd meddwl amenedigol yw iechyd emosiynol, meddyliol a lles merched a’u plant, partner a theuluoedd hyd at un flwyddyn yn dilyn genedigaeth plentyn. 

Os oes gennych hanes cyfredol neu flaenorol o iechyd meddwl difrifol, dywedwch wrth eich Meddyg Teulu neu fydwraig unwaith i chi ganfod eich bod yn feichiog fel y gallant gynnig y lefel gywir o gymorth.

Os ydych yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer eich iechyd meddwl ac yn beichiogi, mae’n ddoeth peidio rhoi’r gorau i’w gymryd yn sydyn. Ceisiwch arweiniad gan eich Meddyg Teulu neu ymarferydd iechyd meddwl, a fydd yn trafod manteision meddyginiaethau yn ystod beichiogrwydd ac unrhyw beryglon posibl gyda chi er mwyn i chi wneud dewis gwybodus ynglŷn â’ch gofal.

  • Gofyn – dylech ddisgwyl cael eich holi ‘sut ydych chi’n teimlo heddiw?’ ym mhob cyswllt gyda’ch bydwriag, ymwelydd iechyd neu Feddyg Teulu. 
  • Asesu – yn dibynnu ar sut rydych yn teimlo, fe allech gael cynnig sgrinio pellach a gofyn mwy o gwestiynau i chi.
  • Gweithredu – bydd eich bydwraig, ymwelydd iechyd neu Feddyg Teulu wedyn yn trafod beth yw’ch opsiynau am gymorth pellach a thriniaeth. Fe gytunir ar hyn gyda chi, i wneud yn siŵr eich bod yn cael cynnig y gofal a’r cymorth cywir i chi ar yr amser hwnnw.