Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Meddwl Amenedigol

Mae Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Gogledd Cymru yn darparu ystod o ofal holistaidd ac opsiynau triniaeth i ferched sy’n profi trafferthion gyda’u iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd a’r flwyddyn ôl-enedigol gyntaf.

Sefydlwyd y Gwasanaeth gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gofal arbennig i ferched ar draws Gogledd Cymru sy’n profi salwch meddwl cymedrol i ddifrifol. Gall ystod o weithwyr proffesiynol GIG gyfeirio merched i’r gwasanaeth, yn cynnwys Meddygon Teulu, Ymwelwyr Iechyd, Bydwragedd, a thimau iechyd meddwl.

Mae’r Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol yn cynnwys:-

  • Rheolwr Gwasanaeth
  • Rheolwr Tîm
  • Seiciatrydd Ymgynghorol
  • Meddyg Arbenigol
  • Seicolegydd Ymgynghorol
  • Seicolegydd Arbenigol
  • Bydwraig Iechyd Meddwl Arbenigol
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Ymarferwyr Amenedigol
  • Gweinyddesau Meithrin,
  • Ysgrifenyddes Feddygol a Chynorthwyydd Gweinyddol

Mae’r tîm wedi eu lleoli yn Uned Ablett Unit yn Ysbyty Glan Clwyd ond yn gweithio ar draws Gogledd Cymru gyfan.

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn cael trafferth gydag iechyd meddwl a materion lles, mae cymorth ar gael. Mae canfod cymorth yn gynnar yn allweddol. Ni chewch eich barnu am sut rydych yn teimlo.

Peidiwch â bod ofn gofyn i’ch Meddyg Teulu, Pediatrydd neu Obstetregydd, Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd ynghylch cael y cymorth cywir a all gysylltu â ni yn ein Huned Ablett.