Disgwylir i’r galw am wasanaethau iechyd meddwl gynyddu’n sylweddol, wrth i effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl pobl ddechrau dod yn amlwg. O’r herwydd, efallai y byddwch yn wynebu oedi hwy nac arfer am gefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.
Fodd bynnag, rydym yn gwneud pob ymdrech i leihau’r amseroedd aros oherwydd ei bod yn bwysig cael cefnogaeth mor gynnar ag sydd modd
Mae nifer o bethau y medrwch wneud i ofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles tra byddwch yn aros nes y daw cefnogaeth fwy arbenigol ar gael.
Ar draws y gogledd, mae modd cysylltu â Hybiau I CAN rhithiol am amrywiaeth o fathau o gefnogaeth gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles:
Ewch at: https://conwymind.org.uk/how-we-can-help/the-hub/
Tel: (01492) 879 907
Ewch at: https://www.facebook.com/Canolfan-Felin-Fach-Centre-197541023595215/
Tel: 01758 701611
Ewch at: http://www.newmind.org.uk/
Tel: 01352 974430
Ewch at: https://kim-inspire.org.uk/
Tel: 01352 872189
Gall pobl yn y gogledd hefyd gyrchu therapïau siarad Parabl. Mae Parabl yn cynnig therapïau siarad i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i ganolig. Gallwch siarad efo rhywun yn Parabl, fydd yn trefnu asesiad os ydynt yn tybio y bydd gwasanaeth therapi siarad Parabl yn fuddiol. Dros y teliffon y bydd yr asesiad, ac wedi hynny, caiff cwnselydd ei neilltuo i chi. Efallai y bydd rhestr aros am y gwasanaeth hwn yn eich ardal, ond fe fydd y staff yn eich cyfeirio at fathau eraill o gefnogaeth tra byddwch yn disgwyl.
Teliffon: 0300 777 2257
Ebost: ask@parabl.org
Medrwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol am sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys manylion am gyrsiau ar-lein, aps, llyfrau, taflenni a gwefannau. Ewch at <https://phw.nhs.wales/services-and-teams/improvement-cymru/news-and-publications/publications/mental-health-and-wellbeing-cymru-self-help-resources-to-support-mental-health-and-wellbeing/>
Gall pobl ledled Cymru yn awr gyrchu therapi ar-lein am ddim heb orfod mynd trwy eu meddyg teulu.
Gall pobl 16 a hŷn sy’n dioddef o bryder, iselder neu straen ysgafn neu ganolig ymuno ar gwrs 12-wythnos o therapi SilverCloud ar-lein trwy eu ffôn clyfar, llechen, gliniadur neu gyfrifiadur desg.
Mae cyflwyno mynediad uniongyrchol at therapi ar-lein i holl boblogaeth Cymru sydd dros 16 oed yn cydnabod fod ar bobl angen help yn syth i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles wrth i effaith COVID-19 barhau i daro, ac y mae’n lleihau’r rhwystrau i gyrchu’r gefnogaeth hon.
I ymuno neu i ddod i wybod mwy, ewch at https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL i Gymru ar gael 24/7 ac yn cynnig cyngor cyfrinachol am amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn ogystal â rhestr gynhwysfawr o wasanaethau cefnogi yn eich ardal leol a gwybodaeth am sut i fynd atynt.
Teliffon: 0800 132 737
Ewch at https://www.callhelpline.org.uk/
Neu anfonwch neges destun ‘help’ i 81066
Os ydych yn teimlo allan o reolaeth yn emosiynol, neu’n poeni y gall fod gennych broblem iechyd, mae nifer o lefydd y gallwch fynd iddynt yn gyntaf, gan gynnwys siarad â’ch meddyg teulu.
Mae meddygon teulu yn parhau i roi cefnogaeth yn ystod pandemig COVID-19 trwy gyfuniad o ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb, fideo a dros y ffôn.
Gall eich meddyg wneud hyn:
Cofiwch: Os ydych yn meddwl y gall eich meddyg fod yn rhy brysur i siarad am eich problemau, medrwch drefnu gyda’r derbynnydd am apwyntiad hir. Neu fe allwch ysgrifennu popeth mewn llythyr a’i anfon at eich meddyg.
Mae rhai meddygfeydd yn cynnig cyfeiriad cyflym at wasanaeth o’r enw ‘Monitro Gweithredol’, lle medrwch gael help i fynd i’r afael â phethau fel Rheoli Dicter, Iselder, neu bryder. Mae’r gwasanaeth hwn fel arfer ar gael yn wythnosol am 5/6 wythnos a’r nod yw rhoi dulliau i chi reoli eich iechyd meddwl eich hun, yn enwedig os bydd rhai teimladau a phryderon yn digwydd dro ar ôl tro.
Yn y cyfnod ansicr hwn, mae’n arbennig o bwysig i ni oll gymryd camau syml i edrych ar ôl ein hiechyd meddwl a’n lles.
Mae’r Pum Ffordd at Les yn gosod allan y camau syml y gallwn oll eu cymryd i edrych ar ôl ein hiechyd meddwl a’n lles. Gallwch hefyd ddarllen ‘syniadau ar gyfer byw bob dydd’ ar wefan yr elusen iechyd meddwl MIND a dod o hyd i ffyrdd ymarferol o ofalu am eich iechyd meddwl ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.
Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol am sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19 yma: https://phw.nhs.wales/services-and-teams/improvement-cymru/news-and-publications/publications/mental-health-and-wellbeing-cymru-self-help-resources-to-support-mental-health-and-wellbeing/