Neidio i'r prif gynnwy

Beth fedra'i wneud i edrych ar ôl fy iechyd meddwl a'm lles yn ystod pandemig COVID-19?

Yn y cyfnod ansicr hwn, mae’n arbennig o bwysig i ni oll gymryd camau syml i edrych ar ôl ein hiechyd meddwl a’n lles.

Mae’r Pum Ffordd at Les yn gosod allan y camau syml y gallwn oll eu cymryd i edrych ar ôl ein hiechyd meddwl a’n lles. Gallwch hefyd ddarllen ‘syniadau ar gyfer byw bob dydd’ ar wefan yr elusen iechyd meddwl MIND a dod o hyd i ffyrdd ymarferol o ofalu am eich iechyd meddwl ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.

Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol am sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19 yma: https://phw.nhs.wales/services-and-teams/improvement-cymru/news-and-publications/publications/mental-health-and-wellbeing-cymru-self-help-resources-to-support-mental-health-and-wellbeing/