Neidio i'r prif gynnwy

Mae arna'i angen cefnogaeth i'm hiechyd meddwl. Lle dylwn i gychwyn?

ICAN Hubs

Ar draws y gogledd, mae modd cysylltu â Hybiau I CAN rhithiol am amrywiaeth o fathau o gefnogaeth gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles:

ICAN Conwy

Ewch at: https://conwymind.org.uk/how-we-can-help/the-hub/

Tel: (01492) 879 907

ICAN Gorllewin – Canolfan Felin Fach, Pwllheli

Ewch at: https://www.facebook.com/Canolfan-Felin-Fach-Centre-197541023595215/

Tel: 01758 701611

ICAN Fflint

Ewch at: http://www.newmind.org.uk/

Tel: 01352 974430

ICAN Treffynnon a Wrecsam

Ewch at: https://kim-inspire.org.uk/

Tel: 01352 872189

Therapïau Siarad Parabl

Gall pobl yn y gogledd hefyd gyrchu therapïau siarad Parabl. Mae Parabl yn cynnig therapïau siarad i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i ganolig. Gallwch siarad efo rhywun yn Parabl, fydd yn trefnu asesiad os ydynt yn tybio y bydd gwasanaeth therapi siarad Parabl yn fuddiol. Dros y teliffon y bydd yr asesiad, ac wedi hynny, caiff cwnselydd ei neilltuo i chi. Efallai y bydd rhestr aros am y gwasanaeth hwn yn eich ardal, ond fe fydd y staff yn eich cyfeirio at fathau eraill o gefnogaeth tra byddwch yn disgwyl.

Teliffon: 0300 777 2257
Ebost: ask@parabl.org

Adnoddau hunangymorth ar-lein o Iechyd Cyhoeddus Cymru

Medrwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol am sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys manylion am gyrsiau ar-lein, aps, llyfrau, taflenni a gwefannau. Ewch at <https://phw.nhs.wales/services-and-teams/improvement-cymru/news-and-publications/publications/mental-health-and-wellbeing-cymru-self-help-resources-to-support-mental-health-and-wellbeing/>

 

Cyrsiau therapi iechyd meddwl ar-lein SilverCloud

Gall pobl ledled Cymru yn awr gyrchu therapi ar-lein am ddim heb orfod mynd trwy  eu meddyg teulu.

Gall pobl 16 a hŷn sy’n dioddef o bryder, iselder neu straen ysgafn neu ganolig ymuno ar gwrs 12-wythnos o therapi SilverCloud ar-lein trwy eu ffôn clyfar, llechen, gliniadur neu gyfrifiadur desg.

Mae cyflwyno mynediad uniongyrchol at therapi ar-lein i holl boblogaeth Cymru sydd dros 16 oed yn cydnabod fod ar bobl angen help yn syth i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles wrth i effaith COVID-19 barhau i daro, ac y mae’n lleihau’r rhwystrau i gyrchu’r gefnogaeth hon.

I ymuno neu i ddod i wybod mwy, ewch at https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

 

Llinellau cymorth iechyd meddwl

Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL  i Gymru ar gael 24/7 ac yn cynnig cyngor cyfrinachol am amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn ogystal â rhestr gynhwysfawr o wasanaethau cefnogi yn eich ardal leol a gwybodaeth am sut i fynd atynt.

Teliffon: 0800 132 737

Ewch at https://www.callhelpline.org.uk/

Neu anfonwch neges destun ‘help’ i 81066

 

Siaradwch â’ch meddyg teulu

Os ydych yn teimlo allan o reolaeth yn emosiynol, neu’n poeni y gall fod gennych broblem iechyd, mae nifer o lefydd y gallwch fynd iddynt yn gyntaf, gan gynnwys siarad â’ch meddyg teulu. 

Mae meddygon teulu yn parhau i roi cefnogaeth yn ystod pandemig COVID-19 trwy gyfuniad o ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb, fideo a dros y ffôn.

Gall eich meddyg wneud hyn:

  • Siarad am eich problemau
  • Bwrw golwg i weld a oes achos corfforol dros eich problemau
  • Rhoi meddyginiaeth i chi am iselder, pryder a chyflyrau eraill
  • Eich cyfeirio at wasanaeth priodol

Cofiwch: Os ydych yn meddwl y gall eich meddyg fod yn rhy brysur i siarad am eich problemau, medrwch drefnu gyda’r derbynnydd am apwyntiad hir. Neu fe allwch ysgrifennu popeth mewn llythyr a’i anfon at eich meddyg.

 

Monitro Gweithredol

Mae rhai meddygfeydd yn cynnig cyfeiriad cyflym at wasanaeth o’r enw ‘Monitro Gweithredol’, lle medrwch gael help i fynd i’r afael â phethau fel Rheoli Dicter, Iselder, neu bryder. Mae’r gwasanaeth hwn fel arfer ar gael yn wythnosol am 5/6 wythnos a’r nod yw rhoi dulliau i chi reoli eich iechyd meddwl eich hun, yn enwedig os bydd rhai teimladau a phryderon yn digwydd dro ar ôl tro.