Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Tachwedd 29 2023


Hoffem ddiolch i'r degau o filoedd o bobl ar draws Gogledd Cymru sydd eisoes wedi dod atom i wella eu hamddiffyniad yn erbyn COVID-19 a'r ffliw y gaeaf hwn.

Hyd yma, mae ein timau brechu a'n partneriaid mewn gofal sylfaenol wedi rhoi mwy na 130,000 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer yr Hydref i bobl sydd mewn perygl oherwydd y firws.

Mae practisau meddygon teulu, fferyllfeydd cymunedol a thimau imiwneiddio ysgolion wedi helpu rhyw 140,000 o bobl i amddiffyn eu hunain rhag y ffliw gyda'r brechlyn ffliw blynyddol.

 

Gwahoddiadau ar gyfer apwyntiadau brechiadau atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer yr Hydref

Mae ein timau bellach yn anfon gwahoddiadau at y nifer fach o bobl gymwys nad ydynt wedi derbyn apwyntiad ar gyfer eu brechiadau atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer yr Hydref. Dylai'r llythyrau apwyntiad hyn gyrraedd trwy'r post yn fuan iawn.

Erbyn diwedd yr wythnos hon, rydym yn disgwyl o fod wedi gwahodd pawb yng Ngogledd Cymru sy'n gymwys i dderbyn y pigiad atgyfnerthu i apwyntiad yn un o'n canolfannau brechu.

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i dderbyn eich brechiad rhag y ffliw. Os ydych yn gymwys, gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu neu â fferyllfa gymunedol sy'n cymryd rhan yn eich ardal chi er mwyn cael eich brechu. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwyster a sut i gael eich brechu ar gael yma.

Rydym yn parhau i annog rhieni â phlant dwy flwydd a thair blwydd oed i fanteisio ar y cynnig o gael brechlyn ffliw ar ffurf chwistrell drwynol nad yw'n brifo o gwbl yn eu meddygfa. Mae ein timau imiwneiddio yn ymweld ag ysgolion ar draws Gogledd Cymru yn eu tro i gynnig brechlynnau ar ffurf chwistrell drwynol i blant o oedran y Dosbarth Derbyn hyd at ddisgyblion Blwyddyn 11 - edrychwch am ragor o wybodaeth a ffurflen gydsynio, a gaiff eu hanfon atoch gan ysgol eich plentyn.

 

Apwyntiadau brechu galw heibio i bobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Rydym yn annog yr holl staff iechyd a gofal cymdeithasol i helpu i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yng Ngogledd Cymru y gaeaf hwn trwy ddod atom i dderbyn eu brechiad atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer yr Hydref.

Bydd llawer o bobl sy'n gweithio ym maes gofal iechyd a rolau sy'n gysylltiedig â gofal wedi derbyn apwyntiadau i dderbyn eu pigiad atgyfnerthu yn un o'n canolfannau brechu cymunedol dros yr ychydig wythnosau nesaf. Gofynnwn i chi fynychu'r apwyntiad hwn er mwyn amddiffyn eich hun rhag COVID-19 y gaeaf hwn.

Gall unrhyw un sy'n gweithio mewn rôl iechyd neu rôl gofal ar y rheng flaen (gan gynnwys mewn cartref gofal, fel gweithiwr cartref, neu mewn fferyllfa, meddygfa neu ddeintyddfa, optometrydd neu optegydd) alw heibio un o'n canolfannau erbyn hefyd heb apwyntiad er mwyn derbyn pigiad atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer yr Hydref.

Lle bo'n bosibl, bydd yr holl staff hyn yn cael cynnig derbyn brechiad rhag y ffliw yn un o'n canolfannau os nad ydynt eisoes wedi derbyn un eleni.

Mae firysau'n newid bob blwyddyn - felly mae'n bwysig cael y brechiad diweddaraf er mwyn gwella ein hamddiffyniad yn erbyn straeniau o'r firws sy'n cylchredeg yn y gymuned ar hyn o bryd.

Bydd manteisio ar y brechlynnau hyn yn amddiffyn yr holl weithwyr iechyd a gofal gymaint â phosibl yn erbyn COVID-19 a'r ffliw. Gofynnwn i chi sicrhau eich bod yn achub ar y cyfle hwn i amddiffyn eich hun a'r bobl fregus yr ydych yn gofalu amdanynt y gaeaf hwn.

Mae manylion llawn am ein clinigau galw heibio ar gael yma.