Sgroliwch i lawr i weld dyddiadau, lleoliadau ac amseroedd clinigau
Diweddariad: Tachwedd 16 2023
Gall aelodau o staff Betsi Cadwaladr, gweithwyr y GIG a phob gweithiwr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen arall (gan gynnwys gweithwyr gofal sylfaenol, fferylliaeth, deintyddiaeth, optegwyr a staff optometreg) alw heibio i un o'n canolfannau brechu cymunedol i gael eu brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref a ffliw heb drefnu apwyntiad
Cofiwch ddod â'ch ID proffesiynol gyda chi i'r clinig, neu lythyr gan eich cyflogwr yn cadarnhau eich bod yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn annog pawb sy’n gymwys i gael y ddau frechlyn – gallwch ddewis i gael un neu’r ddau pan fyddwch yn galw heibio ein clinig.
Cliciwch ar y dolenni isod i weld y clinigau brechu cymunedol yn eich ardal chi, a'r dyddiadau ac amseroedd sydd ar gael.
Bydd llawer o weithwyr gofal iechyd wedi cael llythyrau apwyntiad drwy'r post. Os ydych wedi cael llythyr apwyntiad eisoes, gallwch gadw at y dyddiad a’r amser ar eich llythyr neu ddewis galw-heibio i ganolfan frechu ar ddyddiad cynharach.
Mae ein canolfannau brechu yn dal yn brysur iawn a bydd pobl ag apwyntiad yn cael eu blaenoriaethu, felly efallai y bydd staff gofal iechyd yn gorfod aros am gyfnod byr. Byddwch yn barod i'n helpu drwy aros i slot ddod ar gael.
Rydym yn annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref a brechlyn y ffliw am ddim i amddiffyn eu hunain y gaeaf hwn.