Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Mawrth 14 2024

Bydd ein timau yn dechrau cynnig brechiadau atgyfnerthu COVID-19 y Gwanwyn i bobl gymwys ar draws Gogledd Cymru o 2 Ebrill ymlaen

Yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a Llywodraeth Cymru, bydd brechlyn atgyfnerthu'r Gwanwyn yn cael ei gynnig i'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o COVID-19. Mae hyn yn cynnwys:

  • pawb sy’n 75 oed neu’n hŷn,
  • pawb sy'n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn, a
  • phob oedolyn a phlentyn chwe mis oed a throsodd sydd â system imiwnedd wannach.

Mae tua 100,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru yn gymwys i dderbyn brechiad atgyfnerthu'r Gwanwyn, a fydd yn ychwanegu at eu hamddiffyniad rhag salwch difrifol a achosir gan y firws. Bydd y pigiad atgyfnerthu yn cael ei gynnig tua chwe mis ar ôl eu dos olaf o'r brechlyn. Mwy o wybodaeth am y brechlyn atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer y Gwanwyn ar gael yma.

Yn ystod mis Ebrill, bydd ein timau brechu yn ymweld â chartrefi gofal i oedolion hŷn i gynnig brechiad atgyfnerthu'r Gwanwyn i breswylwyr. Byddwn hefyd yn cysylltu â phobl sy'n gaeth i'r tŷ i drefnu brechiad.

Fel mewn ymgyrchoedd brechu COVID-19 blaenorol, bydd yr holl bobl eraill sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu'r Gwanwyn yn cael eu gwahodd i apwyntiad mewn canolfan frechu gymunedol gyfagos trwy lythyr. Byddwn yn postio'r llythyrau apwyntiad dros yr wythnosau nesaf. 

Disgwyliwn i’r apwyntiadau cyntaf gael eu cynnal yn ein canolfannau brechu cymunedol o ganol mis Ebrill ymlaen, a byddant yn cael eu cynnal drwy gydol mis Mai a mis Mehefin. 

Byddwn yn ysgrifennu at bobl gymwys i gynnig apwyntiad yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Byddwch yn cael apwyntiad pan ddaw eich tro. Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar – nid oes angen i chi gysylltu â ni.

Gwiriwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus oherwydd efallai bod lleoliad eich clinig brechu agosaf wedi newid ers rhaglen yr Hydref.

 

Diwedd rhaglen brechiadau atgyfnerthu'r Hydref

Bydd rhaglen brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref yn dod i ben ar 28 Mawrth.

Mae'r bwrdd iechyd yn galw ar unrhyw un sy'n gymwys i gael y brechlyn ond sydd heb ei gael eto i ddod ymlaen dros y 2 wythnos nesaf.

Rydym yn arbennig o awyddus i annog pobl rhwng 65 a 74 oed ac unrhyw un sydd â system imiwnedd wannach na'r cyffredin, i ychwanegu at eu hamddiffyniad a lleihau eu risg o salwch difrifol.

Gallwch wirio eich cymhwysedd yma. Mae manylion ein clinigau brechu galw-heibio gan gynnwys lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd yma.