Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gyfer y Gwanwyn

Bydd y rhai sy'n wynebu'r risg uchaf o salwch difrifol yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y Gwanwyn o fis Ebrill 2024

Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i:

  • pob oedolyn 75 oed a hŷn
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • pob oedolyn a phlentyn chwe mis oed a throsodd sydd ag imiwnedd gwan

Fel ein hymgyrchoedd brechu rhag COVID-19 blaenorol, bydd unrhyw un sy'n gymwys ar gyfer brechiad atgyfnerthu'r Gwanwyn yn cael gwahoddiad trwy lythyr. Mae apwyntiadau gael eu cynnal yn ein canolfannau brechu cymunedol o ganol mis Ebrill ymlaen, a byddant yn cael eu cynnal drwy gydol mis Mai a mis Mehefin. Byddwch yn amyneddgar – nid oes angen i chi cysylltu â ni.

Bydd ein timau’n trefnu i frechu pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn gyda rheolwyr y cartrefi gofal. Byddwn yn blaenoriaethu ymweld â chartrefi gofal i frechu'r grŵp hwn yn ystod mis Ebrill. Byddwn hefyd yn cysylltu â phobl sy'n gaeth i'r tŷ i drefnu brechiad.

 

Amddiffyn eich hun

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn a’r newyddion diweddaraf am ein hymgyrch frechu drwy’r dolenni isod.

 

Ymholiadau

Ar gyfer ymholiadau am lythyr apwyntiad neu neges destun yr ydych wedi'u derbyn, ffoniwch 03000 840004.  Ni fydd ein canolfan ymholiadau’n gallu gwneud apwyntiadau newydd ar gyfer derbyn brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn, ond gallwn eich helpu os bydd angen i chi aildrefnu apwyntiad sydd gennych eisoes.

Mae Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar agor 8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am-2pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mae’r ganolfan ar gau ar wyliau banc.

Mwy o wybodaeth am galw'r Ganolfan Gyswllt Brechu rhag COVID-19.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol eraill am y rhaglen frechu COVID-19, e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk

 

Pàs COVID y GIG

Mae gwasanaeth Pàs COVID y GIG bellach wedi cau. Gwelwch rhagor o wybodaeth yma.