Neidio i'r prif gynnwy

'Roedd fy ngŵr yn meddwl fy mod i'n marw' – sut gwnaeth Clinig Diagnosis Cyflym helpu nain i drechu canser

10.08.2023

Roedd teulu nain o Ruddlan yn meddwl ei bod hi'n mynd i farw pan fu gostyngiad o 25% yn ei phwysau mewn deufis yn unig.

Fodd bynnag, cyfeiriodd ei Meddyg Teulu hi at Glinig Diagnosis Cyflym Ysbyty Glan Clwyd. Darganfu fod ganddi ganser yr arennau ac yna pennwyd ei rhaglen driniaethau o fewn naw diwrnod.

Yn ffodus, tynnwyd aren ganseraidd Jean Machin, ysgrifenyddes feddygol wedi ymddeol 73 mlwydd oed o Ruddlan, bum wythnos ar ôl ymweld â’r clinig ac mae hi bellach yn teimlo’n “wych”.

“Gwnaeth y Clinig Diagnosis i mi deimlo bod rhywun yn gofalu amdanaf,” meddai. “Roeddwn yn teimlo bod rhywbeth yn digwydd.

“Byddwn yn disgrifio hynny fel dolen. Roedden nhw'n ofalgar iawn yno. Roeddwn i'n teimlo fy mod i'n perthyn i rywbeth.”

Clinigau Diagnosis Cyflym - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Dechreuodd Jean, a gafodd ddiagnosis a thriniaeth am ganser y fron ym mis Ionawr y llynedd, deimlo'n sâl ar wyliau yn Kefalonia fis Gorffennaf diwethaf. Llewygodd ond cymerodd yn ganiataol mai'r gwres oedd ar fai.

Ar ôl sawl cwymp arall aeth ei merch Louise (sy'n barafeddyg) â hi i adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd.

Trefnwyd iddi ddod i gael trallwysiad gwaed, trallwysiadau haearn a sgan CT ond mynnodd ei meddyg teulu ym Mhrestatyn ei bod yn cael ei chyfeirio at glinig Diagnosis Cyflym yr ysbyty.

Dywedodd Jean, sy'n nain i 15 o blant: “Roeddwn i'n mynd o ddrwg i waeth. Roeddwn yn flinedig, yn swrth ac yn colli pwysau. Ni allwn i fwyta. Roedd fy ngŵr yn credu ei bod wedi canu arnaf i.

“Es i'n ôl at fy meddyg teulu ym mis Awst (y llynedd) oherwydd doedd neb wedi rhoi rheswm i mi pam roeddwn i'n teimlo felly.

“Yn y diwedd, dywedodd ‘Rwy'n mynd i'ch cyfeirio at y Clinig Diagnosis Cyflym’.”

Mae’r clinig hanner diwrnod wythnosol yn asesu cleifion sydd wedi dod i leoliad gofal sylfaenol â symptomau annelwig ac y mae eu meddyg teulu yn amau bod risg resymol bod canser arnynt. Bydd y mwyafrif o gleifion yn cael sgan CT ar y frest, yr abdomen a'r pelfis.

Llawfeddyg Ysbyty Maelor Wrecsam yn perfformio triniaeth lawfeddygol laser 'carreg boeth' gyntaf - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Daw'r symptomau annelwig hyn i'r amlwg yn achos oddeutu 50% o gleifion sy'n cael diagnosis yn cadarnhau canser.

Gall y rhain gynnwys colli pwysau, colli archwaeth, poen amhenodol yn yr abdomen a lludded.

Efallai y daw abnormaleddau amhenodol i'r amlwg pan gaiff y cleifion hyn brofion gwaed, er enghraifft, annormaledd o ran gweithrediad yr iau neu thrombocytosis - cyflwr a achosir gan ormod o blatennau ceulo gwaed, sy’n gallu dynodi afiechyd neu haint isorweddol.

Nod y clinig yw sicrhau y caiff pob claf naill ai diagnosis yn cadarnhau canser, diagnosis yn cadarnhau cyflwr difrifol nad yw'n ganser, neu ddiagnosis sy'n eu sicrhau nad yw eu cyflwr yn ddifrifol. Byddant hefyd yn cael cynllun rheoli, os yn briodol.

Caiff y Clinig Diagnosis Cyflym ei staffio gan nyrs glinigol arbenigol, gweithiwr cymorth gofal iechyd, meddyg, radiolegydd a rheolwr.

“Fe wnaeth fy meddyg teulu gadarnhau'r cyfeiriad ar y dydd Mawrth,” parhaodd  Jean. “Fe wnaeth y clinig fy ffonio i ar y dydd Mercher, ac roedd apwyntiad wedi'i drefnu i mi ar gyfer y dydd Mawrth dilynol.

“Roeddwn i'n credu'n ddiffuant bod rhywun yn gwneud rhywbeth a bod rhywun yn mynd i wrando arnaf i.

Cymorth Canser Macmillan yn buddsoddi dros £400,000 ar gyfer rolau canser y croen o fewn y Bwrdd Iechyd wrth i achosion gynyddu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

“Yn y clinig diagnostig, cefais brofion gwaed, cefais sgan CT a dywedodd y staff eu bod yn dymuno fy ngweld i yn ystod yr wythnos ddilynol. Roedd y staff yno'n hyfryd.”

Fodd bynnag, fe wnaeth meddyg teulu arall o'i phractis ei ffonio hi ddeuddydd yn ddiweddarach, datgelodd fod canser arni - ond roedd wedi'i gyfyngu i'w haren.

Datgelodd Jean, “Pan gefais wybod am hynny, teimlais ryddhad a dweud y gwir. “Dywedais, ‘well, mae gen i aren arall. Mae gen i ddwy aren, gallwch chi dynnu un’.”

Bum wythnos yn ddiweddarach tynnwyd aren ganseraidd Jean ac nid yw hir erioed wedi difaru.

Dywedodd ei gŵr John, sy’n gweithio’n rhan amser fel porthor yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl: “Roedd pawb ohonom ni'n credu ei bod hi wedi canu arni hi. Roedd hi'n edrych mor sâl. Roedd y teulu wedi dychryn. Ond roedd staff y clinig yn wych.

“Erbyn hyn, mae Jean yn edrych yn hollol wahanol i sut edrychai pan oedd yn sâl.”

Gwobr fawr am ofal canser i Ysbyty Gwynedd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Ychwanegodd Jean: “Cefais y llawdriniaeth ar y dydd Gwener a gadewais yr ysbyty ar y dydd Mawrth. Dywedodd y meddyg na allent wneud rhagor ac y buasai'n well i mi ddychwelyd adref.

“Pan oeddwn i'n sâl, doeddwn i ddim yn dymuno codi. Ni allwn i wneud unrhyw beth. Roeddwn i'n wan. Roeddwn i'n pwyso 11 stôn 3 phwys ac fe wnaeth hynny ostwng i 8 stôn 9 pwys ymhen rhyw ddeufis.

“Oddeutu wythnos wedi'r llawdriniaeth, roeddwn i'n bwyta'n dda unwaith eto ac yn teimlo'n iawn.

“Rwy'n teimlo'n wych. Fe wnaethom ni ymweld â Chaerefrog yr wythnos diwethaf a cherdded o amgylch y ddinas. Ni fuaswn i wedi gallu gwneud hynny'r llynedd. Cyfranogais yn Race for Life hefyd. Fe wnes i hynny gan gerdded ond ni fuaswn i wedi gallu gwneud unrhyw beth tebyg i hynny flwyddyn yn ôl.”

Hyderir bod y llawdriniaeth yn dwyn cyfnod anodd yn hanes y ddau i derfyn. Cafodd John ganser y bledren yn 2013, a chafodd driniaeth lwyddiannus ynghylch hynny.

Yna, cafodd ddiagnosis yn cadarnhau canser y brostad a chafodd hynny ei drin yn llwyddiannus yn Nhachwedd 2021, ddeufis cyn i Jean gael gwybod bod canser y fron arni hi.

“Mae staff Ysbyty Glan Clwyd yn haeddu cael eu canmol i'r entrychion,” meddal John. “Maent wedi bod yn wych.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)