Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau Diagnosis Cyflym

Mae Clinigau Diagnosis Cyflym (RDC) yn asesu symptomau cleifion yn gyflym i bennu p’un a oes angen cyfeirio. Yn ystod ymweliad â meddyg teulu, os bydd gan glaf symptomau aneglur ond sy’n peri pryder a allai awgrymu canser, efallai y byddant yn cael eu cyfeirio at glinig yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd neu Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae enghreifftiau o symptomau’n cynnwys colli pwysau, gorflinder a phoen amhenodol yn yr abdomen. Os nad yw canlyniadau claf yn dangos unrhyw dystiolaeth o afiechyd difrifol, byddant yn cael sicrwydd bod yr archwiliad wedi dod i’r casgliad nad oes dim arwyddocaol wedi’i ganfod.

Mae Clinig Diagnosis Cyflym (RDC) wedi’i sefydlu yn Ysbyty Gwynedd, yn Ysbyty Glan Clwyd ac yn Ysbyty Maelor Wrecsam – i ddiwallu anghenion cleifion ar draws Gogledd Cymru (ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr).

Beth yw pwrpas y Clinigau RDC?

Cyn hyn, pan oedd symptomau yn annelwig, gallai cleifion fod wedi cael eu hatgyfeirio i sawl gwasanaeth gwahanol cyn cael diagnosis, gyda’u meddyg teulu weithiau’n synhwyro bod rhywbeth o’i le ond yn methu dod i gasgliad beth ydyw am gryn amser.

Bydd y Clinigau Diagnosis Cyflym yn mynd i'r afael â hyn, gan roi mynediad i feddyg teulu a'u claf i brofiad prydlon ac effeithlon sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Er mai dim ond tua 1 o bob 10 claf sy’n cael eu hatgyfeirio fel hyn y canfyddir bod canser arnynt, gorau po gyntaf y gallwn wneud diagnosis o ganser. Felly, yn ogystal â gwella profiad cleifion, bydd yr RDCs yn cyfrannu at ein nod o wella canlyniadau canser yng Nghymru.

Mantais bwysig arall – o ddysgu gan brofiad gwasanaethau RDC eraill yng Nghymru – byddwn yn gallu canfod amrywiaeth o gyflyrau eraill (dim canser) a chael cleifion at yr arbenigwr cywir yn gynt ac yn fwy effeithlon.

Yn olaf, rydym am i gleifion nad oes ganddynt glefyd difrifol ddarganfod yn gynt ac osgoi cyfnodau hir o bryder ac efallai profion ac ymchwiliadau diangen.

Beth sy’n digwydd yn y clinig?

Ar ôl i'r meddyg teulu eu hatgyfeirio at y gwasanaeth hwn, bydd cleifion yn cael profion gwaed prydlon a phelydr-x o'r frest cyn eu hapwyntiad clinig. Bydd staff yr RDC yn cysylltu â chleifion dros y ffôn ac yn eu cefnogi i baratoi ar gyfer y clinig. Y nod yw eu gweld yn y clinig o fewn pythefnos o’r atgyfeiriad gan eu meddyg teulu.

Mae Tîm yr RDC ar bob safle ysbyty yn cynnwys Rheolwr Cydgysylltu, Nyrs Glinigol Arbenigol a Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd. Bob diwrnod clinig bydd meddyg a radiolegydd yn ymuno â nhw. Maent i gyd yn cydweithio gyda'r claf a'i feddyg teulu i gyrraedd y diagnosis.

Erbyn diwedd diwrnod y clinig, bydd cleifion naill ai’n cael eu canlyniadau a diagnosis tebygol, ac yn cael eu cyfeirio ymlaen at yr arbenigedd priodol, neu bydd ganddynt gynllun ar gyfer profion pellach neu bydd ganddynt sicrwydd bod y canlyniadau’n normal.