Mae grŵp gwirfoddol 4x4 wedi teithio dros 2,000 milltir i gludo gweithwyr GIG hanfodol drwy'r eira i'w gwaith yn ddiogel.
Mae meddygon yng Ngogledd Cymru yn annog pobl i beidio ag oedi cyn cael cymorth os ydynt yn boenus am eu hiechyd yn ystod y cyfnod clo COVID-19 diweddaraf.
Mae Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy, yr ysbyty enfys yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, yn cynyddu ei gapasiti o 30 i 45 gwely oherwydd y pwysau ar ein hysbytai.
Mae meddygon teulu ym Mhen Llŷn a Sir y Fflint wed brechu tua 2,300 o bobl gyda’r brechlyn Pfizer am y tro cyntaf yn y gymuned fel rhan o brosiect peilot.
Mae staff y GIG sy'n gofalu am bobl hŷn gyda salwch meddwl difrifol yn yr ysbyty wedi sôn am eu llawenydd a'u rhyddhad wrth weld eu cleifion sy'n agored i niwed yn derbyn y brechlyn COVID-19.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi nodi’r nifer uchaf erioed sydd wedi cael brechiad y ffliw yn ei gymunedau ar draws Gogledd Cymru.
Mae dynes o Wrecsam sydd wedi bod yn ymladd COVID-19 yn yr uned gofal dwys ar ôl i'w mam farw o'r firws yn annog y gymuned i gadw at y rheolau ac i aros yn ddiogel.
Mae trosglwyddiad cynyddol COVID-19 yn ardal Wrecsam a Sir y Fflint a nifer y cleifion sy’n cael eu trin am COVID-19 yn yr ysbyty – 128 ar hyn o bryd – ynghyd â phwysau’r gaeaf, wedi cael effaith sylweddol ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau arferol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Bydd cleifion cardiaidd yng ngogledd Cymru yn gallu derbyn monitorau calon wedi'u ffitio yng nghysur eu cartrefi eu hunain, gan leihau'r angen i ddod i'r ysbyty.