Neidio i'r prif gynnwy

Merch a fu'n rhaid ymladd am ei bywyd ar ôl colli ei mam i COVID-19 yn annog pobl i aros gartref

15/01/2021

Mae dynes o Wrecsam sydd wedi bod yn ymladd COVID-19 yn yr uned gofal dwys ar ôl i'w mam farw o'r firws yn annog y gymuned i gadw at y rheolau ac i aros yn ddiogel. 

Mae Denise Charles, 52 oed, hefyd wedi diolch i staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam am eu gofal "gwirioneddol anhygoel" ar ôl iddi hi gael ei thrin yno hefyd am COVID-19. 

Bu farw mam Denise, Betty (Elizabeth) Charles, 82 oed, o Hightown, ar 23 Rhagfyr oherwydd COVID-19, tra'r oedd Denise hefyd yn ymladd y firws gartref ac aed â hi ar frys i'r ysbyty'n ddiweddarach hefyd.

Dywedodd Denise: “Bu fy mam ar Ward Prince of Wales, ac roedd ar FaceTime gyda ni yn gwenu ac yn hapus. Yna, fore trannoeth, ar benblwydd fy nhad, am 6.30am, derbyniais yr alwad ffôn bod Mam wedi marw. Roedd y nyrs mor hyfryd, esboniodd fod y farwolaeth yn sydyn, a'i fod wedi cydio yn ei llaw.

“Fel teulu, roeddem ni mor ofalus am gadw pellter cymdeithasol, gwisgo masg a chadw Mam yn ddiogel. Gwnaethom ni gadw ein hunain mor ddiogel sy'n peri i ni feddwl, efallai, ein bod wedi cael ein heintio o fewn y gymuned."

Am i Denise fod yn hunanynysu gartref, ni allai dreulio'r Nadolig gyda'i theulu na galaru gyda nhw. Ar ddiwedd ei chyfnod o hunanynysu, aeth Denise yn hynod o sâl a galwodd ei ffrind Leah Faircloth am ambiwlans. 

Dywedodd Denise: “Roeddwn i'n las, yn crynu'n afreolus, yn chwydu ac allwn i ddim cael fy ngwynt ataf, allwn i ddim cerdded i fyny'r grisiau. Heblaw am Leah, fyddwn i ddim yma heddiw, fydda' i byth yn gallu diolch iddi ddigon. 

“Pan gyrhaeddais yr ysbyty, roedd meddyg yn aros amdanaf y tu allan i'r adran dadebru. Aeth pethau o ddrwg i waeth yn gyflym iawn, ond roedd arna' i niwmonia COVID-19, ac roedd lefelau fy ocsigen yn isel iawn. O fewn 12 awr, roeddwn i ar yr Uned Gofal Dwys (ICU) ar beiriant CPAP.

“Roeddwn i yn ICU am bum niwrnod, alla' i ddim credu'r ffordd yr oedd y staff yn gweithio yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid yn unig gwnaethant ofalu am fy iechyd corfforol, ond hefyd fy iechyd meddwl, a gwnaethant gefnogi fy nheulu. Alla' i ddim dychmygu sut brofiad oedd hyn i'm teulu, colli ein Mam ac yna, roeddwn innau mor sâl.

“Gwelais pa mor galed yr oedd y staff yn gweithio, yn gwisgo PPE llawn, dwy awr ar y ward ac un awr oddi ar y ward. Byth yn stopio, bob amser mor barod eu cymorth ac mor drugarog, alla' i ddim diolch iddyn nhw ddigon a mawr yw fy nyled iddyn nhw."

Mae Denise bellach gartref ar ôl 11 diwrnod yn yr ysbyty ac mae hi bellach yn gwella ond mae'n dal i deimlo'n fyr o wynt ac yn ddi-egni.  

Dywedodd Denise: “Roedd Mam yn ymwneud dipyn â’r eglwys am flynyddoedd lawer ac roedd hi'n rhan o'r gymuned yn Hightown lle roedd hi’n byw, ond uwchlaw popeth, roedd yn meddwl y byd o'i phedwar o wyrion, a hi oedd y Nain orau erioed, nhw oedd ei bywyd hi. 

“Rydw i wedi adrodd rhan o'm stori i, yn rhannol i ddiolch o galon i'r staff ymroddedig, sy'n peryglu eu bywydau, yn y gobaith y bydd yn cyrraedd pobl a’u teuluoedd i ofalu am bobl yn eu gofal, a hefyd yn y gobaith y bydd yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith. 

“Fyddwn i ddim am i'r hyn sydd wedi digwydd i'm teulu ddigwydd i neb arall, a'r unig neges y galla' i ei rhoi yw mai rhywbeth go iawn yw hyn. Mae wedi mynd â rhan o'n bywydau na fyddwn ni byth yn ei chael yn ôl, felly cadwch eich hun yn ddiogel, da chi, a bydd hynny'n helpu i gadw eraill yn ddiogel. 

“Rydw i wedi gweld fideos ar-lein o bobl yn ffilmio'r ysbyty 'gwag'. Cafodd un ei ffilmio ar Ddydd Calan tra roeddwn yn ICU, a oedd yn hynod brysur. Mae'r ysbyty wedi gwahanu cleifion COVID-19 oddi wrth eraill ac wedi gohirio gofal nad yw'n frys er mwyn rhyddhau capasiti felly efallai y byddai rhai mannau wedi edrych yn dawel ond gwelais o lygad y ffynnon pa mor ddiflino y mae staff yn gweithio o fore gwyn tan nos ac mae'r fideos hyn yn tanseilio hynny. Gwelais hefyd sut roedd y fideos hyn yn effeithio ar y staff. Gobeithio y bydd mwy o bobl yn credu mai rhywbeth go iawn yw COVID-19, mae wedi bod yn dorcalonnus i'n teulu ni.

“Mae'r staff yn rhoi eu bywydau yn y fantol bob dydd yn y frwydr yn erbyn COVID-19, gwnaethant achub fy mywyd i ac alla' i byth ddiolch iddyn nhw ddigon."