Neidio i'r prif gynnwy

Cannoedd o gleifion yn cael cynnig monitorau calon newydd 'i'w ffitio gartref'

Bydd cleifion cardiaidd yng ngogledd Cymru yn gallu derbyn monitorau calon wedi'u ffitio yng nghysur eu cartrefi eu hunain, gan leihau'r angen i ddod i'r ysbyty. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig y cyfle i ryw 1,300 o gleifion dderbyn monitorau calon trwy'r post, lle gellir eu ffitio a'u dadansoddi heb yr angen i fynd i un o'r tri Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yng ngogledd Cymru.

Mae'r fenter wedi'i chyflwyno mewn ymateb i leihad mewn clinigau a lefelau staffio oherwydd pandemig COVID-19.

Mae'r monitorau, a ddarperir gan gwmni offer meddygol Icentia, yn canfod rhythm a gweithgarwch trydanol calonnau cleifion mewn gweithred sy'n cael ei galw'n electrogardiogram (ECG).  Caiff synwyryddion sydd wedi'i hatodi i'r croen eu defnyddio i ganfod y signalau trydanol sy'n cael eu cynhyrchu gan y galon bob tro y bydd yn curo.

Caiff y canlyniadau eu dadansooddi gan Icentia a bydd staff y GIG yn cael gwybod ar unwaith am unrhyw abnormaleddau arwyddocaol, gan alluogi cleifion i dderbyn triniaeth brydlon, sy'n gallu amrywio o newidiadau i feddyginiaeth, i dderbyn rheoliaduron neu ffitio dyfeisiau diffibrilio cardiaidd.

Caiff y monitorau calon o bell eu defnyddio'n nodweddiadol ar gyfer cleifion sy'n dioddef crychguriadau trafferthus neu byliau o benysgafnder.

Dywedodd Helen Wilkinson Rheolwr Strategol Gwasanaethau Cardiaidd BIPBC:

“Cyn pandemig COVID-19, cafodd monitorau calon eu ffitio mewn clinigau ar safleoedd y Bwrdd Iechyd. Yna, byddai cleifion yn dychwelyd y monitor a byddai'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi.  Oherwydd y pandemig, ni allwn ddod â'r cleifion hyn i'n safleoedd llym oherwydd risg heintio COVID-19, lleihad mewn capasti clinigol a lefelau staffio is.

“Mae angen i ni fod yn arloesol gyda'n diagnosteg gan gadw ein cleifion yn ddiogel a chyflwyno'r bartneriaeth hon gydag Icentia yw'r datrysiad mwyaf amlwg.”

Dywedodd Claire Gallagher, Pennaeth Ffisioleg Gardiaidd yn Ysbyty Glan Clwyd:

“Oherwydd y pryderon a godwyd gan gleifion ynghylch dod i'r adran, mi wnes i rywfaint o ymchwil i edrych ar ffyrdd eraill y gallem barhau i gynnig gwasanaeth heb ddod â chleifion i mewn heb fod angen. Cysylltais ag Icentia a derbyniais ddau fonitor ar dreial a weithiodd yn dda, gan ddarparu recordiadau o ansawdd uchel o ddiogelwch cartref y claf."

Dywedodd Dr Richard Cowell, Cardiolegydd Ymgynghorol Arweiniol yn BIPBC, y byddai'r ymagwedd newydd yn helpu i ddelio â rhestr aros gynyddol am fonitorau ECG ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Dr Cowell: “Mae nifer gynyddol o gleifion yn aros am fonitorau ECG parhaus neu hirfaith ac mae rhai cleifion risg fawr wrth reswm yn poeni'n fawr am ddod i'r ysbyty. Yn nodweddiadol, bydd y cleifion hyn yn cael crychguriadau trafferthus, pyliau o benysgafnder neu hyd yn oed lewygu.

“Gall abnormaleddau sy'n cael eu canfod ar y monitorau hyn arwain at driniaeth gyda chyffuriau i atal crychguriadau, cyffuriau gwrthgeulo i atal strôc, triniaeth gyda rheoliaduron neu hyd yn oed fewnblannu dyfeisiau diffibrilio cardiaidd”.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu'n uniongyrchol â'r holl gleifion cymwys.