Neidio i'r prif gynnwy

Meddygon teulu yn Sir y Fflint a Phen Llŷn yn brechu 2,300 o bobl gyda'r brechlyn Pfizer

25 Ionawr, 2021

Mae meddygon teulu ym Mhen Llŷn a Sir y Fflint wed brechu tua 2,300 o bobl gyda’r brechlyn Pfizer am y tro cyntaf yn y gymuned fel rhan o brosiect peilot.

Cyn hynny, ni ellid defnyddio’r brechlyn Pfizer dim ond yn y canolfannau brechu torfol oherwydd bod angen ei storio ar dymheredd isel iawn.

Dros y penwythnos, cafodd 1,200 eu brechlyn yn Nhŷ Doctor Nefyn a 1,100 yng Nghanolfan Feddygol Bwcle.

Gweithiodd y ddwy feddygfa ar y cyd â meddygfeydd eraill yn eu clwstwr i roi’r brechlyn i gleifion o’r grwpiau blaenoriaeth dros ddau ddiwrnod.

Dywedodd Dr Eilir Hughes, Meddyg Teulu yn Nhŷ Doctor Nefyn ac Arweinydd Clwstwr Dwyfor: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y brechlyn Pfizer yma yn y gymuned.

“Mae ganddo heriau ychwanegol o’i gymharu â brechlyn Rhydychen, ond rydw i’n hyderus y bydd ein peilot yma ym Mhen Llŷn yn dangos y gellir ei ailadrodd unrhyw le yng Nghymru ble mae meddygfeydd yn clystyru gyda’i gilydd er mwyn brechu llawer iawn o’u cleifion yn gyflym ac yn ddiogel.

“Fel meddygon teulu, rydym wedi ymrwymo i’r rhaglen frechu – hoffem eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth allwn ni i gyrraedd atoch mor gyflym â phosibl.

Dywedodd Dr Jim McGuigan, Meddyg Teulu a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Ardal ar gyfer Dwyrain Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’n gyffrous iawn bod yn rhan o beilot y Llywodraeth i gael y brechlyn Pfizer i ofal cychwynnol, mae hyn i gyd yn ymwneud â chynyddu niferoedd y brechlyn yn y gymuned a chael ein bywydau yn ôl i normal.

“Mae’r cleifion a’n staff wedi gwirioni, rydyn ni yma yn dechrau’r peilot ar nos Wener ac ni allaf feddwl am ffordd well o dreulio nos Wener. Mae ein harweinydd clwstwr Jo Parry-James wedi gwneud gwaith gwych yn trefnu’r peilot hwn ar gyfer de Sir y Fflint.”

I gael y newyddion diweddaraf ar ein rhaglen frechu, ewch i: Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)