Neidio i'r prif gynnwy

15 gwely ychwanegol i agor yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy

26/01/2021

Mae Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy, yr ysbyty enfys yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, yn cynyddu ei gapasiti o 30 i 45 gwely oherwydd y pwysau ar ein hysbytai. 

Mae cynnydd mewn trosglwyddiad cymunedol o COVID-19 yng Ngogledd Cymru, yn enwedig ar draws Sir y Fflint a Wrecsam, yn rhoi pwysau sylweddol ar Ysbyty Maelor Wrecsam. 

Bydd y capasiti ychwanegol yn Ysbyty Enfys yn helpu i sicrhau bod gwelyau ar gael yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae'r meini prawf ar gyfer y cleifion a fydd yn cael eu trin yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy hefyd wedi eu cynyddu i gynnwys cleifion mwy sâl.

Dywedodd Dr Cameron Abbott, Arweinydd Clinigol yn Ysbyty Glannau Dyfrdwy: "Yn ddelfrydol, byddem yn trin pob claf yn ein hysbytai llym, ond mae niferoedd y cleifion yn cynyddu'n gyflym. 

"Nid oes gennym ardaloedd pellach yn Ysbyty Maelor Wrecsam ble gallwn roi gwelyau ychwanegol ac mae natur COVID-19 yn golygu bod rhaid i ni ostwng niferoedd y cleifion mewn rhai ardaloedd  i gefnogi mesurau atal haint."

Mae nifer y bobl sy'n cael eu derbyn gyda COVID-19 yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cynyddu i dros ddwbl y niferoedd ers y Nadolig. 

Bydd y capasiti ychwanegol yn cefnogi ein cynlluniau i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu mynediad prydlon at ofal a chymorth i gleifion pan mae ei angen arnynt.

Mae gwaith arwyddocaol ar waith i gynyddu capasiti gweithlu'r Bwrdd Iechyd er mwyn staffio'r ysbytai dros dro.

Mae'r nifer cynyddol o gleifion sy'n cael eu trin am COVID-19 hefyd wedi cael effaith arwyddocaol ar wasanaethau arferol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac o ganlyniad mae llawdriniaethau wedi eu cynllunio'n cael eu gohirio am gyfnod cychwynnol o bythefnos (o ddydd Llun 11  Ionawr). Mae hyn wedi caniatáu i staff symud dros dro o wasanaethau gohiriedig i gefnogi wardiau COVID-19 yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy.

Sefydlwyd yr ysbyty dros dro ar ddechrau'r pandemig ym mis Ebrill a chroesawodd ei glaf cyntaf, sef Arfon Hardy yn 55 mlwydd oed o'r Wyddgrug, ar ddechrau mis Tachwedd.

Mae Ward 1 yr ysbyty wedi ei leoli ar beth oedd prif neuadd chwaraeon Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, sydd â chyfanswm capasiti o hyd at 110 claf. Ar draws Gogledd Cymru, mae darpariaethau ar waith i agor hyd at 1,000 o welyau ychwanegol mewn ysbytai enfys os oes angen.

Caiff Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy ei reoli gan dîm o feddygon, nyrsys a staff therapi'n gweithio gyda'i gilydd i helpu cleifion ddychwelyd gartref yn dilyn triniaeth COVID-19. Mae'r tîm yn defnyddio dull amlddisgyblaethol, gan weithio gyda'i gilydd i rannu arbenigedd a sgiliau, i helpu cleifion gymryd y camau terfynol cyn mynd gartref.