Neidio i'r prif gynnwy

Tîm ymateb 4x4 gwirfoddol yn cludo staff GIG hanfodol i'w gwaith drwy'r eira

29/01/2021

Mae grŵp gwirfoddol 4x4 wedi teithio dros 2,000 milltir i gludo gweithwyr GIG hanfodol drwy'r eira i'w gwaith yn ddiogel.

Mae gwirfoddolwyr o'r elusen Ymateb 4x4 Cymru wedi darparu cludiant hanfodol ar gyfer staff, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Besti Cadwaladr (BIPBC) yn ystod yr eira mawr dros yr wythnosau diwethaf, fel eu bod yn gallu cyrraedd y gwaith yn ddiogel pan na all eu cerbydau eu hunain ymdopi â'r tywydd garw.

Mae gan y bwrdd iechyd gytundeb gyda'r grŵp Ymateb 4x4 Cymru fel rhan o'r Cynllun Tywydd Garw, fel bod y tîm, sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig, yn gallu camu i'r adwy a chefnogi staff 24/7 y dydd, drwy gydol y flwyddyn, i sicrhau na chollir unrhyw sifftiau hanfodol oherwydd y tywydd garw.

Eleni, hyd at 26 Ionawr, mae'r gwirfoddolwyr wedi cludo dros 52 o staff hanfodol y GIG i bedwar ysbyty ac wedi cynorthwyo nyrsys ardal i gynnal eu hymweliadau â'r cartref fel yr arfer. Mae 14 gyrrwr unigol wedi eu lleoli ar amseroedd amrywiol, gan yrru dros 2,086 milltir dros 102 awr yn Siroedd Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy. 

Dywedodd Maureen Wain, Cyfarwyddwr Ysbyty Maelor Wrecsam: "Hoffwn ddiolch i'r tîm ymateb a phob un o'r gwirfoddolwyr sydd wedi helpu ein staff i gyrraedd y gwaith yn ddiogel, a dychwelyd gartref hefyd.  Mae hyn yn gymorth mawr i'n cynllun gwydnwch tywydd ac mae'n sicrhau na tharfir ar ein gwasanaethau hanfodol a bod ein staff yn parhau yn ddiogel."

Mae'r gyrwyr 4x4 wedi cael gwiriad DBS ac wedi derbyn hyfforddiant arbennig i yrru eu cerbydau eu hunain mewn tywydd garw megis eira, rhew a llifogydd, yn ogystal â hyfforddiant oddi ar y ffordd, mordwyo a chyfathrebu, cymorth cyntaf, asesiadau risg ac ymwybyddiaeth dŵr a llifogydd.   Maent yn cludo ystod lawn o offer achosion brys ac offer goroesi i'w gwneud yn wydn os yw'r amgylchiadau’n gwaethygu.  Yn ystod COVID-19 maent yn gweithio ar asesiad risg sydd wedi ei ddylunio i gadw gyrwyr a staff y Bwrdd Iechd yn ddiogel bob amser.

Dywedodd Leigh Ryder, y Prif Reolwr ar gyfer y Tîm Ymateb 4x4 yng Ngogledd Cymru: "Mae ein tîm yn hyfforddi'n rheolaidd i sicrhau ein bod yn gallu ymateb i geisiadau am gymorth gan ein partneriaid yn y gwasanaethau brys fel bod cymunedau'n cael y cymorth sydd eu hangen arnynt pryd bynnag mae'n hanfodol, gall hynny fod yn y tywydd garw neu mewn achosion brys eraill.  Yn ogystal â chefnogi'r Bwrdd Iechyd dros y pythefnos diwethaf, ar 21 Ionawr, cawsom gais i gefnogi Heddlu Gogledd Cymru a'u hasiantaethau partner i gynorthwyo gyda thynnu preswylwyr Bangor Is-coed o'r ardal."

Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Jon Aspinal: "Roeddem yn ddiolchgar am gymorth arbenigol a ddarparodd y tîm Ymateb 4x4 i'n swyddogion ym Mangor Is-coed yn ddiweddar.  Cyflawnwyd yr holl dasgau a ddyrannwyd iddynt yn ddiogel a llwyddiannus a gwerthfawrogwyd hynny'n fawr gan ein tîm."

Os oes gennych chi gerbyd 4x4 a'ch bod yn dymuno helpu eich cymuned, gallwch ddarllen mwy am dîm Gogledd Cymru a chysylltu â'r elusen Ymateb 4x4 Cymru ar https://www.4x4responsewales.org/ neu roi cyfraniad ar y grŵp Facebook ‘North Wales 4x4 Response Group’