Neidio i'r prif gynnwy

Oedi llawfeddygaeth a gynlluniwyd oherwydd pwysau COVID-19 yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae trosglwyddiad cynyddol COVID-19 yn ardal Wrecsam a Sir y Fflint a nifer y cleifion sy’n cael eu trin am COVID-19 yn yr ysbyty  – 128 ar hyn o bryd – ynghyd â phwysau’r gaeaf, wedi cael effaith sylweddol ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau arferol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Yn anffodus, bydd yr holl lawfeddygaeth a gynlluniwyd yn yr ysbyty yn cael ei ohirio am gyfnod cychwynnol o bythefnos, a hynny o heddiw, dydd Llun 11 Ionawr ymlaen. Bydd hyn yn cefnogi ehangu capasiti gofal critigol a resbiradol i drin cleifion COVID-19 difrifol wael. Bydd yn cael ei adolygu’n gyson i’n galluogi i ymateb yn brydlon i’r sefyllfa sy’n esblygu.

Bydd pob llawfeddygaeth frys, llawfeddygaeth y llwybr gastroberfeddol uwch, triniaethau endosgopi a llawdriniaethau Caesarean yn parhau yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu’n uniongyrchol â phob claf perthnasol am ohirio eu triniaeth. Os yw’n briodol yn glinigol efallai y cânt gynnig eu triniaeth yn Ysbyty Gwynedd.

Bydd cleifion sy’n cael cynnig y cyfle i gael eu triniaeth yn Ysbyty Gwynedd yn cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar angen clinigol, waeth ble yng Ngogledd Cymru maen nhw’n byw.

Bydd apwyntiadau cleifion allanol brys yn unig yn parhau yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar hyn o bryd. Bydd apwyntiadau arferol wyneb yn wyneb yn cael eu gohirio ac yn cael eu cynnal un ai fel ymgynghoriad rhithiol neu dros y ffôn.    

Bydd llawfeddygaeth wedi ei chynllunio yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn parhau, er, gyda’r achosion o COVID-19 yn cynyddu, mae hyn yn cael ei adolygu’n barhaus gan y Bwrdd Iechyd.

Oherwydd pwysau COVID-19, bydd llawfeddygaeth Orthopaedig a gynlluniwyd yn cael ei ohirio ledled Gogledd Cymru o ddydd Llun 18 Ionawr. Bydd llawfeddygaeth trawma yn parhau fel arfer ar draws y tri safle ysbyty.  

Mae Byrddau Iechyd eraill eisoes wedi cymryd camau tebyg, sy’n unol â dulliau a dderbynnir yn genedlaethol i asesu risg cleifion.

Dywedodd yr Athro Arpan Guha, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:  “Mae llawer o gleifion yn disgwyl cael llawdriniaeth yn Wrecsam dros yr wythnosau nesaf ac rydym yn cydnabod mor bryderus y byddant eisoes am gael llawdriniaeth yn ystod yr ymchwydd diweddar o’r pandemig.

“Mae’n ddrwg gennym am unrhyw ofid pellach neu anghyfleustra y mae’r penderfyniad hwn yn ei achosi a hoffem sicrhau’r rhai a effeithiwyd ein bod yn gwneud popeth allwn ni i flaenoriaethu cleifion sydd â’r angen mwyaf brys am ofal.

“Ein blaenoriaeth yw darparu’r amgylchedd mwyaf diogel bosibl i gleifion llawfeddygol. Gwnaed y penderfyniad clinigol hwn ar ôl adolygu’r galw a ragwelir ar ein gwasanaethau oherwydd COVID-19 a phwysau’r gaeaf.

“Mae ein staff yn gwneud popeth posibl i ddarparu’r gofal gorau i bob claf wrth ddelio â’r heriau a achosir gan absenoldebau cydweithwyr oherwydd yr haint COVID-19, hunan ynysu a chysgodi.”

 

Yr arbenigeddau a effeithir gan y newidiadau hyn yw:

  • Wroleg
  • Y Fron
  • Offthalmoleg
  • Llawfeddygaeth gyffredinol
  • Gynaecoleg
  • Clust, Trwyn a Gwddf (ENT)

 

Cyngor i gleifion sydd i fod i gael llawfeddygaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ystod y pythefnos nesaf

  • Bydd staff yr ysbyty yn cysylltu â chi dros y ffôn am eich apwyntiad. Peidiwch â chysylltu â switsfwrdd yr ysbyty.  
  • Os na fyddwch yn clywed gan yr ysbyty, ewch i’ch apwyntiad fel y trefnwyd.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen mwy o wybodaeth am eich apwyntiad neu lawdriniaeth, defnyddiwch y manylion cyswllt ar unrhyw ohebiaeth a gawsoch, er enghraifft, llythyr claf. 
  • Os ydych yn ddifrifol wael ac os na allwch aros i gael eich gweld, ein cyngor o hyd yw i geisio cymorth drwy ddeialu 999 neu fynd i’r Adran Achosion Brys.