Neidio i'r prif gynnwy

Geni mewn dŵr – pwll geni

Mae’r defnydd o ddŵr yn ystod yr esgoriad a genedigaeth yn cynnig opsiwn an-feddygol ar gyfer lladd poen, helpu i leihau’r teimladau o bryder a lefelau poen, tra hefyd yn cefnogi’r broses naturiol o esgor o ganlyniad i ryddhau hormonau a gwell symudedd ac ystum. 

Os yw’ch beichiogrwydd a’ch esgoriad yn risg isel, yna fe allech ddymuno ystyried defnyddio’r pwll geni yn ystod yr esgor a’r enedigaeth. Gallwch hefyd ddewis mynd allan o’r pwll ar gyfer genedigaeth eich babi. 

Efallai y byddwch yn dal i allu defnyddio’r pwll geni os yw eich beichiogrwydd yn risg uchel, fodd bynnag bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Siaradwch â’ch bydwraig am gyngor pellach ynghylch a fyddai’r dull hwn o eni yn addas i chi. 

Os ydych yn dewis defnyddio pwll geni, byddwch yn parhau i gael eich monitro yn agos drwy gydol eich esgoriad ac efallai y bydd amgylchiadau lle’ch cynghorir chi i adael y pwll. Gallwch hefyd ddefnyddio nwy ac aer yn y pwll geni, fodd bynnag os hoffech gael lladdwr poen ychwanegol megis diamorffin yna bydd angen i chi adael y pwll geni ac ni fyddwch yn gallu mynd yn ôl i mewn am o leiaf 2 awr.

Mae gennym byllau geni yn ein hunedau a arweinir gan fydwragedd ac Ystafelloedd Esgor ar draws Gogledd Cymru. Os ydych yn cynllunio genedigaeth mewn dŵr, gadewch i’r fydwraig wybod pan fyddwch yn cysylltu gyntaf gyda’r uned unwaith y bydd eich esgoriad wedi cychwyn gan mai nifer cyfyngedig o byllau geni sydd gennym. 

Os ydych yn cynllunio genedigaeth yn y cartref gallwch drefnu logi pwll geni preifat, cyn belled â bod gennych ofod addas, siaradwch â’ch bydwraig am ragor o wybodaeth am Opsiynau geni cartref.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau

  • Gofal Cyn-geni – Dolenni defnyddiol ar gyfer gofal cynenedigol. Yn ystod eich beichiogrwydd cyntaf.
  • Ble byddwch yn Geni – Un o’r penderfyniadau pwysicaf a wnewch yn ystod eich beichiogrwydd yw lle i gael eich babi.
  • Gwasanaethau Bydwragedd Cymunedol – Mae ein bydwragedd cymunedol yn darparu nifer o ganolfannau clinigau cymunedol ar draws Gogledd Cymru.