Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Cyn Geni

Llongyfarchiadau, rydych chi'n feichiog! 

Ar ôl canfod eich bod yn feichiog, cysylltwch â'ch bydwragedd cymunedol lleol er mwyn cychwyn eich gofal cynenedigol.

Eich tîm cynenedigol, sy'n cynnwys bydwragedd cymunedol, bydwragedd arbenigol, obstetregwyr (meddygon sy'n gofalu am ferched tra byddant yn feichiog), pediatregwyr (meddygon sy'n gofalu am fabanod a phlant) a chynorthwywyr gofal iechyd mamolaeth, yw'r tîm a fydd yn eich cynorthwyo trwy gydol taith eich beichiogrwydd.

Arwyddion beichiogrwydd

Gall arwyddion cynnar beichiogrwydd yn ystod y tri mis cyntaf gynnwys teimlo'n sâl, bronnau poenus a newidiadau emosiynol.

Yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd, bydd hormon a elwir yn brogesteron yn gweithredu i lacio'r cyhyrau a'r gewynnau i ganiatáu i'r baban dyfu a chael ei eni. Gall hyn achosi straen yn eich cefn, poenau yn y cyhyrau a blinder, ynghyd â gwneud i chi deimlo'n isel eich ysbryd. Siaradwch â'ch bydwraig gymunedol neu'r tîm obstetreg os ydych chi'n poeni am y symptomau. 

Chwiliwch am ragor o wybodaeth a chyngor ynghylch iechyd yn ystod eich beichiogrwydd

Cofnodion Mamolaeth Cymru Gyfan/Cofnod Llaw (HHN)

Mae'r cofnodion mamolaeth, a elwir hefyd yn gofnod llaw, yn llyfr/ffolder cofnodion a ddefnyddir gan eich bydwraig i nodi manylion pob apwyntiad.

Bydd eich bydwraig gymunedol yn cychwyn eich cofnod llaw trwy nodi manylion eich 'Apwyntiad Neilltuo', sy'n digwydd cyn 10fed wythnos eich beichiogrwydd. 

Ar ôl cwblhau eich cofnod llaw, bydd eich bydwraig gymunedol yn gallu trafod eich eich amserlen gofal gofynnol. 

Dylech gofio cadw'r cofnodion hyn yn ofalus a dod â hwy i bob apwyntiad er mwyn gallu ychwanegu manylion cynlluniau gofal, asesiadau risgiau a chanlyniadau diweddaredig.

Gofynnir i chi hefyd ddod â sampl wrin i bob apwyntiad gofal cynenedigol.

Dylech geisio cyngor gan eich meddyg teulu ynghylch unrhyw gyflyrau neu broblemau meddygol nad ydynt yn ymwneud â'ch beichiogrwydd.

Amserlen gofal

Sylwch mai'r gofyniad lleiaf yw'r amserlen gofal ddilynol. Wedi pob apwyntiad, efallai bydd asesiad o'r risgiau yn nodi bod angen apwyntiadau ychwanegol. Bydd eich bydwraig gymunedol yn trafod hyn â chi. Cofiwch holi eich bydwraig gymunedol yn ddi-oed os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael esboniad manylach ynghylch unrhyw beth.

Ehangwch yr isod i weld yr amserlen gofal: 

Mae Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) yn glot gwaed yn yr wythïen, sy’n gallu arwain at broblemau iechyd difrifol. Er bod risg DVT, ar y cyfan, yn isel i ferched beichiog a merched sydd newydd roi genedigaeth, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r symptomau a sut i leihau’r risgiau.

Byddwch yn derbyn nifer o asesiadau yn eich apwyntiad cychwynnol gyda’r fydwraig gymunedol, gan gynnwys asesiad ar gyfer DVT. I gael rhagor o gyngor, siaradwch â’ch Bydwraig neu’ch Meddyg Ymgynghorol.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau