Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Mamolaeth

Mae dros 6000 o fabanod yn cael eu geni yng Ngogledd Cymru bob blwyddyn. Bydd gan bob merch ei syniadau ei hun o ran ble yr hoffai roi genedigaeth a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu i gyflawni hyn. P'un a yw'n rhoi genedigaeth gartref, mewn uned dan arweiniad bydwraig neu dan arweiniad meddyg ymgynghorol mae gennym y cyfleusterau i allu cynnig hyn i chi. Mae ein tîm o staff mamolaeth trugarog ac ymroddedig yma i wrando arnoch chi, i drafod eich opsiynau ac i weithio gyda chi i sicrhau bod eich profiad o feichiogrwydd a genedigaeth mor ddiogel a chadarnhaol ag sy'n bosibl.