Neidio i'r prif gynnwy

Sydyn 2020

 

Nifer y blynyddoedd ar ôl y mewnblaniad: 3 mis

Categori oedran: 31-50

Achos colli clyw: Sydyn

 

Diolch yn fawr iawn am glywed fy stori bersonol fy hun, sef hanes pan gefais lawdriniaeth anhygoel Mewnblaniad Cochlear yn ddiweddar, “Ar ddyddiad na fyddaf byth yn ei anghofio” sef 15 Medi 2020, ‘roedd yn fendith derbyn y mewnblaniad ac rwy’n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi'i gael. Rwy'n 45 oed ac yn byw gyda Chlefyd Mitocondriaidd.

 

Fy Nghlyw cyn y Mewnblaniad

I dorri stori hir yn fyr...Yn ôl ym mis Hydref 2018, tra yn yr ysbyty oherwydd Sepsis, sylwais fy mod wedi colli fy nghlyw yn fy nghlust chwith, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli hynny oherwydd fy mod yn medru clywed drwy fy nghlust dde. Felly erbyn i mi sylweddoli, yn anffodus, roedd hi'n rhy hwyr i geisio adfer y clyw yn fy nghlust chwith. Bryd hynny, roedden nhw'n canolbwyntio ar fy nghlust dde, gyda chymhorthion clyw, ac fe wnes i ymdopi'n iawn â nhw. Ond yn anffodus ym mis Mawrth / Ebrill 2020 collais fy nghlyw yn y glust dde yn gyfangwbl hefyd. Oherwydd bod hyn wedi digwydd yn sydyn, rhagnodwyd cwrs brys o steroidau i mi am gyfnod o bythefnos, ond yn anffodus, yn fy achos i, nid oedd hyn yn helpu. Roeddwn i dan ofal yr Adran Awdioleg yn Ysbyty Aintree, Lerpwl, a thrafodwyd yr opsiwn posibl o gael Mewnblaniad Cochlear. Roeddwn wedi clywed am fewnblaniad cynt, ond byth yn meddwl y byddwn mewn sefyllfa lle byddai angen un arnaf i. Roedd colli fy nglyw yn gyfangwbl wedi torri fy nghalon ac roeddwn yn teimlo ar goll, yn ddi-hyder ac yn llawn pryder.  Dyma'r amser anoddaf, tristaf, a mwyaf rhwystredig rydw i wedi’i brofi erioed, doedd gennym ni ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd. I mi’n bersonol fel gwraig a mam a chwaer, yr unig ddisgrifiad sydd gennyf o’r cyfnod ydy ei fod yn gyfnod tywyll iawn, oherwydd doeddwn i ddim yn gallu cysylltu a chyfathrebu ac yn anffodus dechreuais golli pob hyder wrth gyfathrebu. Do, fe gawson ni ambell jôc am y peth...!!! Wrth geisio dod o hyd i rywfaint o ysgafnder i’r sefyllfa. Fe wnaethon ni ddefnyddio cryn dipyn o bapur a beiro ac yna daethom o hyd i ap ar y ffôn oedd yn defnyddio ‘Live Transcripts’ ac mi oedd hyn yn helpu, nid i gynnal sgyrsiau, ond ar gyfer Cwestiynau ac Atebion - roedd yn ddefnyddiol iawn. Roedd ceisio cadw cyswllt gyda’r teulu yn flinedig dros ben, wrth geisio darllen gwefusau neu orfod chwarae gêm debyg i "Rhowch gliw i mi "... es i o fod yn unigolyn cryf, positif, cymwynasgar a gweithgar, er gwaetha’r Clefyd Mitochondrial, i deimlo'n hollol ddiwerth, dyna oedd y teimlad gwaethaf yn y byd i mi. Roeddwn i’n gorfod dibynnu ar fy nheulu i gymryd cyfrifoldeb am fy ngalwadau ffôn i gyd, fy apwyntiadau, ac ati, ac felly fe gollais i fy hyder i gyd yn sydyn iawn. Ar ben bob dim, yn anffodus, digwyddodd hyn i gyd yn ystod argyfwng Covid 19 felly, wrth gwrs, roedd hi’n anodd iawn i gael apwyntiadau oherwydd mod i’n hunan-ynysu gan fy mod yn y categori risg uchel oherwydd fy nghyflwr.

 

Asesiad Mewnblaniad Cochlear

Oherwydd bod hwn yn fater brys, fe wnaeth adran Awdioleg GIG Aintree fy nghyfeirio ar unwaith at y Tîm Awdioleg yn Ysbyty Glan Clwyd yng Nghymru. Doeddwn i ddim yn meddwl bod unrhyw obaith i mi oherwydd yr holl gyfyngiadau, ac fe wnaeth hyn wneud i mi deimlo hyd yn oed yn fwy pryderus. Gan nad oeddwn i’n meddwl y byddai gen i unrhyw obaith o gael fy ngweld nes bod holl gyfyngiadau’r cyfnod clo wedi'u codi, cynyddodd fy iselder ac roeddwn i'n teimlo fy mod yn torri fy nghysylltiadau â phawb, roeddwn i mor drist, oherwydd roeddwn i'n teimlo mor unig, ond yn teimlo bod yn rhaid i mi guddio fy ngwir deimladau er mwyn amddiffyn fy nheulu. Ond doedd gen i ddim syniad fy mod ar fin derbyn y Driniaeth a’r Rheolaeth Gofal Cleifion gorau a gefais erioed. Gallaf ddweud hynny â “fy llaw ar fy nghalon”, oherwydd fy nghyflwr, rwyf wedi derbyn triniaeth sawl gwaith, yn anffodus. Cefais fy synnu i ddechrau, ond yn fwy na hynny roeddwn yn hapus dros ben oherwydd, er gwaethaf bob dim, derbyniais lythyr gan Ysbyty Glan Clwyd yn rhoi gwybod imi eu bod wedi derbyn fy nghyfeiriad. Teimlais ochenaid mawr iawn o ryddhad. Fe wnaethant esbonio’n garedig, gydag empathi, y byddai’r broses yn anffodus yn cymryd mwy o amser oherwydd pandemig Covid 19 a’r holl gyfyngiadau clo. Wrth gwrs roeddwn i'n deall ac yn parchu hynny, roedd yn galondid gwybod eu bod wedi derbyn fy nghais o leiaf. Mewn gwirionedd roeddwn yn ofni ac yn credu y byddai'n rhaid i mi aros misoedd ar fisoedd am apwyntiad, tan y byddai'r cyfyngiadau’n cael eu codi, a’r effaith y byddai hyn, yn ddi-os, yn ei chael ar gleifion eraill fyddai angen eu blaenoriaethu. Serch hynny, er gwaethaf hyn i gyd sylweddolais yn fuan iawn nad felly y byddai hi. Cychwynnais ar fy nhaith i dderbyn fy Mewnblaniad Cochlear anhygoel, dan arweiniad clinigydd gwych a’r timau Awdioleg a Llawfeddygol. Rhaid dweud eu bod i gyd yn hollol anhygoel. Yn ystod yr wythnosau a ddilynodd roeddwn wrth fy modd pan ddywedon nhw wrthyf i eu bod, er gwaethaf y cyfyngiadau, yn gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio gofalu am eu cleifion i gyd trwy gynnal apwyntiadau gyda meddygon ymgynghorol yn rhithwir trwy gyswllt fideo. Fel claf roeddwn wedi fy syfrdanu fod hyn yn bosib, ac unwaith eto fe wnaeth hyn godi fy ngobeithion a chynnig sicrwydd i mi.

Yn ystod fy apwyntiad cyntaf un, fe wnes i gyfarfod â chlinigydd anhygoel ac eglurodd yn fanwl i mi’r broses Mewnblannu. Erbyn diwedd yr apwyntiad, roeddwn yn teimlo bod gennyf ddealltwriaeth tipyn gwell o beth yn union oedd y broses o Fewnblannu Teclyn Cochlear ac yn emosiynol, roedd y clinigwr wedi codi fy ysbryd. Dros yr wythnosau a'r misoedd wedyn, cefais y wybodaeth a’r gefnogaeth i gyd gan y tîm drwy apwyntiadau cyswllt fideo rheolaidd. Roedd fy ngŵr a’n chwaer gyda mi yn ystod ein hapwyntiadau cyswllt fideo er mwyn iddynt gyfleu i mi’r hyn a drafodwyd. Unwaith eto, roedd y clinigwr yn wych am deipio popeth roedd hi'n ei ddweud wrthyf er mwyn i mi allu darllen a hefyd anfonodd y trawsgrifiad ataf er mwyn i mi fedru ei ddarllen eilwaith. Anfonwyd Llyfryn Mewnblaniad Cochlear ataf hefyd. Roedd hyn yn wych i mi oherwydd roeddwn yn gallu gweld a darllen am y tîm gwych a'r swyddi penodol y mae pob un ohonynt yn eu gwneud.

 

Roedd yn help mawr i mi gael esboniad cam wrth gam. Roeddwn i’n gallu deall y cyfan hefyd, oherwydd bod y clinigwr wedi egluro'r cyfan i mi eisoes. Cyn bo hir roeddwn yn teimlo fy mod yn ffodus dros ben.  Roeddwn i'n gwybod mai'r tîm anhygoel oedd fy achubiaeth ac fe wnaethon nhw fy nghynnal a gwneud i mi deimlo'n llawn gobaith a fy mod yn cael gofal da.

 

Roedd eu cefnogaeth “heb ei ail”.  Hebddyn nhw byddwn wedi’i chael hi’n anodd iawn. Cefais apwyntiadau cyswllt fideo rheolaidd, tan fod yr apwyntiadau wyneb yn wyneb yn ailddechrau. Roeddwn yn sicr eu bod i gyd yn gweithio'n ddiflino er fy mwyn i, ac er mwyn bob un o Gleifion Mewnblaniadau Cochlear, y tu ôl i'r llenni, er gwaethaf cyfyngiadau Covid. O ran diogelwch cleifion a’r peryglon oherwydd yr Argyfwng Covid, nid oeddwn yn teimlo’n bryderus nac yn ofidus, er gwaethaf y ffaith fy mod mewn grŵp risg uchel, ar unrhyw adeg pan oeddwn yn mynychu apwyntiadau wyneb yn wyneb oherwydd bod Ysbyty Glan Clwyd yn drylwyr dros ben a bob amser yn dilyn y protocol amddiffyn ac felly roedd pob ymweliad yn cael ei gynnal yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Roedd fy apwyntiadau i gyd, o’r cyfnod cyn y driniaeth hyd at y llawdriniaeth ei hun, mor drylwyr. Doedd dim byd wedi cael ei esgeuluso, o’r sganiau pen, profion archwilio clust, iechyd cyffredinol, profion gwaed, i’m lles yn gyffredinol. Ar y dechrau roeddwn i'n meddwl efallai y byddwn yn ei chael hi'n anodd deall popeth oedd yn cael ei drafod, oherwydd fy mod i'n fyddar, ond roedden nhw'n wych o ran hyn hefyd, gan deipio popeth roedden nhw'n drafod ar sgrin eu cyfrifiadur er mwyn i mi fedru darllen. Roedd hyn yn beth anhygoel i mi, oherwydd roeddwn i'n teimlo eu bod nhw’n deall mor bwysig oedd hi fy mod yn dal i reoli’r sefyllfa. Ni fyddaf byth yn anghofio hyn, oherwydd fe roddodd hyn hyder ac annibyniaeth i mi.

 

Y llawdriniaeth

Mae'r broses gyfan mor fanwl ac rwy’n ystyried fy hun yn glaf lwcus iawn. Roedd y gefnogaeth gyson a gefais yn ddi-guro a byddaf yn ddiolchgar am byth amdano. Yna ym mis Awst, cefais y newyddion gorau yn y byd, y newyddion a fyddai’n newid fy mywyd. Roedd fy llawdriniaeth i ddigwydd ar 15 Medi 2020, ac mi fyddwn yno am y dydd. Felly, fy apwyntiad nesaf oedd fy apwyntiad cydsynio pan gefais y pleser llwyr o gwrdd â’m Llawfeddyg. Roedd y tîm llawfeddygol yn wych. Oherwydd fy Nghyflwr Mitocondriaidd, ail-ystyriwyd y sefyllfa a phenderfynwyd y byddwn yn aros yn yr ysbyty dros nos , a chytunais i hynny, wrth gwrs...

Roedd y tîm cyfan mor ofalgar, hyfryd a gwych. Wrth gwrs, roeddwn yn nerfus ac yn teimlo ychydig yn ofnus, ond diflannodd hyn yn sydyn iawn oherwydd fod bob dim wedi’i gynllunio mor drefnus ar gyfer fy nhriniaeth. Waeth beth fyddai unrhyw gymhlethdodau posibl, byddai’r tîm cyfan, heb os, yn sicrhau bod pob un claf, gan gynnwys fi fy hun, yn barod, yn y ffordd fwyaf diogel posibl, i dderbyn y rhodd anghredadwy o fewnblaniad sy’n newid bywyd. Roedd diwrnod y llawdriniaeth yn ddiwrnod emosiynol dros ben ar bob lefel bosibl. Daeth Rebecca i gwrdd â mi cyn i mi fynd i’r theatr er mwyn rhoi fy Mag Offer Cochlear i mi, doeddwn i ddim yn gallu credu pa mor lwcus oeddwn i'n teimlo.

 

Roedd hi’n rhyddhad mawr i mi fy mod i’n gwella mor sydyn. Roedd y sgîl-effeithiau a'r hyn y gellid ei ddisgwyl ar ôl y llawdriniaeth wedi cael eu hesbonio i mi yn fanwl iawn eisoes. Yn dilyn fy nhriniaeth, ni chefais unrhyw benysgafnder nac unrhyw broblemau gyda nerfau’r wyneb, heblaw am ddiffyg teimlad ar ochr dde fy nhafod, sydd yn rhywbeth sydd yn medru digwydd. Mae'n teimlo fel mod i newydd fod gyda’r deintydd ac nid yw hyn wedi diflannu hyd yma, ond rwy'n siŵr y bydd yn gwneud yn y pen draw. Cefais gryn dipyn o boen yn fy mhen, ond llwyddais i reoli hynny drwy gymryd cyffuriau lleddfu poen. Fe wnes i brofi rhai cyfnodau penysgafn yn ddiweddarach ond roeddwn yn medru eu rheoli'n iawn. Roeddwn i'n synnu mor daclus oedd y graith y tu ôl i'm clust, ac mae wedi gwella’n dda. Dim ond ychydig o bwythau stribedi oedd eu hangen arnaf a chawson nhw eu tynnu ar ôl 7 diwrnod yn ystod fy apwyntiad gyda'r tîm llawfeddygol. Roedden nhw’n hapus gyda’r mewnblaniad a’r ffordd roeddwn yn gwella.

 

Troi’r teclyn ymlaen

Yna, yn ystod yr un apwyntiad ‘roedd hi’n bryd cymryd y cam fyddai’n newid fy mywyd - troi’r teclyn ymlaen... Esboniwyd i mi fod hyn yn digwydd fel arfer wythnosau ar ôl y driniaeth, ond roeddwn i mewn gwewyr mawr oherwydd fy mod i’n methu clywed. Roeddwn i wedi blino’n lân yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol felly unwaith eto roedden nhw’n anhygoel gyda mi ac fe wnaethon nhw fy mharatoi ar gyfer troi’r teclyn ymlaen”...

Yn ystod fy apwyntiad 7 diwrnod dilynol, gwnaeth y clinigwr nifer fawr o brofion sain gyda mi felly roeddwn yn barod, yn gyffrous ac yn emosiynol ar gyfer y cam nesaf. Ni allwn gredu’r peth - roeddwn yn gallu clywed synau yn glir yn syth, yna clywais fy hun yn siarad a gorau oll, clywais lais y clinigwyr am y tro cyntaf. Cafodd fy chwaer, Tina, ei hannog i ofyn cwestiwn i mi er mwyn gweld os fedrwn i ei ailadrodd yn ôl iddi, roedden ni “ar ben ein digon”, fe wnaethon ni wylo dagrau lu o ryddhad, roedd y peth yn anghredadwy. Does dim digon o eiriau i fynegi sut roeddwn i'n teimlo yn yr eiliad honno. Roedd fy nagrau yn ddagrau o lawenydd o’r diwedd. Wrth gynnal prawf gwelwyd bod fy nghlyw yn 70%, roedd hyn yn anhygoel o ystyried fy mod yn gwbl fyddar cyn y llawdriniaeth.

 

Gwnaeth y clinigwr brofion llais gyda mi ac roeddwn wedi fy syfrdanu oherwydd roeddwn yn gallu clywed yn glir iawn. Roedd fy ngŵr (Jimmy) yn aros amdanaf tu allan i’r drws. Pan siaradodd ef roeddwn yn medru ateb “rwy’n dy glywed”. Roedd hyn yn brofiad emosiynol dros ben. Roedd llais Jimmy yn swnio ychydig yn ddieithr i mi, ond roeddwn yn gallu ei glywed yn glir.

 

Wrth deithio adref, ffoniodd y teulu er mwyn cael gwybod yr hanes, ac roeddwn yn gallu dweud “helo, dw i’n medru’ch clywed chi”...!!! Eiliad amhrisiadwy; doedd fy nheulu a’m ffrindiau ddim yn gallu credu’r peth...! Pan gyrhaeddais adref at fy mab, James, roeddwn yn medru clywed ei lais yn union fel yr oeddwn wedi gwneud cynt, roedd y rhyddhad ar ei wyneb yn amlwg dros ben - eiliad emosiynol na fyddaf i byth yn ei anghofio. Dydy’r Tîm Awdioleg byth yn ildio’u cefnogaeth, rwy’n cael apwyntiadau dilynol rheolaidd ac adroddiadau cyson ar fy nghynnydd.

 

Byw gyda’r mewnblaniad

Mae’n gwbl wych. Rwy’n gwella bob dydd.

Mae'r tîm yn wych yn eu cefnogaeth a'u hanogaeth wrth i fi gymryd fy nghamau bach ymlaen ac yn gosod targedau bach i mi o ran fy nisgwyliadau personol fy hun.

Ni allaf fynegi gymaint o fendith yw derbyn y mewnblaniad. O'r diwedd rwy’n gallu siarad a gwrando ar fy mab, fy ngŵr, fy chwaer, yn ogystal â theulu a ffrindiau. Mae wedi adfer fy hyder ac rwy'n teimlo’n gwbl ddiogel pan fyddaf ar fy mhen fy hun, mae’r ansicrwydd a’r pryder wedi mynd erbyn hyn. Rwy’n gallu mwynhau holl synau bywyd bob dydd y mae pawb yn eu cymryd yn ganiataol. Rwyf hyd yn oed yn gallu gwylio fy hoff raglenni teledu unwaith eto.

 

Pan oeddwn yn fyddar am 6 mis, dim ond “Tipping Point” a “The Chase” roeddwn yn medru gwylio oherwydd roeddwn i'n dal i allu mwynhau eu gwylio heb y sain oherwydd rydw i'n gyfarwydd iawn â sut mae'r sioeau hynny'n gweithio. Wedi i mi dderbyn y Mewnblaniad, dês i i arfer â lleisiau ar raglenni, ond roeddwn yn dal i gael rhywfaint o drafferth gydag eglurder y sain a seiniau cefndir ac ati, ond unwaith eto, cefais gefnogaeth gan y tîm a fu mor garedig â rhoi meicroffon bach i mi. Rwy’n gosod hwn wrth y teledu neu yng nghanol y bwrdd pan fydd ychydig ohonom ni yn siarad gyda'n gilydd ar yr un pryd. Hyd yn oed sgyrsiau ffôn. Mae'n wych, mae mor glir. Mae'n braf iawn medru cael fy mywyd cymdeithasol yn ôl.  Rwyf hefyd wedi adennill hyder i wneud a derbyn galwadau ffôn yn annibynnol, heb orfod dibynnu ar fy nheulu.  Roedd hyn yn hollbwysig i mi er mwyn cynnal fy nghyflwr meddyliol ac emosiynol. Mae yna hefyd ddyfais o'r enw clip ffôn sydd yn rhoi cymorth wrth wneud galwadau ffôn. Mae'r holl ddyfeisiau hyn yn cael eu rheoli gan declyn rheoli o bell. Mae mor hawdd i'w defnyddio a gallwch addasu'r sain fel y mynnoch, i siwtio chi’ch hun. Efallai ei fod yn swnio'n eithaf cymhleth!! Ond maen nhw mor hawdd i'w defnyddio, “hyd yn oed i fi”...!!! Roeddwn wedi rhyfeddu pan osododd y tîm y dyfeisiau hyn fel bod fy ffôn symudol wedi'i gysylltu trwy Bluetooth yn syth i'm mewnblaniad. Ar y dechrau, gosodwyd y prosesydd allanol ar wifren hirach fyddai’n ffitio'n gyfforddus ar fy nghlust chwith, er mwyn rhoi cyfle i'r graith wella. Yn dilyn ychydig o ymweliadau pellach, cefais wifren fyrrach ar gyfer y prosesydd allanol ac mae hwn yn eistedd yn wych ar fy nghlust dde, ac yn gwbl gyfforddus. Maen nhw hefyd yn gwirio nad yw'r magnet sydd ynghlwm yn rhy gryf, gallai hyn achosi rhywfaint o ffrithiant, ond mae’n iawn. Yn dilyn ychydig o apwyntiadau pellach, cefais gynnig prosesydd diwifr, a oedd yn teimlo yn llawer mwy diogel wrth symud. Mae ganddo hefyd ddarn atodol sy'n clipio ar eich gwallt yn eithaf taclus sy'n cynnig sicrwydd pellach i chi. Dim peryg o’i golli o gwbl. Rwy'n gwisgo fy Mhrosesydd drwy'r amser, wrth gwrs. Dim ond pan fyddaf yn mynd i gysgu y byddaf yn ei dynnu. Felly dros nos, mae'r ‘charger’ sy'n dod gydag ef yn ei ail lenwi a hefyd yn ei gadw rhag unrhyw leithder. Mae'n wych - rwy'n siŵr ei fod yn para o leiaf 15-17 awr.

 

Er y byddwn i wedi bod wrth fy modd yn gweld yr un clinigwr ym mhob apwyntiad dilynol, esboniwyd i mi ei bod yn bwysig iddyn nhw ac i ni, eu cleifion, gael y cyfle i gyfarfod â chymaint â phosibl o’r tîm, ac yn bersonol rwy’n credu bod hyn yn syniad hyfryd. Maen nhw'n dîm gofalgar, cefnogol, anhygoel, bob un ohonyn nhw. Rwy'n wirioneddol teimlo fy mod yn “ymweld â’r teulu” oherwydd eu bod mor ofalus ohonof. Maen nhw yn esiampl i Ymddiriedolaethau GIG eraill ei ddilyn ar bob lefel. Gallent fod yn arwain y ffordd i bob Ymddiriedolaeth arall.

 

Nid wyf yn golygu unrhyw amharch a drwgdeimlad o bell ffordd, wrth ddweud hynny. Ond oherwydd fy mod wedi profi gymaint gyda fy Nghyflwr, ymweliadau Ysbyty diddiwedd, gallaf ddweud yn onest fy mod yn siarad o brofiad personol. I mi, mae’r tîm cyfan fel “Angylion” ac mor ddiymhongar wrth dderbyn canmoliaeth. Rwyf am ddweud wrth unrhyw un arall sy’n dioddef y golled enbyd o golli clyw, fy mod yn addo iddynt y bydd y tîm Awdioleg yn cydio yn eich dwylo, yn eich cymryd o dan eu hadenydd ac yn mynd â chi drwy’r cyfan. Maent yn newid ein bywydau i gyd trwy roi Mewnblaniadau Cochlear i ni. Rwy’n deall yn iawn pam mae’r meini prawf ar gyfer mewnblaniad mor fanwl oherwydd y gwaith aruthrol sydd wrth hyn i gyd. Rwy'n cyfrif fy mendithion bob dydd a byddaf yn ddiolchgar o waelod calon am byth am yr hyn y maen nhw wedi gwneud ac yn parhau i wneud i fi ac i'm teulu. Diolch am wrando ar fy stori Mewnblaniad Cochlear -llwyddiant anhygoel. Diolch i chi i gyd ymlaen llaw am roi o'ch amser i'w ddarllen. Hoffwn ddweud hefyd os ydych chi'n meddwl y gallaf gynnig unrhyw help neu gefnogaeth ar unrhyw adeg, bod croeso mawr i chi cysylltu â mi. Cadwch yn ddiogel, gofalwch amdanoch chi'ch hun, rydw i mor falch ohonoch chi i gyd yn ymladd yn erbyn y Pandemig Covid creulon dros eich cleifion i gyd.

 

 Sylwch: mae'r stori hon yn cynrychioli pen uchaf y sbectrwm ar gyfer defnyddwyr mewnblaniadau cochlear, mae’n bosib bydd eraill yn cymryd llawer iawn mwy o amser i gael y buddion a ddisgrifir ac efallai na fydd rhai byth yn cyrraedd y camau a nodwyd.