Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am Fewnblaniadau Cochlea

Mae mewnblaniadau cochlea yn rhoi ymdeimlad o glyw os oes gennych fyddardod difrifol neu ddwys. Dyfais electronig yw mewnblaniad cochlea sy'n cynnwys dwy ran: y rhan fewnol a'r rhan allanol ac mae'n gweithio mewn ffordd gwbl wahanol i'ch teclyn cymorth clyw.

Y rhan fewnol

Caiff y rhan fewnol ei mewnblannu'n llawfeddygol ac mae'n cynnwys derbynnydd gyda magned yn y canol sy'n cael ei leoli o dan y croen y tu ôl i'ch clust ac uwchben, a chyfres o electrodau sy'n cael eu gosod yn y cochlea (y tu mewn i'r glust). Mae'r magned yno i ddal y trawsyrrydd allanol yn uniongyrchol dros y derbynnydd sydd wedi'i fewnblannu. Mae'r derbynnydd yn dal y signal gan goil y trawsyrrydd ar du allan y croen ac mae'n ei anfon i'r electrodau yn y cochlea. Mae'r electrodau'n cyflawni rôl y celloedd sydd wedi'u difrodi yn y cochlea ac yn anfon signalau trydanol ar hyd nerf y clyw at yr ymennydd. Mae'ch ymennydd yn dysgu i gydnabod y signalau hyn fel seiniau.

Y rhannau allanol  

Mae'r rhannau allanol yn cynnwys meicroffon, prosesydd lleferydd a choil trawsyrru. Mae'r meicroffon yn derbyn seiniau o'ch amgylch ac yn eu troi'n signalau trydanol. Yna, caiff y signal ei drosglwyddo i'r prosesydd, sy'n prosesu ac yn addasu'r signal i ddiwallu eich anghenion ac yn ei anfon i'r coil trawsyrru sy'n cael ei osod yn wastad yn erbyn y croen sydd ychydig y tu ôl i'ch clust. Mae'n trosglwyddo'r signal i'r rhan fewnol (gweler y paragraff blaenorol). Mae'r meicroffon a'r prosesydd wedi'u lleoli y tu ôl i'r glust fel arfer, mewn dyfais sy'n edrych yn debyg iawn i declyn cymorth clyw mawr.