Neidio i'r prif gynnwy

Awdioleg

 

Diweddariad COVID-19 i wasanaethau Awdioleg

Mae Awdioleg yma i’ch helpu ac eich cefnogi gyda eich cymorthydd clyw GIG.  
Rydym yn moderneiddio ein gwasanaeth er mwyn gwella mynediad i chi.  
Tra rydym yn cysidro ac yn gwneud newidiadau rydych dal     angen apwyntiad i gael eich gweld wyneb i wyneb.
Gwelwch   ein safle wê am y wybodaeth diweddaraf.


Dylech mynychu yr adran os oes gennych apwyntiad wedi cytuno yn unig.

Os ydych yn claf sydd yn gael problem gyda eich cymorth clyw, gwelwch ein adnoddau hynan cynhorthwy

 


Mae awdioleg yn cynnwys gwyddorau clyw a chydbwysedd mewn plant ac oedolion.

Colli Clyw

Daw colli clyw yn sgil signalau sain ddim yn cyrraedd yr ymennydd. Mae dau brif fath o golli clyw, yn ddibynnol beth yw'r broblem. Achosir colli clyw nerfol drwy niwed i'r celloedd gwallt sensitif sydd y tu mewn i'r glust fewnol neu niwed i'r nerf clywedol. Bydd hyn yn digwydd yn naturiol gydag oed neu yn sgil anaf. Bydd colli clyw dargludol yn digwydd pan fydd seiniau'n methu pasio o'ch clust allanol i'ch clust fewnol yn aml oherwydd rhwystr megis cwyr clust neu glust ludiog.

Tinitws

Tinitws yw'r term am glywed seiniau sy'n dod o du mewn eich corff yn hytrach na ffynhonnell allanol.   Disgrifir yn aml fel "clychau yn y clustiau", er gellir clywed sawl gwahanol fath o sŵn.

Cydbwysedd

Gall problemau gyda'r system gydbwysedd yn y clustiau arwain at bendro.  Mae pendro yn symptom yn hytrach na'r cyflwr ei hunan.  Mae'n teimlo fel pe tasech chi neu'r amgylchedd o'ch cwmpas yn symud neu'n troi.