Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Mewnblaniadau Clyw

Ynglŷn â'n Gwasanaeth Mewnblaniadau Cochlea

Dechreuodd Gwasanaeth Mewnblaniadau Cochlea Gogledd Cymru, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan, ym 1990 ac rydym wedi rhoi mewnblaniadau i dros 500 o bobl dros y 33 mlynedd diwethaf. Rydym yn un o'r 23 o Wasanaethau Mewnblaniadau Cochlea arbenigol y GIG yn y DU ac rydym yn darparu gwasanaethau ar gyfer Gogledd Cymru a rhan o Ogledd-orllewin Lloegr. Rydym yn dîm cyfeillgar ac rydym yn hyderus y byddwn yn gwneud i chi deimlo ein bod yn gwrando arnoch a bod croeso i chi yn ein gwasanaeth.

Ein nod yw cynnig asesiad unigol sy'n mynd i'r afael â'ch anghenion personol o ran eich clyw a'r effaith y gallai hyn ei gael ar ansawdd eich bywyd. Rydym yn ymwybodol y gallai dderbyn cyfeiriad am asesiad mewnblaniad cochlea fod ychydig yn frawychus i rai pobl, ond hoffem roi sicrwydd i chi nad oes unrhyw rwymedigaeth ynghlwm wrth ddod ag asesiad a chi biau'r penderfyniad yn y pen draw - rydym ni yma i'ch arwain a'ch cynghori o ran gwneud y penderfyniad cywir i chi.

Proses Gyfeirio

Os yw'ch Awdiolegydd lleol neu'ch meddyg ENT yn teimlo ei bod yn briodol gwneud hynny, efallai y byddant yn trafod cyfeiriad am asesiad mewnblaniad cochlea gyda chi.

Os penderfynwch gael asesiad am fewnblaniad cochlea, bydd eich awdiolegydd/meddyg ENT yn eich cyfeirio atom am asesiad a byddwch yn derbyn apwyntiad i ddod am asesiad cychwynnol am fewnblaniad cochlea o fewn ychydig wythnosau.

Ochr yn ochr â'r llythyr apwyntiad, efallai y byddwch yn derbyn holiaduron a byddem yn ddiolchgar pe baech cystal â'u cwblhau cyn yr apwyntiad.

Os bydd angen i ni drefnu dehonglydd ar gyfer eich apwyntiad neu i roi cymorth gyda chludiant ysbyty, cysylltwch â ni.

Manylion Cyswllt

Ffôn: 03000 843862 
Ffôn Symudol (Neges Destun): 07557 312 522
E-bost: BCU.CochlearImplantEnquiries@wales.nhs.uk