Neidio i'r prif gynnwy

Colli cyw cynyddol - 2020

Nifer o flynyddoedd ar ôl y mewnblaniad: < 1 flwyddyn

Categori oedran: 70+ oed

Rheswm dros golli clyw:  Colli clyw cynyddol ôl-ieithog yn y ddwy glust

 

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Tîm Mewnblaniad yn y Cochlea am y rhodd wych o allu clywed yn well ac am ddyfeisio'r peiriant. Mae wedi rhoi fy hyder yn ôl i mi.

 

Fy nghlyw cyn y mewnblaniad

Rwy'n gallu clywed cymaint yn well rŵan nag a wnes i dros y 50 mlynedd diwethaf, ac rwy'n methu deall pam na wnes i holi am fewnblaniad yn gynt. Awgrymwyd y dylwn i ystyried cael mewnblaniad ddwy flynedd ynghynt gan nad oedd modd gwella fy nghlyw gyda chymhorthion clyw arferol. Fy ngholled i yw hynny, fe ddylwn i fod wedi gwrando ar gyngor da'r Awdiolegydd. Gan fy mod wedi colli fy nghlyw mor ddwys, roeddwn i'n colli fy hyder. Doeddwn i ddim am ymuno ag unrhyw grŵp gan y byddai'n ormod o straen ac yn flinedig iawn i mi. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud unrhyw fusnes o bwys ar y ffôn, a byddwn yn teimlo'n nerfus iawn pan fyddai'r ffôn yn canu. Doeddwn i ddim wedi clywed sŵn sgwrsio fy wyrion ac wyresau pan oedden nhw'n ifanc.

 

Asesiad ar gyfer mewnblaniad yn y cochlea

Roedd y cyfnod asesu o gymorth mawr. Roedd yna gymaint yr oeddwn i eisiau ei wybod a rhoddodd y cyfnod hwn amser i mi wneud fy asesiadau fy hun a chrynhoi'r hyn roeddwn i ei angen cyn gwneud penderfyniad. Ond y tu mewn ac yn ddistaw bach, roeddwn i'n dod yn fwy hyderus ac yn fwy sicr y byddai'r llawdriniaeth o fudd i mi.  Roedd y tîm asesu yn wych ac yn ateb unrhyw gwestiwn roeddwn i'n ei daflu atyn nhw. Roedden nhw'n galonogol dros ben ac roedd hyn yn rhoi llawer o hyder i mi wrth ddelio â phopeth.

 

Y llawdriniaeth

Yn amlwg, doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at y llawdriniaeth ac roeddwn i'n nerfus iawn. Roeddwn i'n gwybod fy mod mewn dwylo medrus iawn ac roedd popeth wedi cael ei esbonio i mi o flaen llaw. Ac yn wir, roedd yn union fel yr oedd y Tîm wedi'i egluro. Cefais fynd adref ar yr un diwrnod, er ei bod hi’n 10 o'r gloch y nos erbyn i mi gyrraedd gyda bag yn llawn o steroidau a chyffuriau lladd poen. Am rai dyddiau ar ôl y llawdriniaeth, roeddwn i'n teimlo braidd yn simsan ac wrth gwrs, doedd fy nghydbwysedd i ddim yn dda iawn am ddeuddydd. Ond fe wnes i wella'n fuan iawn. Rydw i'n ddibynnol ar fy sbectol, ac fe ddaeth yn amlwg na allwn i eu gwisgo am sawl diwrnod ar ôl y llawdriniaeth. Penderfynais dynnu'r fraich oddi ar hen bâr o sbectols er mwyn i mi allu gweld.

 

 

Troi'r swîts

Daeth diwrnod troi'r swîts. Doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl. Oedd, roedd yna lawer o sŵn siffrwd ond, yn raddol roeddwn i'n gallu clywed ambell air o sgwrs yn y mewnblaniad. Aeth fy ngŵr a minnau i’r ffreutur i gael tamaid i’w fwyta a dechreuais wrando ar sgyrsiau pobl eraill. Roeddwn i'n synnu fy mod yn gallu clywed ambell air. Doeddwn i ddim wrth gwrs, yn clywed brawddegau cyfan yn y cyfnod cynnar hwnnw. Roeddwn i hefyd yn gallu clywed rhai geiriau ar y radio yn y car ar y ffordd adref. Meddyliais mai dyma oedd dechrau fy antur gyda fy mewnblaniad ac mai dim ond gwella y byddai pethau o hyn ymlaen.

 

Byw gyda mewnblaniad yn y cochlea

Ddeng mis ar ôl  troi'r swîts, rydw i'n gallu clywed a mwynhau sgyrsiau fy wyrion. Mae’n bleser pur i mi fy mod cael fy nghynnwys yn eu bywyd nhw bob dydd eto. Mae gwrando ar y radio bellach yn bleser.

 

Rydw i'n gallu cynnal sgwrs gyda fy ngŵr pan fydd o mewn ystafell arall ac rwy'n clywed sŵn tician y bys eiliadau ar y cloc. Rwy’n clywed yr adar yn canu a phobl yn siarad wrth iddyn nhw gerdded heibio'r tŷ, a cheir yn dod ar hyd y ffordd y tu ôl i mi. Rwy’n gallu cael sgwrs dda ar y ffôn gyda ffrindiau heb orfod dyfalu beth maen nhw'n ei ddweud hefyd. Y peth da am gael mewnblaniad yn y cochlea yw ei fod yn gwella eich clyw ac y cewch fod yn rhan o'r gymdeithas eto gyda chymaint mwy o hyder a heb deimlo'n flinedig. Mae hefyd yn agor y drws at lawer o declynnau technegol sy'n eich galluogi i wella eich bywyd bob dydd, a byw bywyd yn well. Yn fy marn i, does yna ddim byd drwg am gael mewnblaniad yn y cochlea, dim ond manteision.

 

O’m profiad personol i, mi fyddwn i'n argymell mewnblaniad yn y cochlea i unrhyw un sy'n colli ei glyw yn ddrwg, waeth bynnag fo'i oed. Gall newid eich bywyd yn gyfan gwbl. Mae manteision cael mewnblaniad yn y cochlea wedi mynd y tu hwnt i'm disgwyliadau i.