Neidio i'r prif gynnwy

Colli clyw cynyddol - 2018

Blynyddoedd ar ôl gosod y mewnblaniad: ~2 flynedd

Categori oedran: 70+ mlwydd oed

Achos y colli clyw: Wedi colli clyw ers tro yn y ddwy glust (ar ôl datblygu defnydd o iaith) ac yna dirywiad dirybudd yn y clyw.

 

Fy Nghlyw cyn cael y Mewnblaniad

Rwy'n amau fy mod i'n wastad wedi bod fymryn yn fyddar, ond ni chefais i brofi fy nghlyw nes oeddwn i'n 55 mlwydd oed, a rhoddwyd teclynnau clywed i mi bryd hynny. O'r adeg pan oeddwn i yn fy 30au, nid oeddwn i'n gallu clywed ffôn yn canu mewn ystafell arall. Gwaethygodd pethau yn raddol ond roeddwn i'n gallu ymdopi hyd at ddwy flynedd fwy neu lai cyn cael y mewnblaniad, yna aeth pethau o ddrwg i waeth. Yn ystod un wythnos benodol, roeddwn i'n gallu siarad dros y ffôn â rhywun a oedd â llais clir ond bythefnos yn ddiweddarach, roedd eu llais yn gymysgedd o seiniau. Ni allwn glywed y radio na'r pethau yr oedd pobl yn eu dweud. Roedd yn gyfnod brawychus i mi, yn enwedig o gofio nad oes neb yn fyddar yn fy nheulu.

 

Rwy'n rhan o sawl grŵp ac roeddwn i'n wastad yn mynd allan i gymdeithasu â phobl. Daeth ymdeimlad dwys o golled a phoen wrth orfod rhoi'r gorau i'r mwyafrif helaeth o fy ngweithgareddau, ac roeddwn i'n teimlo fod popeth yn llanastr llwyr. Roedd ein pentref wedi sicrhau grant i redeg prosiect hanes llafar, a gofynnwyd i mi ymgymryd â'r prosiect, oherwydd rwy'n hanesydd ac wedi gwneud prosiectau tebyg. Byddai wedi bod yn wych oherwydd rwyf wrth fy modd yn gwrando ar straeon pobl eraill, ond bu'n rhaid i mi roi'r ffidil yn y to. Nid oeddwn i wedi sylweddoli faint o ymdeimlad o fod yn fi fy hun fel unigolyn oedd yn gysylltiedig â fy rhyngweithio â phobl eraill. Roedd fy ngallu i fwynhau bywyd yn gysylltiedig â'r rhyngweithio hwnnw i raddau helaeth. Nid oeddwn i'n teimlo fel bod dynol mwyach. Roeddwn i wedi arfer bod allan yn rhywle yn ddiddiwedd, ond erbyn hyn, roeddwn i'n tueddu i aros gartref, oherwydd pe bawn i'n cwrdd â rhywun yr oeddwn yn eu hadnabod a byddent yn sgwrsio â fi, roeddwn i'n annhebygol o allu deall beth oeddent yn ei ddweud. Mewn gwirionedd, ysgwyddais gyfrifoldeb am rwystro eu chwithdod; nid oeddwn i am iddynt orfod profi sefyllfa o'r fath.

 

Fe wnes i barhau i fod yn rhan o un grŵp celf yr wyf yn aelod ohono oherwydd roedd un o'r aelodau wedi cael mewnblaniad a byddai hi'n mynd ati'n fwriadol i sgwrsio â fi, ond wrth weld yr aelodau'n chwerthin a sgwrsio, teimlais fel rhywun ar y cyrion. Collais fy annibyniaeth hefyd, oherwydd roedd yn rhaid i mi ddibynnu ar fy ngŵr i ffonio pobl a chyfleu beth oedd pobl wedi'i ddweud. Fodd bynnag, nid oedd pethau'n ddu i gyd oherwydd ymdrechais i'r eithaf i ddysgu darllen gwefusau, ac fe wnaeth tri unigolyn gwych (fy ngŵr a dau ffrind) gyfranogi mewn sesiynau darllen gwefusau gyda fi. Roeddwn i wedi helpu ffrind i ddysgu sut i ddarllen gwefusau tra'r oedd hi'n disgwyl i gael mewnblaniad, pan oedd fy nghlyw yn weddol, a nawr, roedd hi'n fy helpu i. Roedd tiwtor ysgrifennu wedi hysbysebu i geisio recriwtio disgyblion yng nghylchgrawn Action on Hearing Loss, felly cychwynnais ysgrifennu ac es i ati i baentio mwy. Datblygais ffobia gyrru, ond rwyf wrthi'n goresgyn hynny.

 

 

Asesiad am Fewnblaniad yn y Cochlea

Ni wnes i hoffi'r asesiad am fewnblaniad yn y cochlea - nid oherwydd y staff, a oedd yn gefnogol iawn, ond oherwydd yr oedd yn rhoi sylw o reidrwydd i'r pethau na allwn eu gwneud, ac roeddwn i'n gallu gwneud llai a llai o bethau bob tro. Roeddwn i'n teimlo'n nerfus bob tro oherwydd roedd cymaint o bethau yn dibynnu ar y canlyniadau, ac roeddwn i'n teimlo'n isel iawn ar ôl methu â chyflawni'r lefel ofynnol. Roedd yn rhwystredig oherwydd gwyddwn nad oeddwn i'n gallu ymdopi'n iawn â bywyd beunyddiol. Pan aeth popeth i'w le, ni allwn i gredu hynny.

 

Cefais lawer iawn o wybodaeth am y mewnblaniad a'r llawdriniaeth, a chefais wybod bod amrywiaeth o ddeilliannau posibl. Gwelais y llawfeddyg a chefais sawl sgan, a chefais wybod am y pethau a allai fynd o'u lle.

 

Y Llawdriniaeth

Nid oeddwn i'n disgwyl rhyw lawer a dweud y gwir, ac nid oeddwn i wedi cael llawdriniaeth ers tro byd, felly roedd amgyffred cael llawdriniaeth ar fy mhen yn anodd braidd. Cefais fy synnu o weld sawl gwaith y gwnaethant wirio fy enw a'r llawdriniaeth ddisgwyliedig. Daeth y llawfeddyg a'r anaesthetegydd i fy ngweld i cyn ac wedi'r llawdriniaeth, a rhoddodd hynny gyfle i mi ddiolch iddynt. Fe wnaeth y ddau ateb fy holl gwestiynau. Tynnwyd llun o saeth fawr ar fy ngwddf yn pwyntio at y glust lle'r oedd y driniaeth i fod i ddigwydd.

 

Ni wnes i gychwyn teimlo'n ofnus nes oedd y troli yr oeddwn i arni ar y ffordd i'r theatr, a bu'n rhaid i mi wrthsefyll awydd i neidio oddi ar y troli a rhedeg i lawr y coridor. Wedi hynny, rwy'n cofio rhywun yn y theatr yn gafael yn y masg oedd gen i dros fy nhrwyn, ac yna, nyrs yn dweud "Peidiwch ag yfed mor gyflym", ac roeddwn i'n ôl ar dir y byw. Roedd gen i fymryn o gur pen, ond heblaw am hynny, roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi cael noson dda o gwsg, ac roeddwn i'n teimlo'n barod i fynd adref.

 

Roedd brechdan yno, ac am wn i y gallai fod wedi bod yn ddarn o garped, oherwydd roedd fy synnwyr blasu wedi newid. Yr unig beth oedd yn blasu yn ôl yr arfer oedd cwrw a thomatos, a chefais i ddeiet diddorol a difyr am ychydig ddyddiau. Dychwelodd fy synnwyr blasu ymhen ychydig ddyddiau. Tynnwyd llun pelydr X a gofynnodd y llawfeddyg i mi dynnu ystumiau arno i sicrhau bod nerfau'r wyneb yn gweithio. Roedd rhwymyn crêp mawr o amgylch fy mhen, ac roedd fy ngwallt yn dod allan o frig y rhwymyn, felly roeddwn i'n edrych yn debyg i binafal. Ar ôl tynnu'r rhwymyn yn ddiweddarach, gwelais eu bod wedi defnyddio talp mawr o gel i godi fy ngwallt ar ochr y mewnblaniad, tebyg i steil gwallt Mohican ar un ochr. Nid oeddent wedi eillio fy ngwallt. Felly fu fy ngwallt am ryw bythefnos nes cefais ganiatâd i olchi fy ngwallt. Wedi rhyw awr neu ddwy, dywedodd y Brif Nyrs, "fe gewch chi ddianc rŵan".

 

Roeddwn i'n teimlo braidd yn benysgafn am rhyw ddiwrnod neu ddau, yn gwegian yn feddw wrth gerdded i nôl y papur newydd, ond diflannodd hynny ymhen dim.

 

Troi'r teclyn ymlaen

Cefais siom ar ôl troi'r teclyn ymlaen. Roedd dau unigolyn yr wyf yn eu hadnabod sydd wedi cael mewnblaniadau yn y cochlea wedi cael canlyniadau da yn syth bin, ac er fy mod i'n gwybod o safbwynt ystadegol na fuaswn i'n cael canlyniadau mor dda, bu'n siom. Roedd dau o bobl ddieithr yn yr ystafell, ac fe wnaeth hynny fy mwrw oddi ar fy echel oherwydd nid oeddwn i'n gwybod sut fyddai'r ymateb.

 

Pan siaradai'r Awdiolegydd, roedd yn swnio fel rhywun yn defnyddio sugnwr llwch - dim goslef, ac am ddiwrnod neu dda, gallwn glywed yr un peiriant sugno llwch, ni waeth pwy a siaradai. Wedi hynny, roedd traw y sugnwr llwch yn amrywio, ac yn raddol, daeth lleisiau go iawn i'r amlwg. Ar adeg troi'r teclyn ymlaen, gallwn wahaniaethu rhwng sŵn dŵr rhedegog a sŵn yr Awdiolegydd yn cnocio ar y bwrdd. Ond ar y ffordd adref, cychwynnodd pethau weithio, gallwn glywed sŵn ticia ysbeidiol. Sŵn cyfeirydd y car oedd hynny. Gofynnais i fy ngŵr droi i'r dde ac i'r chwith sawl gwaith er mwyn gallu clywed y sŵn.

 

Yn ystod y diwrnodau cyntaf wedi'r driniaeth, clywais lawer o sgrechian ac udo arallfydol, a oedd yn hollol wahanol i unrhyw seiniau cyfarwydd - gallent od wedi bod yn seiniau cefndir gwych ar gyfer ffilm arswyd. Gwyddais