Neidio i'r prif gynnwy

Colli clyw cynyddol - 2015

Blynyddoedd wedi'r mewnblaniad: 5 mlynedd

Categori oedran: 51-70 mlwydd oed

Achos y colli clyw: Colli clyw cynyddol yn y ddwy glust (ar ôl datblygu defnydd o iaith) ac yna dirywiad dirybudd yn y clyw.

 

Fy Nghlyw cyn cael y Mewnblaniad

Roeddwn i wedi bod yn drwm fy nghlyw yn ystod mwyafrif fy oedolaeth. Tua 6 mis cyn cael llawdriniaeth i gael mewnblaniad yn y cochlea, profais ddirywiad dirybudd ychwanegol yn fy nghlyw, ac yn sgil hynny, nid oeddwn yn gallu gwahaniaethu rhwng synau. Roedd effaith hynny'n drychinebus i mi. Fe es i'n isel fy ysbryd, gan sylweddoli na fuaswn i fyth yn gallu clywed fy narpar wyrion ac wyresau yn siarad, ni fuaswn i'n gallu parhau i fwynhau'r theatr ac ni fuaswn yn gallu cymdeithasu. Nid oeddwn yn credu y buaswn yn parhau â fy swydd, yr oeddwn yn ei mwynhau yn fawr ac a oedd yn hynod o werth chweil. Roeddwn i'n galaru yn sgil colli fy nghlyw a fy mywyd gwaith blaenorol, roedd fy mywyd 'wedi oedi'. Bûm i'n absennol oherwydd salwch am bedwar mis yn ceisio dygymod â beth oedd wedi digwyddiad i mi. Rwy'n ffodus fod gen i ŵr a theulu cefnogol o fy amgylch i.

 

Asesiad am Fewnblaniad yn y Cochlea

Gofynnodd y Gwasanaeth Awdioleg yng Nghaer i'r Meddyg ENT fy ngweld i, a chefais fy nghyfeirio i gael asesiad am Fewnblaniad yn y Cochlea yn Ysbyty Glan Clwyd. Cefais wybod yn fuan iawn fy mod i'n ymgeisydd addas iawn am hyn. Rhoddwyd fy enw ar y rhestr aros, ac roeddwn i'n rhoi'r argraff fy mod yn awyddus, ond roeddwn i'n bryderus ynof i fy hun oherwydd roeddwn i'n credu na fuaswn i fyth yn clywed fel rhywun sy'n gallu clywed, a byddai seiniau yn swnio fel 'Mickey Mouse' neu 'Dalek'. Roeddwn yn rhoi'r argraff fy mod i'n gadarnhaol, ond yn breifat, roeddwn i'n teimlo'n isel iawn. Roeddwn i'n ysu am gael bod fel oeddwn i unwaith eto, ac yn gwrthod derbyn fod hyn wedi digwydd i mi. Gofynnwyd i ni fynychu cyfarfod grŵp cymorth yn Lerpwl i sgwrsio â phobl a oedd eisoes wedi cael y mewnblaniad, a bu rhai o'r straeon a glywsom yn ysbrydoliaeth fawr i mi. Dywedodd pob un ohonynt fod hynny wedi gweddnewid eu bywyd, ac roedd hynny'n galonogol iawn i mi, yn enwedig pan ddeallais fod un ddynes yn weithwraig gymdeithasol wedi ymddeol a oedd wedi cael y mewnblaniad bum mlynedd cyn ei hymddeoliad. Roeddwn i felly'n teimlo'n obeithiol iawn y gallwn i ddychwelyd i weithio.

 

Cychwynnais fynychu dosbarthiadau darllen gwefusau, ac fe wnaethom ni archebu dosbarthiadau iaith arwyddion hefyd, a bu'n rhaid i ni dalu am hynny. Fe wnaethom benderfynu mynd gyda'n gilydd fel y gallem ymarfer gyda'n gilydd a chyfathrebu gartref. Fe wnaethom fynychu cwrs IRP a drefnwyd gan Hearing Link yn Newcastle ym mis Ionawr. Roedd hynny'n brofiad gwych. Fe wnes i gwrdd â gwirfoddolwraig oedd wedi cael mewnblaniad yn y cochlea ddwy flynedd cyn hynny fwy neu lai, ac roedd hi'n gallu cyfathrebu'n dda iawn. Rodd hi'n gaffaeliad i'r grŵp. Roeddwn i'n un o blith chwech o bobl fyddar, nid fi oedd yr unig un, a chawsom ein hannog i gamu allan o'n cylch cysur a chymdeithasu, sgwrsio, mynd i fowlio, gofyn cwestiynau i ddieithriaid, popeth yr oeddwn i wedi rhoi'r gorau i'w gwneud oherwydd yr oeddwn i'n dibynnu cymaint ar fy ngŵr am bethau. Ar ôl hynny, yr oeddwn i'n barod i ddod yn rhan o'r ddynoliaeth unwaith eto! Dychwelais i weithio yr wythnos ddilynol fel rhan o gynllun dychwelyd yn raddol. Nid oeddwn i'n gwneud fy swydd i fy hun, ond yn cynnig cymorth gweinyddol dros dro i ddau dîm gwahanol. Roedd pawb ohonynt mor groesawus ac yn gwerthfawrogi fy ymdrechion, ond roedd gweithio'n amser llawn yn anodd i mi, roedd yr ymdrech i geisio clywed yn achosi cymaint o gur pen i mi, roedd hynny'n lladdfa. Roedd gen i lawer o wyliau blynyddol heb eu hawlio oherwydd roeddwn i wedi bod yn absennol am bedwar mis, felly fe wnes i ddefnyddio hynny i gael wythnosau a diwrnodau byrrach. Daeth yr iaith arwyddion, sillafu â bysedd a darllen gwefusau yn rhan o'n harferion beunyddiol.

 

Roeddwn wedi cael fy asesu i ganfod a oeddwn i'n addas i gael mewnblaniad yn y cochlea, roeddwn i wedi cael profion clyw ac wedi gweld y therapydd lleferydd a'r llawfeddyg. Roeddwn i'n dal i ddisgwyl i gael gwybod am ddyddiad y llawdriniaeth.

 

Y Llawdriniaeth

Cefais e-bost gan y tîm mewnblaniadau yn y cochlea yn cynnig dyddiad i gael fy mewnblaniad, a bachais ar y cyfle yn syth. Roeddwn i wedi cael yr asesiad cyn y llawdriniaeth bythefnos ynghynt, ac roeddwn i'n barod amdani!

 

Roedd angen i mi gyrraedd Ysbyty Glan Clwyd erbyn 7.30am ar ddiwrnod fy llawdriniaeth. Roedd y system yn slic iawn, ac roedd y staff nyrsio yn barod iawn eu cymorth ac yn wybodus am eu maes. Fe wnaethom weld y llawfeddyg a'r anaesthetegydd, ac wedi hynny, roeddwn i'n disgwyl am y cyfle i fynd i fyny i gael y driniaeth. Roeddem ni'n aros gyda'n gilydd mewn ciwbiclau gyda'n gilydd, ac roedd hynny'n ddelfrydol, oherwydd roeddem ni'n gallu sgwrsio a darllen ac ati yn gyfforddus. Roeddwn i wedi cael llawer o negeseuon ar Facebook a negeseuon testun anogol gan ffrindiau a theulu, a gallwn eu darllen ac ymateb iddynt oherwydd ceir WiFi am ddim yn yr ysbyty hefyd. Cyn y llawdriniaeth, roedd yn rhaid eillio rhywfaint o'r gwallt yn barod at y driniaeth. Clymais y gwallt nad oeddent yn bwriadu'i eillio yn ôl, fel na fyddai ar y ffordd. Cefais dipyn o sioc wrth weld faint o wallt yr oeddent yn ei dorri, roedd yn ymddangos yn llawer iawn o fy safbwynt i, yna nid oedd y peiriant torri gwallt yn gweithio, a bu'n rhaid defnyddio rasel untro ac ewyn eillio. Roedd hynny'n dipyn o syrcas, ac yn annifyr braidd. Roedd hi'n dda cael cerdded i'r theatr. Cefais fy rhoi yn nwylo staff y theatr, ac roedd hi'n dda eu gweld yn gwneud cymaint o wiriadau i sicrhau mai fi oedd y claf iawn i gael y driniaeth, ac unwaith eto, roedd pob aelod o'r staff yn garedig iawn.

 

Mae gennyf lymffodoema yn fy mraich chwith wedi llawdriniaeth flaenorol, ac roeddwn i'n poeni y gallai fy mraich chwith gael ei defnyddio trwy gamgymeriad i osod caniwla neu fesur pwysedd y gwaed, ond nid oedd angen i mi boeni, oherwydd gellid defnyddio fy llaw dde a'm braich dde i wneud popeth yn ddidrafferth. Cefais fy rhoi i gysgugan bwyll bach, ac roedd hi fel pe bawn i'n cael fy neffro eiliadau yn ddiweddarach, a rhywun yn dweud fod fy ngŵr a'r mab yn disgwyl amdanaf i ar y ward, ac roedd yn wych eu gweld yno. Roeddwn i'n teimlo braidd yn bensyfrdan, ond yn iawn. Roedd gen i rwymyn mawr o amgylch fy mhen, ac roedd fy ngŵr yn awyddus i dynnu llun ohono. Roedd pwysedd fy ngwaed braidd yn isel, a chefais fy annog i yfed digon. Rhoddwyd llond jwg o ddŵr a chwpan i mi, roedd peiriant diodydd poethion yno at ddefnydd cleifion hefyd, roedd te a choffi ar gael i mi. Cefais frechdan hefyd. Sylwais ar flas rhyfedd yn fy ngheg, roedd blas rhyfedd ar fwyd, ac roedd agor fy ngheg i fwyta yn anghyfforddus hefyd. Cefais gynnig parasetamol i leddfu'r poen, a llyncais hwy. Fe wnaeth fy ngŵr fy helpu i fynd i'r toiled ac oddi yno, roeddwn i'n gallu ymdopi heb gymorth. Ar ôl i fy ngŵr adael, sylwais ar waed yn diferu i lawr fy ngwddf. Fe wnaeth hyn beri rhywfaint o fraw i mi ac fe wnes i hysbysu'r staff, ac ar ôl holi, fe wnaethant fy sicrhau nad oedd angen i mi boeni. Fodd bynnag, ni wnaeth hynny dawelu fy meddwl. Roedd y ddynes yn y Cwrs IRP wedi cysylltu â fi ar Facebook, felly fe wnes i anfon neges breifat ati hi a chawsom ni sgwrs hir a hyfryd yn rhannu profiadau, a dywedodd hi ei bod hithau wedi profi gwaed yn diferu. Fe wnes i dagu ychydig o fflem nifer o weithiau, ac roedd ôl gwaed sylweddol ynddo. Roeddwn i'n bryderus iawn am hyn, ond unwaith eto, fe wnaeth y staff dawelu fy meddwl drwy ddweud fod y tiwb mewndiwbio wedi crafu wrth gael ei dynnu fwy na thebyg. Cefais wrthfiotigau trwy IV, ac fe es i i gysgu oddeutu 11pm. Deffrais ymhen ychydig oriau, ac er i mi geisio mynd yn ôl i gysgu, ni allwn ond hepian. Cefais lawer o glustogau i ddal fy mhen yn ei le, ac roeddwn i'n pryderu y gallai'r rhwymyn ddatod oherwydd mae fy ngwallt yn drwchus ac yn hydwyth. Nid oeddwn i'n gyfforddus iawn, a chefais ragor o foddion lleddfu poen oddeutu  5am. Roeddwn i'n ysu am gael mynd adref erbyn hynny, ac am orwedd yn fy ngwely cyfforddus. Bu'n rhaid i mi fynd i'r tŷ bach sawl gwaith oherwydd roeddwn i'n yfed cymaint o ddŵr ac yn mwynhau'r te a'r coffi a oedd ar gael. Mae hynny'n syniad gwych yn fy marn i. Cefais ddigonedd o de a choffi, ac fe wnaeth y rhan fwyaf o'r staff gynnig dod â diodydd poeth i mi hefyd. Daeth meddyg i fy ngweld i oddeutu 9am a thynnodd y rhwymyn. Roedd llawer o waed ar y gorchudd. Ar ôl archwilio, dywedodd ei fod yn fodlon â'r hyn yr oedd wedi'i weld, ac ychwanegodd y buaswn yn dychwelyd i'r clinig ENT y dydd Iau dilynol i gael tynnu'r pwythau. Cadarnhaodd nad oedd unrhyw barlys. Edrychais yn y drych i weld sut olwg oedd ar y clwyf, ni allwn i weld y clwyf a dweud y gwir, ond cefais sioc unwaith eto wrth weld faint o'r gwallt oedd wedi'i eillio. Roeddwn i'n edrych yn ffôl oherwydd roedd y gwallt oedd wedi'i glymu yn sefyll i fyny, ac roedd y gwallt o amgylch cefn fy ngwddf yn un geden o waed sych. Gofynnwyd i mi gadw'r clwyf yn sych am 3-4 diwrnod, felly roeddwn i'n gwybod na allwn i olchi fy ngwallt, felly roedd y llanastr oedd arnaf i yn peri gofid i mi. Roeddwn i'n cysuro fy hun gan ddweud y byddai'n tyfu'n ôl, ond ynof i fy hun, roeddwn i'n ddagreuol wrth weld y fath olwg a oedd arnaf i. Cefais y pelydr X a gofynnod y staff i mi a hoffwn i weld y llun. Roedd yn rhyfeddol gweld y mewnblaniad yn ei le, ac roeddwn i'n teimlo'n ddagreuol braidd wrth ei weld, ac yn poeni braidd oherwydd roedd hi'n ymddangos fod y derbynyddion yn arnofio, roeddwn i'n meddwl y dylent fod wedi'u cysylltu â nerf y clyw. Cefais fy sicrhau bod popeth yn iawn. Dychwelais i'r ward ac anfonais neges destun at fy ngŵr i ofyn iddo ddod i fy nôl i. Roeddwn i newydd orffen fy nghinio pan gyrhaeddodd o.

 

Tynnodd fy ngŵr luniau o'r clwyf fel y gallwn ei weld. Cefais arswyd o weld pa mor hir oedd y clwyf, yn hirach o lawer nag oeddwn i wedi'i dybio, roeddwn i hefyd yn meddwl y byddai wedi'i osod ymhellach i fyny fy mhen, nid oeddwn i wedi dychmygu y buasai tu ôl i fy nghlust.  Roeddwn i mor falch yn cael cyrraedd adref, roedd yr holl staff wedi rhoi gofal a sylw eithriadol o dda i mi, ond does unman yn debyg i gartref! Dychwelais adref y prynhawn dilynol, ac a dweud y gwir, roeddwn i'n difaru fy mod i wedi gwneud cymaint â hynny’r wythnos ddilynol, roeddwn i'n teimlo'n sâl, roedd fy nghydbwysedd yn ofnadwy, roedd yn rhaid i mi bwyso ar waliau oherwydd roeddwn i'n ofni disgyn, roedd y clwyf yn boenus, ni allwn i olchi fy ngwallt, nid oeddwn i'n gallu cysgu, roedd blas bwyd wedi newid ac roedd blas ofnadwy ar y rhan fwyaf o fwyd. Ni wnes i fwyta dim ond wyau wedi'u potsio a Marmite ar dost am ddeg diwrnod oherwydd roedd blas ffiaidd ar bopeth arall - roedd pethau melys yn waeth na dim.

 

Dychwelais i Ysbyty Glan Clwyd i gael tynnu'r pwythau a chael prawf rhagarweiniol, a chefais wybod bod y mewnblaniad yn gweithio'n dda, ac roedd hi'n argoeli'n dda i allu troi'r mewnblaniad ymlaen, a digwyddodd hynny bedair wythnos wedi fy llawdriniaeth.

 

Troi'r teclyn ymlaen

Ni allaf ddisgrifio sut deimlad oedd gallu clywed unwaith eto, roeddwn i'n disgwyl y byddai popeth yn swnio fel Dalek neu fel llais cyfrifiadur, ond nid felly oedd pethau, roedd traw llais fy ngŵr yn swnio'n uchel, ond ymhen deg munud, roedd yn swnio'n union fel yr oeddwn i'n ei gofio.  Roedd Jenny'n fodlon iawn â'r 'mapio' cyntaf, a gofynnodd i ni fynd i gael cinio yn ffreutur yr ysbyty. Cefais fy rhyfeddu gan y pethau y gallwn eu clywed, sŵn agor paced o greision a'u crensian, pobl yn sgwrsio ger bwrdd ymhell i ffwrdd, y synnau yn yr ystafell ymolchi! Aethom allan am dro i'r maes parcio ac roeddwn i'n gallu clywed y faner yn clepian ar y polyn. Fe wnaethom ddychwelyd i gael rhagor o brofion gan y therapydd lleferydd. Gallwn glywed bron iawn bob gair a ddywedodd hi â'i cheg wedi'i chuddio, ac fe wnes i hyd yn oed ddefnyddio'r ffôn yn ei swyddfa. Yna, fe aethom i weld Jenny unwaith eto, ac fe wnaeth hi ailchwarae'r brawddegau trwy'r seinydd ar y ddesg, a chlywais bob gair fwy neu lai! Er enghraifft, ‘the clown has a funny face’ oedd y frawddeg, a chlywais ‘the clown has a silly face’. Erbyn hyn, rwy'n teimlo fod fy nghlyw yn normal, ac er nad yw'n normal o bell ffordd, mae'n teimlo'n normal i mi!

 

Byw gyda mewnblaniad yn y cochlea

Mae clywed trwy'r mewnblaniad yn llawer iawn gwell na chlywed trwy declyn clywed, mae'n llawer iawn haws ymdopi â'r holl sŵn cefndir sydd mor drafferthus. Yn achos y teclyn clywed, doedd hi fyth yn dawel, roedd sŵn yn tarfu bob amser, pethau mecanyddol megis gwyntyll ac ati, ond dydy hynny ddim yn digwydd o gwbl yn achos y mewnblaniad. Byddai'n dda pe gallwn i adael prosesydd y mewnblaniad yn ei le trwy'r adeg a pheidio fyth â'i dynnu - byddaf yn anghofio fy mod i'n fyddar!

Mae fy myd yn hollol ddistaw heb y prosesydd. Mae'n rhaid i mi wrando'n weithredol i allu clywed, gallaf glywed pethau sydd y tu ôl i mi, ond mae'n rhaid i mi wrando'n weithredol. Byddaf yn mynd i'r theatr, yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn mynychu unrhyw ddigwyddiad y byddaf yn cael gwahoddiad i fynd iddo. Dychwelais i weithio wythnos ar ôl 'troi'r teclyn ymlaen' ac ymdopais yn rhyfeddol o dda. Roedd angen gwneud nifer fechan o addasiadau. Roeddwn i'n defnyddio'r ffôn gartref, ond ni fuaswn i'n gwneud hynny fel rhan o fy ngwaith, oherwydd mae'n anodd nodi a oes unrhyw synnau cefnir. Rwy'n gweld eisiau pethau, rwy'n dal i gamddehongli pethau, ond nid yw hynny'n digwydd mor aml erbyn hyn.

 

Yn gryno, mae'r mewnblaniad yn y cochlea wedi gweddnewid fy mywyd, rwy'n fwy hyderus, rwy'n obeithiol am y dyfodol, byddaf ym mwynhau digwyddiadau cymdeithasol, mae'n fendigedig!