Neidio i'r prif gynnwy

Colli clyw cynyddol - 2014

 

Blynyddoedd ar ôl y mewnblaniad: 6 mlynedd

Categori oedran: 51-70 mlwydd oed

Rheswm dros golli clyw: Colli clyw hir sefydlog mewn un glust ar ôl dysgu iaith, colli clyw cynyddol yn y glust arall ac yna colli’r clyw yn sydyn.

 

Fy nghlyw cyn y mewnblaniad

Fy nghlyw cyn i mi fynd yn fyddar ym mis Gorffennaf 2013. Roeddwn i wedi cael problemau sinws ers sawl blwyddyn ac roedd hyn wedi achosi rhai trafferthion gyda fy nghlyw. Fy nghlust dde oedd y glust orau a'r glust chwith, y wannaf. Roeddwn yn cael problemau gan fod fy nghlustiau yn llenwi efo catâr.

 

Fe gefais i bigyn clust am rai dyddiau tua phythefnos ar ôl hedfan yn ôl o'r Unol Daleithiau. Roeddwn i'n meddwl ei fod o rywbeth i'w wneud â'r pwysedd yn yr awyren. Fe ddiflannodd y pigyn clust mor gyflym ag y daeth. Ond yn sydyn, tua phythefnos wedyn, pan oeddwn i'n teithio mewn car gyda ffrind, fe es i'n fyddar. Roeddwn i'n gwybod bod fy ffôn symudol yn canu ond doeddwn i ddim yn gallu ei glywed, na chlywed fy ffrindiau yn y car yn siarad â mi, na’r radio er bod y sain wedi ei droi i'r lefel uchaf. Stopiodd fy ffrind y car ac fe wnaethom benderfynu y byddai'n mynd â mi at y meddyg. Cefais archwiliad gan y meddyg. Roedd hi'n meddwl mai'r pwysedd yn ystod yr hediad o'r UDA oedd wedi achosi problem â'r pwysedd yn fy nghlustiau. Rhoddodd lythyr i mi gan ddweud wrtha i am fynd i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Arrowe Park.

 

Doeddwn i ddim wedi cael unrhyw rybudd fy mod ar fin colli fy nghlyw. Wnes i ddim teimlo'n benysgafn na'n chwil nac yn sâl. Roedd yn union fel diffodd swîts. Er i'r meddyg yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys wneud sawl prawf, doedd ganddo ddim syniad beth oedd wedi achosi i mi golli fy nghlyw, a chefais fy nerbyn ar y ward yn syth. Y diwrnod canlynol, daeth meddyg ymgynghorol i fy ngweld ac fe drefnodd i mi gael profion clyw bob dydd, sgan CT, sgan MRI a phrofion eraill dros y cyfnod o bum diwrnod y byddwn i yn yr ysbyty. Roedd yn rhaid i bawb ysgrifennu beth yr oedden nhw eisiau ei ddweud wrtha i neu i egluro beth yr oedden nhw'n mynd i'w wneud i fy helpu. Roeddwn i ar ocsigen am 5 diwrnod hefyd rhag ofn y byddai'n fy helpu, ond ni wnaeth. Roedden nhw hyd yn oed yn sôn y byddai'n rhaid i mi fynd i siambr ddatgywasgu ond, fe benderfynwyd yn erbyn y syniad hwnnw yn y diwedd. Yn y pendraw, fe ddywedwyd wrtha i nad oedd dim y gallen nhw wneud i fy helpu i gael fy nghlyw yn ôl a chefais fy nghyfeirio at Mr Anthony yn Ysbyty Glan Clwyd.

 

Asesiad ar gyfer mewnblaniad yn y cochlea

O fewn wythnos, roedd gen i apwyntiad i weld meddyg ymgynghorol a oedd yn arbenigo mewn mewnblaniadau yn y cochlea. Roedd wedi'i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd. Cefais apwyntiad i weld Mr Anthony yn Ysbyty Glan Clwyd o fewn yr wythnos ar 5 Awst 2013. Rhwng mis Awst 2013 a mis Hydref 2013, bu'n rhaid i mi fynd i Ysbyty Glan Clwyd nifer o weithiau i gael asesiadau a phrofion eraill. Yna, penderfynwyd y byddwn i'n addas ar gyfer llawdriniaeth mewnblaniad yn y cochlea yn fy nghlust chwith. Doedd fy nghlust dde ddim yn addas oherwydd strwythur esgyrn y glust honno. Bu'n rhaid i mi gael trafodaethau gyda seicolegydd hefyd i weld a fyddwn i'n gallu ymdopi â'r llawdriniaeth, beth oeddwn i'n ei obeithio byddai'r canlyniadau, a sut y byddwn i'n ymdopi pe na bai'r llawdriniaeth yn llwyddiannus. Roedd yr wybodaeth hon yn cael ei bwydo'n ôl i Mr Anthony er mwyn iddo gael ei thrafod yn ystod y cyfarfodydd tîm.

 

Daeth Mr Anthony yn ôl ataf i ddweud y byddai'n fodlon gwneud y llawdriniaeth petawn i'n hapus gyda hynny. Fe wnes i drafod fy opsiynau gyda Mr Anthony. Roeddwn i'n teimlo mai'r dewis gorau i mi fyddai cael y llawdriniaeth er mwyn i mi gael fy nghlyw yn ôl yn fy nghlust chwith. Byddwn yn gallu cael cymorth clyw arferol yn fy nghlust dde a fyddai'n helpu cydbwyso'r sain.  Cyn i mi gael fy nerbyn ar gyfer y llawdriniaeth, cefais fy rhoi mewn cysylltiad â dynes a oedd wedi cael mewnblaniad yn y cochlea tua dwy flynedd ynghynt. Buom yn sgwrsio dros e-bost a chefais wybod bod yr amgylchiadau a achosodd iddi hi fynd yn fyddar yn hollol wahanol i fy rhai i! Roedd hi'n gysur mawr ac yn gallu trafod fy mhryderon am fynd yn fyddar a chael mewnblaniad yn y cochlea.

 

Cyn i mi gael fy llawdriniaeth, a rhwng mis Gorffennaf 2013 a mis Ionawr 2014, roeddwn i'n hollol fyddar ac yn methu clywed dim. Ar y dechrau roeddwn i'n oriog ac wedi mynd i fy nghragen. Roeddwn i'n dawedog oherwydd fy mod wedi mynd yn fyddar mor sydyn. Ond ar ôl ychydig o wythnosau, roeddwn i wedi dod ataf fy hun, ac yn teimlo'n bositif ynglŷn â'r dyfodol. Roeddwn i'n gofyn i bobl ysgrifennu pethau i mi, ac fe ddysgais sut i ddarllen gwefusau, a dechrau mynd i siopa gyda fy ngwraig.

 

Troi'r swîts

Er i mi gael y llawdriniaeth ddydd Iau, 16 Ionawr 2014, doeddwn i ddim yn gallu clywed dim nes i ni droi swîts y mewnblaniad ym mis Chwefror 2014.  Roedd yn rhaid i mi fynd yn ôl i Ysbyty Glan Clwyd bob mis am tua 3 mis er mwyn cynyddu'r sain at lefel a oedd yn fy siwtio i orau, ac i gael rhagor o brofion. Yna, roeddwn i'n cael archwiliad bob 6 mis am ddwy flynedd. Erbyn hyn, rwy'n cael archwiliad bob blwyddyn. Mae'r tîm yn Ysbyty Glan Clwyd ar ben y ffôn neu rwy'n gallu cysylltu â nhw drwy e-bost pan fydd arna i angen unrhyw gyngor neu gymorth.

 

Byw gyda mewnblaniad yn y cochlea

Mae cael y mewnblaniad wedi gwenud byd o wahaniaeth i mi. Rwy'n gallu clywed ac rwy'n hapus i gymysgu a chymdeithasu gyda phobl fel roeddwn i'n arfer ei wneud.  Ym mis Mai 2019, cafodd fy nyfais ei huwchraddio i'r prosesydd clyfar Nucleus. Mae hwn wedi fy helpu i glywed yn well, ond mae hefyd yn golygu fy mod yn gallu derbyn galwadau o fy ffôn symudol yn uniongyrchol i'm clust drwy'r mewnblaniad yn y cochlea a'r prosesydd yn fy iPhone 7. Mae'r prosesydd clyfar Nucleus newydd hefyd wedi fy ngalluogi i gael sgyrsiau ar fy ffôn symudol gyda fy nheulu a'm ffrindiau, rhywbeth nad ydw i wedi gallu ei wneud am 6 mlynedd. Rydw i’n gallu gwrando ar Newyddion BBC - BBC iPlayer a BBC Sport, rhywbeth na wnes i erioed o'r blaen. Mae wedi rhoi mwy o ddewis i mi o ran cael gwybodaeth am beth sy'n mynd ymlaen yn y byd bob dydd. Mae gen i ffrydiwr teledu yn fy nghartref hefyd sy'n fy ngalluogi i wrando ar y teledu drwy'r prosesydd clyfar er mwyn peidio ag amharu ar aelodau’r teulu sy'n gwylio'r rhaglen ar yr un pryd â mi.

 

Mae cael mewnblaniad yn y cochlea a phrosesydd newydd wedi newid fy mywyd. Mewn pum mlynedd dim ond un sylw negyddol rydw i wedi'i gael ynglŷn â methu siarad ar y ffôn gyda chwsmer. Mae pawb arall eisiau gwybod mwy am y mewnblaniad a sut mae'n gweithio, ac rydw i wedi esbonio hyn dros sawl paned o de, cacen a bisged. Mae pawb yn meddwl bod fy sgwrs am sut mae'r mewnblaniad yn y cochlea a'r prosesydd yn gweithio yn hynod o ddiddorol.  Does dim amheuaeth, mi fyddwn i'n argymell i unrhyw un sy'n bodloni'r meini prawf i gael llawdriniaeth mewnblaniad yn y cochlea, i gael y llawdriniaeth. Bydd yn agor y drws at fyd newydd, fyddan nhw ddim yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gadael allan, ac fe fyddan nhw'n gallu clywed sgyrsiau'n fwy eglur.

 

Mae’n fwy o ymrwymiad i rai pobl addasu a dygymod â gosod mewnblaniad yn y cochlea, ac yna dod i arfer â chlywed synau newydd unwaith y bydd y mewnblaniad wedi'i droi ymlaen, â’r sain yn cynyddu fesul cam dros y misoedd cyntaf.  Ni allaf roi digon o ganmoliaeth i Mr Anthony, fy Meddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd, y staff Nyrsio a’r holl staff eraill ar y tîm mewnblaniad yn y cochlea yn Ysbyty Glan Clwyd am y gefnogaeth i mi dros y blynyddoedd, pan fyddaf yn mynychu clinigau, naill ai yn Ysbyty Glan Clwyd neu Glinig Glannau Dyfrdwy. Hefyd y Meddygon a’r staff yn Ysbyty Arrowe Park a ofalodd amdanaf yn ystod fy arhosiad 5 diwrnod wrth iddynt gynnal nifer o brofion i ddarganfod pam y bu i mi golli fy nghlyw mor sydyn. Nhw benderfynodd fy nghyfeirio at Mr Anthony yn Ysbyty Glan Clwyd a oedd yn arbenigo mewn gosod mewnblaniad yn y cochlea, a oedd, yn eu barn nhw, yn mynd i allu fy helpu i gael fy nghlyw yn ôl.

 

Rwy’n falch o ddweud bod cael mewnblaniad yn y cochlea wedi bod yn llwyddiant mawr i mi!