Neidio i'r prif gynnwy

Beth i'w ddisgwyl o'r asesiad?

Er mwyn bod yn gymwys i gael mewnblaniad cochlea ar y GIG, mae'n rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwyster fel y'i pennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE). Mae'r meini prawf hyn yn seiliedig ar lefelau eich clyw a'ch gallu i glywed iaith lafar.

Nid yw cael eich cyfeirio am asesiad mewnblaniad cochlea'n golygu y cewch gynnig mewnblaniad cochlea gan y bydd yn rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwyster a mynd trwy ein hasesiadau addasrwydd cyn cael cynnig mewnblaniad cochlea. Gallwch benderfynu tynnu'n ôl o'r asesiad ar unrhyw bryd os teimlwch nad yw cael mewnblaniad cochlea'n addas i chi.

Mae asesu am fewnblaniad cochlea'n cynnwys ychydig o gamau gwahanol:

1. Apwyntiad asesu cychwynnol

Yn yr apwyntiad cychwynnol, byddwch yn gweld Awdiolegydd a fydd yn gofyn cwestiynau i chi am eich nam ar y clyw, eich hanes meddygol, cymhorthion clyw a ffordd o fyw. Yna, bydd yn cynnig profion amrywiol yn cynnwys prawf clyw a phrofion lleferydd er mwyn canfod p'un a ydych yn gymwys i gael mewnblaniad cochlea. Ar ddiwedd yr apwyntiad, byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych yn bodloni'r meini prawf am gymhwyster i gael mewnblaniad ac yn trafod y camau nesaf gyda chi, os byddwch am barhau gyda'r asesiad.

Os ydych yn gymwys i gael mewnblaniad cochlea a'ch bod am barhau gyda'r asesiad am mewnblaniad cochlea, byddwch yn cael eich gweld yn ddiweddarach am yr apwyntiadau canlynol:

2. Asesiad adsefydlu

Yn ystod yr apwyntiad hwn, byddwch yn gweld Adsefydlydd Clywedol, a fydd yn trafod yr adsefydliad sy'n berthnasol wrth gael mewnblaniad cochlea. Mae adsefydlu'n cyfeirio at y cyfnod ar ôl troi'r mewnblaniad ymlaen pan fyddwn yn eich helpu i ddod i'r arfer â'ch mewnblaniad cochlea. Gall fod yn waith eithaf caled ac felly, mae angen i ni wneud yn siŵr eich bod yn barod am hyn. Efallai y bydd rhai holiaduron cychwynnol am eich disgwyliadau o ran mewnblaniad cochlea er mwyn sicrhau eu bod yn realistig ac nad ydynt yn rhy fawr neu'n rhy fach. Caiff y broses adsefydlu ar ôl y llawdriniaeth ei hesbonio i chi hefyd.

3. Sganiau

Mae arnom angen cwblhau dau sgan fel y cawn ddarlun cyfan o'r glust fewnol: sgan CT a sgan MRI.

4. Cwnsela ynghylch risgiau

Byddwch yn gweld aelod o'r tîm a fydd yn esbonio'r broses lawfeddygol yn fanylach. Llawdriniaeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf yw llawdriniaeth mewnblannu cochlea ac mae'n ddiogel iawn ar y cyfan. Ni fydd y mwyafrif o bobl yn cael unrhyw broblemau mawr ar ôl y llawdriniaeth hon ond yn yr un modd â phob gweithred lawfeddygol, mae rhai risgiau cysylltiedig a chaiff y rhain eu hamlinellu i chi yn yr apwyntiad hwn.

5. Asesu meddygol

Gan fod cael mewnblaniad cochlea'n cynnwys llawdriniaeth sy'n gofyn am anaesthetig, bydd angen i ni asesu eich addasrwydd meddygol i gael llawdriniaeth. Bydd nyrs arbenigol cyn llawdriniaeth hyfforddedig yn gwneud hyn.

6. Cydsyniad

Yn ystod yr apwyntiad hwn, byddwch yn cyfarfod ag un o'n llawfeddygon mewnblannu cochlea ac ar ôl pob un o'r asesiadau uchod, os ystyrir eich bod yn addas i gael mewnblaniad cochlea, caiff ei gynnig i chi yn yr apwyntiad hwn. Caiff ffurflenni cydsyniad eu llofnodi'n barod ar gyfer y llawdriniaeth. Yna, cewch gynnig dyddiad am lawdriniaeth maes o law.

Gwybodaeth a chwnsela

Yn ystod eich asesiad, byddwch yn cael gwybodaeth am beth ddylid ei ddisgwyl gan fewnblaniad cochlea os byddwch yn parhau, bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad cytbwys ynghylch p'un a ydych yn teimlo bod mewnblaniad cochlea'n addas i chi.

Os ydych yn ystyried mewnblaniad cochlea, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig i chi gyfarfod â rhywun sydd â mewnblaniad cochlea ac sydd wedi bod trwy'r un proses. Fel hyn byddwch yn dysgu am eu profiadau cyn i chi gael y mewnblaniad ac mae'n cynnig darlun cliriach i chi o'r hyn y dylid ei ddisgwyl. Byddwn yn trafod hyn gyda chi a byddwn naill ai'n argymell eich bod yn mynd i un o'n Grwpiau Defnyddwyr lleol (a gynhelir yn Aintree, Wrecsam a Bodelwyddan) neu gallwn sicrhau cysylltiad un-wrth-un gydag unigolyn arall sydd wedi bod trwy'r un proses ac sydd â mewnblaniad cochlea.