Neidio i'r prif gynnwy

Beth fydd mewnblaniad cochlea'n ei roi i mi?

Mae hwn yn gwestiwn eithaf anodd i'w ateb gan y bydd y canlyniad i bawb sydd â mewnblaniad cochlea'n wahanol. Mae effaith mewnblaniad cochlea'n dibynnu ar lawer o ffactorau gan gynnwys hyd byddardod, yr hyn a achosodd nam ar y clyw, profiad gyda chymorthion clyw a llawer o ffactorau eraill. Heb wybod eich sefyllfa benodol eich hun, mae'n amhosibl dweud beth rydych yn debygol o'i glywed gyda mewnblaniad cochlea. Fodd bynnag, yr hyn rydym yn ei wybod yw bod y rheiny sy'n sgorio o fewn y meini prawf cymhwyster am fewnblaniad cochlea'n debygol iawn o glywed mwy gyda'r mewnblaniad cochlea nag y maent yn ei wneud gyda'r teclyn cymorth clyw. Y prif fuddiannau y soniwyd amdanynt yw:

  • Dibynnu llai ar ddarllen gwefusau
  • Clywed synau amledd uchel o'ch amgylch fel adar a larymau
  • Gallu cyfathrebu'n haws â phobl

Mae'r rheiny sy'n cael y canlyniadau gorau gyda mewnblaniad cochlea'n gallu dilyn sgwrs dros y ffôn a mwynhau cerddoriaeth ond nid yw hyn yn wir yn achos pawb sy'n cael mewnblaniad cochlea. Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny sy'n defnyddio mewnblaniadau cochlea yn dal i gael anawsterau'n dilyn sgwrs mewn ystafell swnllyd ond gall hyn wella trwy ymarfer. Bydd ein staff yn trafod hyn ymhellach gyda chi pan fyddwch yn dod am asesiad os canfyddir eich bod yn bodloni'r meini prawf am fewnblaniad cochlea.