Neidio i'r prif gynnwy

A yw mewnblaniadau cochlea'n addas i'r holl oedolion sydd â nam ar y clyw?

Nac ydynt. Efallai y bydd mewnblaniad cochlea'n addas os oes gennych fyddardod synwyrnerfol difrifol neu ddwys yn y ddwy glust, ac os nad yw cymhorthion clyw yn helpu cymaint ag yr oeddent yn y gorffennol. Arwydd da i ddangos pryd y gallai mewnblaniad cochlea fod yn well i chi na theclyn cymorth clyw yw pan na allwch ddilyn sgyrsiau dros y ffôn. Daw byddardod synwyrnerfol fel arfer o ganlyniad i ddifrod i gelloedd bach yn y cochlea sy'n ymateb i synau ac yn anfon gwybodaeth yn ymwneud â nhw at eich ymennydd. I fewnblaniad fod yn effeithiol, mae'n rhaid i nerf eich clyw weithredu er bod eich cochlea wedi'i ddifrodi.