Neidio i'r prif gynnwy

A fydd mewnblaniad cochlea'n addas i mi?

Os cawsoch fyddardod dwys ar ôl i chi ddatblygu sgiliau iaith lafar, efallai y bydd mewnblaniad cochlea'n addas, ond nid felly yw hi i bawb.

Os ydych yn oedolyn sydd wedi bod yn fyddar o adeg eich geni, neu cyn dysgu i siarad neu i ddeall iaith, efallai na fydd mewnblaniad cochlea'n addas i chi. Mae hyn oherwydd ei bod yn well bod â rhywfaint o gof am sŵn er mwyn amgyffred y signalau a gynhyrchir gan y mewnblaniad. Fodd bynnag, gall rhai oedolion a gafodd eu geni'n fyddar neu a aeth yn fyddar o oedran ifanc gael budd sylweddol o fewnblaniad cochlea, cyn belled â'u bod wedi rhoi cynnig ar gymhorthion clyw yn y gorffennol a'u bod yn awyddus i glywed.

Os cewch fudd digonol o gymhorthion clyw pwerus modern â mowldiau sy'n ffitio'n dda, ac y gallwch ddilyn iaith lafar yn eithaf da heb ddarllen gwefusau, rydych yn annhebygol o gael eich ystyried am fewnblaniad cochlea.

Efallai y byddwch yn cael mwy o fudd o'ch mewnblaniad os byddwch yn ei dderbyn yn fuan ar ôl mynd yn fyddar (<10 mlynedd). Fodd bynnag, nid yw'ch oedran yn bwysig pan fo meddygon yn penderfynu p'un a fydd mewnblaniad yn addas i chi. Mae'n bwysig bod eich iechyd yn dda a'ch bod yn gallu cael llawdriniaeth fawr. Os cewch fewnblaniad, bydd arnoch angen digon o gefnogaeth gan eich teulu, eich ffrindiau a gweithwyr proffesiynol, yn enwedig wrth i chi ddysgu i'w ddefnyddio.