Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau iechyd i ymwelwyr â Gogledd Cymru

Os ydych yn sâl neu'n cael damwain ar wyliau yng Ngogledd Cymru, defnyddiwch y gwasanaeth iechyd cywir

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ymweliad diogel ac iach â Gogledd Cymru, ond os byddwch yn mynd yn sâl neu'n cael eich anafu yn ystod eich arhosiad yna mae ein gwasanaethau GIG yma i'ch helpu.

Mae Gogledd Cymru yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid a gall fod yn brysur iawn yn ystod misoedd yr haf. Gall ein hysbytai a’n clinigau iechyd hefyd fod yn brysur iawn ar adegau prysur.

Helpwch ni i'ch helpu i gael y gofal gorau posibl cyn gynted â phosibl drwy ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd lleol cywir ar gyfer eich anghenion.

 

Dewch â'ch meddyginiaethau ar bresgripsiwn gyda chi

Os oes arnoch angen cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â digon gyda chi ar gyfer eich ymweliad â Gogledd Cymru.

Gall ceisiadau am bresgripsiynau rheolaidd gymryd peth amser i'w trefnu ar eich cyfer. Er mwyn sicrhau bod eich ymweliad yn un braf ac er mwyn osgoi amseroedd aros anghyfleus, trefnwch i ddod â'r holl feddyginiaethau y bydd eu hangen arnoch gyda chi.

Os ydych yn ymweld â gogledd Cymru ac angen ail bresgripsiwn, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu gartref neu fferyllfa gymunedol gerllaw i ddechrau. 

 

Adrannau Brys

Mae ein Hadrannau Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam ar gyfer anafiadau neu salwch sy’n bygwth bywyd yn unig, gan gynnwys anymwybyddiaeth, anhawsterau anadlu, trawiad posib ar y galon neu boen yn y frest, colled gwaed trwm, anaf difrifol a llosgiadau difrifol. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Gall ein Hadrannau Achosion Brys fod yn brysur iawn ar adegau. Helpwch ni i'ch helpu chi trwy ddefnyddio ein Hadrannau ar gyfer argyfyngau yn unig.