Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfeydd Cymunedol

Mae mwy na 100 o fferyllfeydd cymunedol mewn trefi a phentrefi ar draws Gogledd Cymru. Dyma yw eich man cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor iechyd arbenigol.

Mae fferyllfeydd yn cynnig gwasanaeth galw i mewn cyfeillgar er mwyn rhoi cymorth a chefnogaeth ar gyfer nifer o gyflyrau iechyd cyffredin. Yn aml, gallwch siarad â fferyllydd wyneb yn wyneb heb fod angen apwyntiad. Gall pob fferyllfa gymunedol gynnig meddyginiaethau dros y cownter a meddyginiaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin, gan gynnwys cyflyrau fel brech yr ieir, llindag (thrush) y fagina a llid yr amrannau (conjunctivitis) heb fod angen i’r claf weld meddyg.

Yn ystod eich ymweliad â Gogledd Cymru, mae’n syniad da gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae eich fferyllfa gymunedol agosaf – rhag ofn y byddwch ei hangen. Mae gan y rhan fwyaf o fferyllfeydd ystafelloedd ymgynghori preifat ac mae llawer yn agor yn hwyr ac ar benwythnosau.

Mae llawer o fferyllfeydd cymunedol yn cau ar wyliau banc. Helpwch ni i'ch helpu chi drwy wirio eich meddyginiaeth, ac archebu a chasglu eich ail bresgripsiynau cyn penwythnosau gŵyl y banc.

 

Gwasanaethau yn ein fferyllfeydd cymunedol