Neidio i'r prif gynnwy

GIG 111 Cymru

Mae GIG 111 Cymru ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ac mae’n cynnig arweiniad a gofal ar gyfer problemau meddygol nad ydynt yn rhai brys.

Gwefan GIG 111 Cymru yw eich pwynt cyswllt cyntaf pan fyddwch chi'n teimlo'n sâl.  Gallwch wirio'ch symptomau ar-lein i dderbyn cyngor a gwybodaeth ddibynadwy am ddim i'ch helpu i gymryd y camau gorau posibl.  

Ni ddylech ffonio rhif llinell dir GIG 111 Cymru oni bai bod eich pryder iechyd yn fater brys. Bydd hyn yn helpu cleifion i gael y cymorth a’r arweiniad priodol yn y lle iawn ar yr amser iawn.

Gwybodaeth am amseroedd aros ysbytai

Dylid defnyddio’r wybodaeth amseroedd aros cyfartalog' a adroddir ar wefan GIG 111 Cymru hon fel canllaw yn unig. Nid yw’r data’n gallu dweud wrthych ble rydych chi ar y rhestr aros.

Gwefan GIG 111 Cymru 

Sylwch fod yr ‘amseroedd aros cyfartalog’ 'amseroedd aros cyfartalog' a adroddir ar wefan GIG 111 Cymru yn seiliedig ar ba mor hir y mae’r cleifion sydd ar y rhestr aros ar hyn o bryd wedi bod yn aros hyd yn hyn. Mae’n cynnwys yr holl gleifion, o’r rhai sydd wedi ymuno â’r rhestr aros yn ddiweddar (felly caiff y rhain eu cofnodi fel rhai sydd wedi bod yn aros am gyfnod byr) ynghyd â’r rhai sydd ar fin cael eu gweld. Nid yw’n cynnwys unrhyw ragfynegiad yn ymwneud â pha mor hir y bydd pob un o’r cleifion hyn yn gorfod aros yn y pen draw cyn cael eu gweld, ac felly nid yw’n amcangyfrif o gyfanswm amser aros cleifion.

Gwirwyr symptomau ar-lein

Mae'r gwirwyr symptomau ar-lein yn cynnig cefnogaeth os ydych chi'n teimlo'n sâl ac nid yw'n argyfwng meddygol.  Mae yna dros 40 o wirwyr symptomau i roi cyngor dibynadwy i chi ar eich camau nesaf.  Mae enghreifftiau’n cynnwys poen ddeintyddol, poen yn y cefn, brech ar y croen a mwy.

Rhestr A-Y Iechyd

Mae'r rhestr A-Y Iechyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf i'ch helpu gyda chyflyrau cronig, salwch cyffredin a gweithredoedd meddygol.  Mae ystod eang o bynciau gan gynnwys diabetes, asthma, yr eryr, norofeirws a mwy.  

Mae'r adran Byw’n Iach yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i'ch cynorthwyo a'ch lles meddyliol a chorfforol. Mae hyn yn cynnwys cyngor i’ch helpu i fwyta’n dda, cysgu’n well, rhoi’r gorau i ysmygu ac ati. 

GIG 111 opsiwn 2 - Cymorth iechyd meddwl brys i bobl o bob oed ar draws Gogledd Cymru

Mae’n bwysig ein bod ni gyd yn gofalu am ein hiechyd meddwl a’n lles. Felly, os oes angen i chi siarad â rhywun - neu os ydych yn poeni am rywun annwyl - ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2 i siarad ag aelod ymroddedig o’n tîm iechyd meddwl.

Rydyn ni yma 24 awr y dydd, saith niwrnod o’r wythnos – yn cynnig cymorth iechyd meddwl brys i bobl o bob oed ar draws Gogledd Cymru. Gellir ffonio o linell dir neu ffôn symudol yn rhad ac am ddim, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd yn weddill.

Gweler ein hyb iechyd meddwl am wybodaeth ac adnoddau cymorth amgen.

Pryd ddylwn i ffonio GIG 111 Cymru

Ffoniwch GIG 111 Cymru os yw’ch cyflwr yn un brys os nid yw’n fygythiad i fywyd yn eich tyb chi neu os byddwch angen sylw meddygol brys gan Feddyg Teulu y tu allan i’w horiau agor arferol ac ni all aros hyd nes y diwrnod gwaith nesaf.  Ffoniwch 999 mewn argyfwng meddygol.  

Gellir ffonio GIG 111 Cymru yn rhad ac am ddim o linellau tir a ffonau symudol ac mae’n cyfuno’r gwasanaethau a gynigiwyd yn flaenorol gan Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau.  Mae'r rhif ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ac mae’n cynnig arweiniad a gofal ar gyfer problemau meddygol nad ydynt yn rhai brys.

Bydd eich galwad yn cael ei hateb gan weithredwr galwadau hyfforddedig a fydd yn nodi ychydig o fanylion.  Yna cewch gynnig arweiniad a chymorth, eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol, neu gynnig apwyntiad yn un o'n canolfannau gofal cychwynnol. Os yw'r meddyg teulu o'r farn bod angen hynny, efallai y bydd ymweliad cartref yn cael ei drefnu.  

Darganfyddwch ragor o wybodaeth am wasanaethau lleol eraill eraill ledled Gogledd Cymru gan gynnwys Fferyllfeydd a hunan ofalUnedau Mân AnafiadauGwasanaeth Deintyddol Brys a chefnogaeth iechyd meddwl.