Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Tachwedd 9 2023

Mae dros 250,000 o lythyrau apwyntiadau i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref hwn bellach wedi’u hanfon at gleifion ledled Gogledd Cymru wrth i’n hymgyrch frechu barhau i fynd rhagddi.

Mae dros 80% o bobl sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn yn ein rhanbarth wedi cael gwahoddiad i ddod i gael eu hamddiffyn yn well rhag y firws y gaeaf hwn.

Mae tua 90,000 o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Ngogledd Cymru eisoes wedi cael eu brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref hwn, gan gynnwys llawer o’n trigolion hynaf a mwyaf imiwnoataliedig.

Bydd ein timau brechu a'n partneriaid yn aml yn rhoi mwy na 2,500 o frechlynnau atgyfnerthu yn ein rhwydwaith o glinigau bob dydd.

 

Eich apwyntiad

Rydym yn anfon apwyntiadau at bobl sy'n gymwys i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth glinigol, yn unol â chyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Bydd yr 20% sy'n weddill o gleifion cymwys, gan gynnwys gofalwyr a'r rhai sy'n byw gyda phobl imiwnoataliedig, yn derbyn manylion eu hapwyntiad yn ystod y tair wythnos nesaf.

Os ydych chi'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref hwn ond heb gael manylion eich apwyntiad eto, amynedd piau hi. Nid oes angen i chi gysylltu â ni.

Gallech gael eich apwyntiad mewn canolfan frechu gymunedol ger eich cartref neu yn eich meddygfa. Bydd eich llythyr yn cynnwys yr holl fanylion sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys dyddiad, amser a lleoliad.

 

Os yn berthnasol, sicrhewch eich bod yn cael eich brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref a'r brechlyn rhag y ffliw yr hydref hwn

Gallwch gadarnhau a ydych yn gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref hwn a brechlyn rhag y ffliw a chael gwybod sut rydych yn debygol o’u cael yma.

Bydd y mwyafrif o gleifion yn cael apwyntiadau ar wahân i gael eu dau frechlyn. 

Lle bo’n bosibl, efallai y bydd rhai cleifion yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref a'r brechlyn rhag y ffliw yn ystod yr un apwyntiad. Mae cael y ddau frechlyn ar yr un pryd yn ddiogel ac yn effeithiol.

Cofiwch amddiffyn eich hun yr hydref hwn - sicrhewch eich bod yn derbyn eich gwahoddiad i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref a'r brechlyn rhag y ffliw cyn gynted ag y bo modd.