Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Rhagfyr 27 2023

O ddydd Mawrth, 2 Ionawr, gall pob oedolyn sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw rhad ac am ddim, alw i mewn heb apwyntiad i un o’n clinigau brechu cymunedol

Dewch o hyd i leoliadau, dyddiadau ac amseroedd ar gyfer ein clinigau yma.

 

Y ffordd orau i amddiffyn rhag y ffliw

Mae'r ffliw yn ogystal â COVID-19 a feirysau eraill y gaeaf, bellach yn cylchredeg yng Ngogledd Cymru. Mae nifer y cleifion sy’n profi’n bositif am y ffliw yn ein hysbytai wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cynnydd pryderus wedi bod yn nifer yr achosion o’r ffliw ar draws Cymru.

Y ffordd orau i'ch amddiffyn eich hun yw cael brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn. Gall y brechlyn eich atal rhag cael y ffliw, lleihau difrifoldeb y symptomau os byddwch yn dal y feirws, a lleihau eich siawns o’i drosglwyddo.

Mae hefyd yn helpu i amddiffyn y gymuned ehangach rhag achosion, ac yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau GIG lleol yn ystod amser prysuraf y flwyddyn.

Mae mwy na 170,000 o bobl yng Ngogledd Cymru eisoes wedi rhoi hwb i’w hamddiffyniad rhag y ffliw drwy gael y brechlyn y gaeaf hwn.

 

Nid oes angen apwyntiad

Bydd ein clinigau brechu yn cynnig brechlyn rhag y ffliw a brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref, o ddydd Mawrth, 2 Ionawr. Gall pob oedolyn cymwys alw heibio heb apwyntiad i glinig i dderbyn y brechlynnau. Cewch ddewis cael un brechlyn neu'r ddau.

Dewch o hyd i leoliadau, dyddiadau ac amseroedd ar gyfer ein clinigau yma. Gallwch wirio a ydych chi’n gymwys i gael y brechlynnau ar ein gwefan.

Bydd llawer o feddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol yn dal i gynnig brechlyn rhag y ffliw hefyd.

Mae brechlynnau ffliw chwistrell trwyn, di-boen ar gael mewn meddygfeydd teulu ar gyfer plant dwy a thair oed (oedran ar Awst 31 2022).  Mae hi’n dal yn bosibl i blant ysgol o'r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 11 gael brechlyn chwistrell rhag y ffliw mewn clinigau dal i fyny a drefnir gan ein timau imiwneiddio ysgolion. Cadwch lygad am fwy o fanylion sy'n cael eu hysbysebu drwy’r ysgolion.

 

Os ydych chi eisoes wedi derbyn apwyntiad

Os ydych chi eisoes wedi derbyn llythyr apwyntiad gyda manylion eich brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref, gallwch gadw at y dyddiad a’r amser yn eich llythyr, neu ddewis galw heibio i ganolfan frechu pan fyddwch chi'n dymuno. Os byddwch chi'n galw heibio, nid oes angen i chi gysylltu â ni i ganslo eich apwyntiad gwreiddiol. Byddwch yn gallu cael eich brechiad rhag y ffliw yn eich apwyntiad os nad ydych wedi cael un yn barod y gaeaf hwn.

Rydyn ni'n gofyn i bobl sy'n galw heibio i fod yn amyneddgar - efallai y bydd rhaid i chi aros am ychydig ar adegau prysur. Byddwch yn barod i helpu ein timau drwy aros i agoriad ddod ar gael.